Helo Bawb!
Beth am ddod i Dy Newydd am benwythnos braf a hwyliog?
Oes gennych chi syniad am stori, rhyw ychydig linellau o gerdd, dechreuad sgript neu sgets, neu dim mwy nag ysfa weithiau i afael mewn beiro a phapur?
Dewch ar gwrs 'Dechrau Ysgrifennu' gydag Iwan Llwyd ac Eleri Llywelyn Morris.
Cwrs i ddechreuwyr o bob oed, ym mhob maes, yw hwn.
Byddai'r cwrs hwn yn addas i ddysgwyr profiadol.
Y pris am stafell sengl yw £225 (£205 os yn rhannu stafell).
Cofiwch fod modd gwneud cais am fwrseri os ydych ar incwm isel.
Ffoniwch ni, neu gyrrwch ebost, i drafod ymhellach.
01766 522811 neu post@tynewydd.org
http://www.tynewydd.org