gan Garreg Lwyd » Llun 27 Awst 2007 5:09 pm
Oes rhywun yma'n cofio cyfrol William Boyd, Nat Tate, gyhoeddwyd yn 1998? Cysyniad tebyg i Castell yn y Cymylau, ond doedd e heb ddatgelu mai ffuglen oedd y cofiant ffug hwnnw i artist digon tebyg i Howard Beynon. Bryd hynny mae'n debyg bod pobl o'r byd celf yn honni cofio Nat Tate a'i waith, a chafwyd ffwdan pan ddatgelwyd mai ffrwyth dychymyg Boyd oedd y cyfan. Lot o hwyl.
Rwy'n cytuno gyda Chris taw beirniadaeth anfuddiol yw dweud ‘nid nofel mohoni'. Wrth gwrs taw nofel yw hi. Ffrwyth dychymyg y nofelydd yw'r cyfan, gan gynnwys y traethydd a'i wrthrych, a'r holl ‘dystion' a'r gweithiau celf ffantasiol. Nofel y gwnes i ei mwynhau hefyd, er fy mod yn teimlo y gallai fod yn llawnach eto – gorffen yn rhy sydyn y mae hi i mi, a llawer o bethau o dipyn heb eu dweud. Bron na ddywedwn ei bod hi'n teimlo'n anorffenedig, ond efallai bod hynny'n rhan o'r ddyfais...
Ond mae'n werth ei darllen, gyda meddwl agored.
Ni leddir yr un genedl nac iaith onid gan ei phobl ei hun.
D. J. Williams