Tudalen 1 o 1

Encil yn Nhy Newydd

PostioPostiwyd: Llun 03 Medi 2007 9:46 am
gan Sian Northey
Encil yn Nhy Newydd
Medi 13-16

Cyfle i ddianc o fywyd bob dydd am ychydig ddyddiau a chanolbwyntio ar eich sgwennu neu’ch gwaith ymchwil, neu hyd yn oed wneud dim mwy na darllen ac ymlacio. A pha well lle i wneud hyn na’r tŷ hynafol yma â’i gyfleusterau newydd a hynny ynghanol tawelwch Eifionydd? Nid cwrs yw encil, nid oes tiwtoriaid, ond bydd staff Ty Newydd yn gofalu amdanoch. Bydd pawb yn cael ystafell ei hun a bydd cyfle i gymdeithasu efo eraill tra’n cydfwyta pryd gyda’r nos. Cewch ddewis os am aros dwy neu dair noson.
Unrhyw 2 noson £175 , 3 noson £230
Ffoniwch 01766 523 237/522 811 i gadw lle neu ebostiwch
Mwy o fanylion am Dy Newydd ar http://www.tynewydd.org