Bellach, wrth gwrs, mae’r Academi wedi cyhoeddi Rhestr Fer Llyfr y Flwyddyn 2007 o dair cyfrol ymhob iaith.
Y cyfrolau sydd wedi cyrraedd y Rhestr Fer eleni yw’r cofiant, Un Bywyd o Blith Nifer gan T. Robin Chapman (Gwasg Gomer); a’r ddwy nofel, Dygwyl Eneidiau gan Gwen Pritchard Jones (Gwasg Gwynedd) a Ffydd Gobaith Cariad gan Llwyd Owen (Y Lolfa).
Yr awduron ar y Rhestr Fer Saesneg yw Christine Evans gyda Growth Rings (Seren); Lloyd Jones gyda Mr Cassini (Seren); Jim Perrin gyda The Climbing Essays (The In Pinn).
Dyfernir gwobrau Llyfr y Flwyddyn 2007 i’r gyfrol orau yn y Gymraeg a’r Saesneg ym meysydd ysgrifennu creadigol a beirniadaeth lenyddol. Bydd y ddau enillydd yn derbyn £10,000 yr un, a’r pedwar a ddaw yn agos at y brig yn derbyn £1,000 yr un, mewn seremoni wobrwyo arbennig yng Ngwesty’r Hilton, Caerdydd nos Lun 9 Gorffennaf 2007.
Bydd y noson yng nghwmni Rhun ap Iorwerth a’r Athro Dai Smith gyda cherddoriaeth gan Grw^p Jazz Paul Jones. Pris tocyn yw £40 / £35 consesiynau (yn cynnwys gwydraid o siampên wrth i chi gyrraedd, pryd bwyd tri chwrs a choffi). Yn ogystal, gallwch archebu bwrdd cyfan o 10 am bris gostyngedig o £350 y bwrdd.
Fel yn y blynyddoedd diwethaf, mae galw mawr am docynnau i’r seremoni, felly archebwch eich tocynnau nawr drwy gysylltu â’r Academi: 029 2047 2266 neu post@academi.org