Llyfr Da

Y Babell Lên ar lein

Cymedrolwr: Llewelyn Richards

Rheolau’r seiat
Y Babell Lên ar lein. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Jeni Wine » Maw 22 Mai 2007 2:08 pm

CORRACH a ddywedodd:
sian a ddywedodd:Seren Wen ar Gefndir Gwyn, Robin Llywelyn


Hi a'i dwedws hi.
Mae O'r Harbwr Gwag i'r Cefnfor Gwyn yn un da hefyd gan yr un awdur.


cytuno - clasuron

Hefyd, os am blot gafaelgar, tria Dan Gadarn Goncrit - Mihangel Morgan. Ffantabiwlys o nofal.
Aimable petite conne
Rhithffurf defnyddiwr
Jeni Wine
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1173
Ymunwyd: Sad 30 Awst 2003 3:51 pm
Lleoliad: llanbidinodyn lle mae'r cwn yn cachu menyn

Postiogan Dafydd Iwanynyglaw » Maw 22 Mai 2007 2:13 pm

Ar y pwnc o Alun Jones, mae "Pan Ddaw'r Machlud" yn dda (yn well o lawer na "Ac Yna Clywodd..") ac mae "Oed Rhyw Addewid" hefyd well ei ddarllen, ar wahan i'r ffaith ei bod hi'n gwneud i chdi isio daflu dy hun o dan y bws nesa ar ol ei darllen.
Ie, ie. Na fe.
Dafydd Iwanynyglaw
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 462
Ymunwyd: Maw 30 Mai 2006 10:39 am
Lleoliad: yma

Postiogan Garreg Lwyd » Maw 22 Mai 2007 3:24 pm

Mae Draw Dros y Tonnau Bach gan Alun Jones hefyd yn ardderchog – fy hoff un i ganddo, o bosib.

Beth am Geraint V Jones? Ei Uffern Ei Hun yn nofel ddifyr ddiweddar ganddo.

Neu beth am Eigra? Popeth rwyt ti'n chwilio amdano yn Rhannu'r Ty, nofel hanesyddol wedi ei gosod ym Methesda adeg Streic y Penrhyn.

Ac mae argraffiad newydd o Wythnos yng Nghymru Fydd ar fin cael ei gyhoeddi hefyd, mae'n debyg. Bydd hwnnw'n werth chwilio amdano ar ôl i ti orffen Fy Mrawd a Minnau!

:)
Ni leddir yr un genedl nac iaith onid gan ei phobl ei hun.
D. J. Williams
Garreg Lwyd
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 42
Ymunwyd: Maw 25 Hyd 2005 10:25 am
Lleoliad: Rhydaman

Postiogan obi wan » Maw 29 Mai 2007 9:20 pm

Walia Wigli (Goronwy Jones/Dafydd Huws), llyfr creadigol Cymraeg gorau'r ganrif hyd yma. Ei glust a'i sylwadaeth yn ddi-feth fel ei gilydd!
obi wan
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 61
Ymunwyd: Sad 17 Ebr 2004 3:44 pm

Postiogan gwyllt o'r coed » Llun 04 Meh 2007 12:41 pm

Ew ma gen i restr faith rwan! Ddim yn siwr am yr awgrym ynglyn a'r nofel fydd yn gneud imi fod isio lladd fy hun ar ol ei gorffen chwaith! 'Box set' Alun Jones ydi'r ateb yn amlwg.

Dwi'n hoff iawn o ysgrifau THPW, oes gan rhywun awgrym am ysgrifau mwy diweddar fyddai'n debygol o apelio? Cyfleus iawn ydi pytiau bach o lenyddiaeth i rhywun sydd gan ddyn bach 10 mis oed i'w ddifyrru!
Rhithffurf defnyddiwr
gwyllt o'r coed
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 5
Ymunwyd: Maw 22 Mai 2007 8:19 am
Lleoliad: Abersoch

Postiogan Garreg Lwyd » Llun 04 Meh 2007 1:43 pm

Mae Rhyfedd o Fyd gan Gruff Roberts yn gwneud y jobyn hyn yn dda iawn. Llyfr apelgar iawn sy'n trafod pethau mawr mewn ffordd ddifyr a Chymreig dros ben.

Neu beth am Byd Bethan a Mwy o Fyd Bethan – Gwanas ar ei gorau mewn ysgrifau bach hyfryd; maen nhw wedi bod yn ei cholofn yn yr Herald felly os wyt ti'n ffan selog o'r rheiny, falle byddi di'n cofio rhai ohonyn nhw. Maen nhw'n dal yn dda, cofia!
Ni leddir yr un genedl nac iaith onid gan ei phobl ei hun.
D. J. Williams
Garreg Lwyd
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 42
Ymunwyd: Maw 25 Hyd 2005 10:25 am
Lleoliad: Rhydaman

Postiogan Meg » Mer 20 Meh 2007 6:40 pm

Dwyt ti ddim wedi sôn am hiwmor, Gwyllt o'r Coed, ond dwi'n siwr dy fod yn ei werthfawrogi. Os felly, fy awgrym i am nofel dda gyda iaith raenus a phlot difyr ydi 'Y Ddraig Goch' gan Emlyn Roberts. Adlais o stwff Raymond Chandler, pobl yn cael eu llofruddio yn y Steddfod, a'r ditectif preifat 'ma (oes, mae ganddo broblem efo'r ddiod gadarn) yn trio dod o hyd i'r llofrudd, ac o'r herwydd yn gorfod mynd i'r Steddfod - rhywle mae o'n ei gasau. Hiwmor cynnil, clyfar a chymryd y pis o'n buchod sanctaidd. Mae rhai wedi ei fwynhau'n uffernol (fel fi) ond eraill ddim wedi deall yr hiwmor am ryw reswm. Dyro gynnig arno fo ac fe fyddai'n ddifyr gweld be ydi dy farn wedyn.
Meg
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 223
Ymunwyd: Sad 11 Ion 2003 1:06 pm
Lleoliad: Gogledd

Postiogan Llewelyn Richards » Llun 23 Gor 2007 10:52 am

Mae 'Dial yr Hanner Brawd' gan Arwel Vittle (cyhoeddwyd gan y Lolfa tua 4 blynedd nol) yn wych hefyd.
"What contemptible scoundrel has stolen the cork to my lunch?" W.C. Fields
Rhithffurf defnyddiwr
Llewelyn Richards
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1188
Ymunwyd: Iau 21 Awst 2003 3:28 pm

Postiogan Dafydd Pritchard » Llun 23 Gor 2007 2:37 pm

Dwi'n hoff iawn o ysgrifau THPW, oes gan rhywun awgrym am ysgrifau mwy diweddar fyddai'n debygol o apelio? Cyfleus iawn ydi pytiau bach o lenyddiaeth i rhywun sydd gan ddyn bach 10 mis oed i'w ddifyrru![/quote]


Wel, beth am farddoniaeth felly? e.e. Chwarae Mig gan Emyr Lewis ...
Dafydd Pritchard
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 1
Ymunwyd: Llun 23 Gor 2007 2:32 pm

Postiogan Jaff-Bach » Mer 01 Awst 2007 10:49 am

os tisho rwbath dipin bach yn wahanol tria Dan Gadarn Goncrit gan Mihangel Morgan.
Efo fo, dwin meddwl fyddi di unai wrth dy fodd efoi straeon unigryw/od a ol fodernaidd, neu nei di jest ddim cal gafal arnynhw o gwbwl. Nesi fwynhau on fawr, so ddudai bod hi werth rhoi go arni!
A os tin mwynhau- mae o di sgwennu llwyth o straeon byrion yr un mor unigryw/od a ol fodernaidd 8) ...Bril!

nai hefyd eilio Cysgod y Cryman, clasur! a os nesdi ddarllan hwnna i TGAU cymraeg, tria Nol i Leifior, syn dilyn y stori ymlaen.
Rhithffurf defnyddiwr
Jaff-Bach
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 198
Ymunwyd: Maw 31 Gor 2007 6:09 pm
Lleoliad: Llan Ffestiniog/Leeds

NôlNesaf

Dychwelyd i Llenyddiaeth

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Google [Bot] a 16 gwestai