Teulu Parcnest

Y Babell Lên ar lein

Cymedrolwr: Llewelyn Richards

Rheolau’r seiat
Y Babell Lên ar lein. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Teulu Parcnest

Postiogan Gwerinwr » Llun 13 Awst 2007 9:26 pm

Pwy sydd yn meddwl fel fi fod gorchestion teulu Parcnest yn dipyn o ffars erbyn hyn? Tybed faint o gydweithio rhyngddynt sydd yn mynd ymlaen?
Rhithffurf defnyddiwr
Gwerinwr
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 85
Ymunwyd: Iau 05 Meh 2003 3:09 pm
Lleoliad: Llanelli

Postiogan Cacamwri » Maw 14 Awst 2007 8:46 am

Paid a fod yn wirion. Ffars? Cydweithio?
Ti rioed wedi meddwl mai'r ffaith taw unigolion tu hwnt o dalentog ydyn nhw sy'n deall eu crefft, ac yn medru sgwennu'n ddawnus? :rolio:
"I know I beleive in nothing, but it's my nothing."
Rhithffurf defnyddiwr
Cacamwri
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 968
Ymunwyd: Maw 15 Maw 2005 9:39 am
Lleoliad: Nol adre

Postiogan krustysnaks » Maw 14 Awst 2007 9:14 am

Cacamwri a ddywedodd:Ti rioed wedi meddwl mai'r ffaith taw unigolion tu hwnt o dalentog ydyn nhw sy'n deall eu crefft, ac yn medru sgwennu'n ddawnus? :rolio:

Ie, sdim angen twyllo arnyn nhw i ennill cadair na choron.
Rhithffurf defnyddiwr
krustysnaks
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2967
Ymunwyd: Mer 14 Ebr 2004 8:05 pm
Lleoliad: yng nghôl J M Keynes

Postiogan Cacamwri » Maw 14 Awst 2007 9:16 am

Haha, go dda wan....
"I know I beleive in nothing, but it's my nothing."
Rhithffurf defnyddiwr
Cacamwri
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 968
Ymunwyd: Maw 15 Maw 2005 9:39 am
Lleoliad: Nol adre

Postiogan Llewelyn Richards » Maw 14 Awst 2007 10:53 am

Plis cadwch hi'n lan yn y drafodaeth yma plis, sdim angen bod yn bersonol. Nag enllibus.

Diolch, Llewelyn.
"What contemptible scoundrel has stolen the cork to my lunch?" W.C. Fields
Rhithffurf defnyddiwr
Llewelyn Richards
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1188
Ymunwyd: Iau 21 Awst 2003 3:28 pm

Postiogan cwrwgl » Maw 14 Awst 2007 7:58 pm

Ffaith 1: Mae Cymru yn wlad fach IAWN IAWN.
Ffaith 2: Mae bron pawb o fewn y Gymru Gymraeg yn perthyn rhywsut neu gilydd.
Ffaith 3: Mae'n naturiol fod aelodau teuluol am gynorthwyo / hyfforddi ei gilydd.
Ffaith 4: Mae'r sin farddonol gyfrwng Gymraeg yn miniscule.
Ffaith 5: Mae'r sin farddonol gyfrwng Gymraeg yn clici iawn.
Ffaith 6: Mae'r sin farddonol GAETH gyfrwng Gymraeg yn mega miniscule a mega clici.
Ffaith 7: Mae'r strwythur o hyfforddiant farddol gaeth ffurfiol wedi diflannu ers canrifoedd ac felly mae hyn yn digwydd yn anffurfiol o fewn y sin farddol fychan clici sydd gennym.

Di'r ots pwy fydd yn beirniadu / cystadlu / ennill ym mhrif gystadlaethau yr eisteddfod, mi fydd ffaith 2-7 yn sicr o fod gael effaith rhywsut neu gilydd. Nid bod yn enllibus yw hyn ond realiti'r sefyllfa.

(Pe byddai'n orfodol i feirniaid a chystadlewyr y cystadlaethau Celf a Chrefft yr eisteddfod fod yn Gymry Cymraeg byddai yn debygol o gael effaith yn yr un modd. Dyna'r ddadl orau dros gael unigolyn o du hwnt i Gymru o fewn y panel beirniaid Celfyddydau Gweledol.)
cwrwgl
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 244
Ymunwyd: Iau 20 Ion 2005 9:54 pm

Re: Teulu Parcnest

Postiogan dawncyfarwydd » Maw 14 Awst 2007 8:33 pm

Gwerinwr a ddywedodd:Tybed faint o gydweithio rhyngddynt sydd yn mynd ymlaen?
C'mon ta, ar ba un o'u gweitha arobryn nhw y mae 'na stamp unrhyw un sy'n honni ei sgwennu o?

Fasai awdl Jim ddim ond yn gallu bod ganddo fo, a cherddi Dylan 'run fath.

Cenfigen yn beth mawr.
Rhithffurf defnyddiwr
dawncyfarwydd
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 837
Ymunwyd: Iau 28 Ebr 2005 4:27 pm
Lleoliad: yn dal yma...

Postiogan Jon Bon Jela » Mer 15 Awst 2007 1:36 am

krustysnaks a ddywedodd:
Cacamwri a ddywedodd:Ti rioed wedi meddwl mai'r ffaith taw unigolion tu hwnt o dalentog ydyn nhw sy'n deall eu crefft, ac yn medru sgwennu'n ddawnus? :rolio:

Ie, sdim angen twyllo arnyn nhw i ennill cadair na choron.
Whoah, krusty - ma' hwnna'n mynd yn rhy bell, hyd yn oed i fi (a mae hynny'n dweud rhywbeth). Mae'n siwr fod gan fyfyriwr Caergrawnt fwy o ddychymyg a ffraethineb na hyn?
Blas-for-me, Blas-for-you, blas-for-everybody-in-the-room!
Rhithffurf defnyddiwr
Jon Bon Jela
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 884
Ymunwyd: Iau 29 Medi 2005 8:51 pm
Lleoliad: Fyny fama


Dychwelyd i Llenyddiaeth

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 10 gwestai