Ryw fath o ddadansoddiad/dyddiadur ar fywyd Gruff Meredydd, sydd yn hollol hileriys, dwi di chwerthin bron drw'r llyfr! Ma na CD efo'r llyfr i wrando arno tra'n darllen, ma hono jyst yn wych o ddoniol hefyd - ma'n rhaid ei ddarllen os dachi heb!
o meri an meri an meri an se dore mi jac y do jac y do galileo mi mi mi galileo mi mi mi
Diolch am f'atgoffa o hyn, Leusa, dwi wedi bod yn bwriadu ei gael ers tipyn. (Ond mi ddylwn i ailddarllen ac ystyried ac ymateb i'r Cyfansoddiada gynta, debyg
Llyfr y *mis*? Llyfr bob tri mis neu rwbath ...)
dwi di ddarllen o, a mae o'n hileriys! Caradog Pritchard ar ddrygs! dwi am son amdano fo yn fy egsam llafar lefel A am hwyl.
man werth ei ddarllen o masiwr.
ddoth ei dad o (yr enwog Dafydd Meredydd) i mewn i'r siop rhyw ddydd a gofynodd Dad "ydech chi wedi darllen llyfr Gruff?", dyma fo'n deud "di wedi darllen y tri tudalen cyntaf, ond feddyliais i wedyn mai'r peth callaf i wneud oedd ei roi o i lawr!" onin chwerthin i fi fy hyn am hir iawn!!
Oni yn meddwl fod y llyfr yn un da. Dos na'm digon o lyfrau or natur yna ar gael yn Gymraeg. Heb glywad y CD ddo (Ella bod fi wedi ond donim yn gwbod mae hwna oedd o). Ydi o yn bwriadu sgwenu llyfr arall?
I know my own nation the best. That's why I despise it the most. And I know and love my own people too, the swine. I'm a patriot. A dangerous man.
-Edward Abbey