Harry Potter and The Deathly Hallows

Y Babell Lên ar lein

Cymedrolwr: Llewelyn Richards

Rheolau’r seiat
Y Babell Lên ar lein. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan ffwrchamotobeics » Maw 24 Gor 2007 9:55 am

Manon a ddywedodd:
'Dwi jysd yn diawlio'r ffaith bod 'na ffilmiau wedi cael eu gwneud... Dydyn nhw 'myn agos at fod mor dda, ac mae nhw'n sbwylio'r gallu i greu'r darluniau eich hunan. Mae o'n gyrru fi'n nyts


Nes i ei ddechre neithiwr (tan tua 2 a.m!), a cael yr un broblem-wynebau'r actorion yn fy blydi pen! Nes i hyd yn oed trio syllu ar y clawr am tua 5 munud :(
Rhithffurf defnyddiwr
ffwrchamotobeics
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 912
Ymunwyd: Mer 27 Awst 2003 9:06 am
Lleoliad: llanbibo

Postiogan Oh dear.Another welshman » Maw 24 Gor 2007 11:56 am

Ges i e ddoe (ar ol nifer o broblemau da Waterstones ond ma hynnu'n stori arall) a dwi'n credu dwi di darllen gormod :wps: Dwi'n mynd i Roeg ar y degfed ar hugain a dwi ishe cael rwbath i ddarllen. Wnes i rhagfynnegu un o'r pethau yn y llyfr (pwy oedd R.A.B) a daeth o'n wir so dwi'n itha blin gan bod fi heb dweud wrth gymaint o bobl a hynnu am fy rhagfynegiad a wnes i'm hela llythr i JK ei hun :( Ta waith mae'n llyfr dda ond dwi am ei rasiynno nawr cyn mynd i Roeg :)
Rhithffurf defnyddiwr
Oh dear.Another welshman
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 169
Ymunwyd: Mer 18 Mai 2005 9:04 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Macsen » Maw 24 Gor 2007 12:34 pm

Spwylwyr i bobol sydd wedi gorffen y llyfr yn unig, peidiwch ag amlygu hwn neu fyddech chi'm yn dallt be dwi'n siarad amdano be' bynnag:


Peidiwch ag amlygu meddai fi!
.
.
..
.
.
.
.
.
.
.
.
..
.
.
.
.

Cyfle olaf!














Ai fi oedd yr unig un nath sylwi ar y shedloads o gyfeiriadau tuag at Iesu yn y llyfr yma? Roedd o fel bod hi wedi rhedeg allan o fytholeg celtaidd a norse i'w ddefnyddio a wedi dechrau chwiwladrata o'r Beibl.

Roedd Harry yn rhoi ei fywyd i achub y lleill, yn mynd i'r llanerch yn y goedwig lle'r oedd y pobol evil yn disgwyl amdano (fel Iesu yn rhoi ei hun iddyn nhw yn gardd gesthemane) - marw a mynd i le o'r enw King's Cross (arf arf nudge nudge) - cyn cael ei atgyfodi gan gariad ei rieni oherwydd ei fod o wedi medru gwrthsefyll temtasiwn y Deathly Hallows.

Yna roedd o'n mynd i ladd Voldemort (y diafol) oedd wedyn yn gorfod gwario'i ol-fywyd fel ryw fath o faban gnarled wedi ei gadwyno i'r llawr yn sgrechian a bustachu (yn uffern).
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Manon » Maw 24 Gor 2007 7:38 pm

Likewise, peidiwch amlygu hwn os na da chi 'di gorffan o....











O'n i'n licio'r bennod ola de, ond ai fi oedd yr unig un oedd yn teimlo alla bod y ffaith bo HP wedi byw yn cop out braidd? Nes i ddim meddwl am y peth Iesu, macsen, ond 'wan bo' chdi'n deud... Ac nes i ddim dallt mai Vol oedd y babi weird chwaith. nes i feddwl bod y bit king's Cross yn twin Peaks-aidd iawn. Ond o'n i rili, rili yn licio bo' ni 'di cael cefndir doji Dumledore. Ac nes i grio yn cnebrwng Dobby.

O'n i'n meddwl bod JKR wedi creu darlun du a gwyn efo'r llyfra' cynta, a bod hi'n lliwio nhw mewn efo llwyd yn y llyfr yma. (Ew! Na chi gymhariaeth!)
Even I, as sick as I am, I would never be you...
Rhithffurf defnyddiwr
Manon
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 958
Ymunwyd: Gwe 13 Chw 2004 5:16 pm

Postiogan krustysnaks » Maw 24 Gor 2007 8:56 pm

Nes i fwynhau'r llyfr olaf yn fwy na'r un arall yn y gyfres. Fel rhywun fu'n darllen y llyfrau o'r dechrau, roedd gen i ddisgwyliadau arbennig o uchel ar gyfer y llyfr ond aeth y diweddglo tu hwnt i bopeth y gallen i wedi gofyn amdano. Dagrau o dristwch a dagrau iwfforig ar y diwedd ... gwych.

Goleuwch o danodd ...






Roedd y stwff Iesu'n amlwg iawn, ro'n i'n meddwl. Dwi ddim yn siwr be dwi'n meddwl am y bennod olaf un - mae'n eitha neis meddwl am bawb yn hapus ond doedd dim byd llawer mwy i'w ddarganfod heblaw am enwau'r plant a bod Neville yn athro. Doeddwn i ddim yn meindio'r diwedd gyda Harry'n marw / byw - roedd sut y datblygodd y sefyllfa yn ddigon clyfar / boddhaol i fi.

Manon - falle mai'r White Lodge o Twin Peaks oedd King's Cross!
Rhithffurf defnyddiwr
krustysnaks
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2967
Ymunwyd: Mer 14 Ebr 2004 8:05 pm
Lleoliad: yng nghôl J M Keynes

Postiogan Boibrychan » Mer 25 Gor 2007 9:37 am

Phew dwi'n saff i edrych ar unrhywbeth sy'n cyfeirio i'r Deathly Hallows nawr! O'n i'n meddwl falle fydde'r edefyn yn ei drafod yn agored, dyna pam dwi heb edrych arno tan nawr!

Dyma sylwadau i pobl sydd wedi'w orffen yn unig;
.............................................................











Ei orffen neithiwr a teimlo'n dristach fy mod wedi'w orffen, na unrhyw ddarn yn y llyfr

Ha ha ha o'n i'n teimlo mor "vindicated" finne wedi bod yn dweud dwi'n licio Snape ma Snape yn dda ac yn gweithio i Dumbledore, a doedd gan o ddim dewis ond ei ladd. O'n i'n mynd i fod mor siomedig doedd hyn ddim yn dod allan yn y diwedd! Rhai ffrindiau yn cytuno a meddwl falle mai Snape fydde yn achub y dwrnod ond llawer yn anghytuno yn llwyr.


O'n i'n barod am gyflafan llwyr ac oherwydd doedd o ddim yn sioc na mor drist a hyny ac yn y diwedd roedd JK yn ysgafn iawn ar y cymeriadau yn fy marn i!

Sylwi yn glir iawn ar y diwedd fod y llyfr yn un i blant yn gyntaf gyda diweddglo mor hapus.

Peth arall oedd yn thema gryf oedd er fod Harry wedi defnyddio Crucio a Imperio nid oedd yn fodlon lladd er fod ei elynion yn digon fodlon i ddefnyddio Avada Kedvara. Troi'r foch arall mewn ffordd, fel ei fod yn aros yn gyfiawn a da, ddim yn defnyddio cyfle i ddefnyddio Sectumsempra ar yr Ast Bellatrix yn fy marn i! Fydde Dobby wedi byw falle!

Llyfr gwych peth od iawn i ddweud falle ond dim hanner digon tywyll i mi! Dim sectumpsempra ( heblaw am damwain Snape ar Fred), fy hoff swyn tywyll, siomedig!

Unrhywun arall wedi dyfalu fod Harry yn horcrux ers gwybod beth oedd horcrux?
Rhithffurf defnyddiwr
Boibrychan
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 252
Ymunwyd: Iau 01 Maw 2007 7:23 pm
Lleoliad: Byrmingham

Postiogan Griff-Waunfach » Mer 25 Gor 2007 9:43 am

Oh f*ck dwi gallu gweld yr ysgrifen gwyn yna ar y sgrin laptop hyn heb ei highlightio! Bastards!!!!..............
Rhithffurf defnyddiwr
Griff-Waunfach
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 940
Ymunwyd: Mer 03 Maw 2004 11:28 am
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Griff-Waunfach » Mer 25 Gor 2007 9:43 am

........ha ha na' joc, dwi ddim yn bwriadu darllen y llyfr, dwi'n aros am y ffilm! :D
Rhithffurf defnyddiwr
Griff-Waunfach
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 940
Ymunwyd: Mer 03 Maw 2004 11:28 am
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Oh dear.Another welshman » Sad 28 Gor 2007 3:19 pm

Wnes i orffen e bore ma (5:30am) ar ol marathon o'i ddarllen. A ie cyn i fi mynd ar wylie :wps: Ond ma na lyfra arall i gael.

Dach chi'n son am y diweddglo yn bach yn Beiblaidd sydd i rai yn eithaf suttle ond i rai sy di cymryd Hanes fel level A mae'r ffaith bod e gymaint fel Yr Almaen 1930-1945 yn neidio allan arnai. Cymon cymryd dros y byd a eisiau'r ras "pure-bloods" i reoli *cough* *cough* ariaid. Plus mae'n son bod Hitler di byth reali bod yn ffrindie neu di caru neb ond am fallau ei nai ond ma hwnna'n stori arall. Dwi dal yn hoffi'r llyfr ta beth.
Rhithffurf defnyddiwr
Oh dear.Another welshman
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 169
Ymunwyd: Mer 18 Mai 2005 9:04 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan jammyjames60 » Sad 28 Gor 2007 4:08 pm

Heb 'di'w orffan o eto, ond wedi gweld rhywbeth Cymraeg yn y llyfr:

Sbiwch ar dudalen 98. Gwenog Jones of Holyhead Harpies yn cal mensh. Oes 'na rhywun yn gwybod os oes 'na rheswm neu linc i J.K. Rowling rhoi enw Cymraeg yna. Prin ti'n gweld hwn rili.


'Di hwn i'm yn rili sbwyliwr, ond jyst rhag ofn 'dwi 'di'i roid o'n wyn.
Rhithffurf defnyddiwr
jammyjames60
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 681
Ymunwyd: Llun 07 Tach 2005 11:19 pm
Lleoliad: Felinheli, Gogledd Cymru

Nôl

Dychwelyd i Llenyddiaeth

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 22 gwestai

cron