gan Dafydd Iwanynyglaw » Iau 16 Awst 2007 3:54 pm
Dim ond gobeithio fod ei chynnwys yn well na'i theitl (sy'n dilyn Y Camgymeriad Sylfaenol Gymraeg(TM), sef: jyst fod rhai yn gallu cyflythrennu yn llwyddiannus, dydi o ddim yn meddwl fod unrhyw hen gyflythrennu o'i reidrwydd yn ddiddorol ag effeithiol fel techneg rethregol (yn enwedig pan yn defnyddio'r lythyren "h", sydd ddim yn gutsain go iawn)). Bah ac, yn wir, hymbyg.
Ydi'r cefn yn honi ei bod yn nofel "ffres", "ffraeth" a "deifiol", fatha pob blydi nofal yn y Gymraeg ers 1979?
Ie, ie. Na fe.