Nesh i fwynhau hon yn fawr, a deud y gwir nes i chwerthin yn uchel ac yn afreolus (peth prin iawn!) ar y darn lle roedd cymeriad yn gwasgu'r botymau neges anghywir yn y gawod.
Roedd yna nifer o wendidau ac arwydd o frysio erbyn y diwedd. Y prif wendid oedd nad oedd y cymeriadau a osodwyd fyny ar y dechrau wedi cael eu dilyn drwodd iw llawn botential. Er enghraifft roedd John Lazarus wedi ei osod fyny yn wych fel cyn filwr gwaedlyd a chydig bach yn wallgo. Roedd potential gwych fan hyn am denoument erchyll ond taflwyd y cyfan ffwrdd am joc digon gwan am ei wir gyn hanes. Fe ddylai'r awdur wedi bod a mwy o hyder ym mhotential y cymeriad. Eto Gwen Vaughan yn sycotic o gas ar y dechrau , ac yn rhy llywaeth ar y diwedd
Mwy o hyder yn y cymeriadau, a mynd a'r ffars ymhellach i ddyfroedd dyfnach fyddwn i'n gobeithio tro nesaf. Ond yn sicr nesh i ddarllen y llyfr ar un go a meddwl ei fod yn awdur talentog