Glanyrafon a ddywedodd:Oes gyda unrywun awgrymiadau ar gyfer llyfrau fyddai'n addas i'm fab annwyl? Mae'n 8 oed ac yn mwynhau darllen llyfrau "ffantasi" fel rhai Narnia, "The Hobbit" a rhai "sword and sorcery" Americanaidd (rhai i blant wrth gwrs).
Dim ond yn Saesneg galla i ffeindio y math yna o lyfrau i blant. Leiciwn i iddo fe ddarllen bach mwy yn Gymraeg i ddatblygu ei eirfa tipyn ond alla i ddim ffeindio dim byd sy'n addas. Dim ots os taw cyfieithiad o'r Saesneg ydyw, ond bod hi'n ddigon gafaelgar.
Mae fe wedi darllen rhai Roald Dahl yn barod. Wedi chwilio yn "Gwales" ond dim lwc hyd yn hyn.
Oedd gen i lyfrau yr heriwr Dafydd ap Siencyn pan yn fach. Gwasg Carreg Gwalch oedd yn eu cyhoeddi dwi'n meddwl.
Be am lyfrau antur T Llew Jones? Ma'r rhain yn wych.
http://www.gomer.co.uk/gomer/en/gomer.S ... Author/750
Trysor y Môrladron (darllenais gopi Dad o hwn drosodd a throsodd), Trysor Plasywernen, Y Ffordd Beryglus, Ysbryd Plas Nantesgob...
O'n i'n arfer mwynhau llyfrau J Selwyn Lloyd yn ofnadwy 'fyd. Ddim yn ffantasi, ond yn fwy o sdwff speis ac ati.
Sna ddim cymaint â hynny o bethau ffantasi pur i'w cael yn y Gymraeg nagoes?
Mae addasiadau Cymraeg Tintin ac Asterix yn wych, ond ella nad dyma be ti'n edrych amdanyn nhw, ac mae'n nhw allan o brint ar y cyfan.
Maes-eio ers 2002, yo.