Roeddwn ar fy ngwyliau ym Barcelona yr wythnos diwethaf. Wrth y cownter mewn siop lyfrau wnaeth aelod o staff gofyn imi o ble oeddwn dod. Pan dywedais Cymru dangosodd imi lyfr sydd newydd ei gyhoeddi yn yr iaith Catalan am fywyd Esyllt T Lawrence (1917 -1995). Doeddwn i byth wedi clywed amdani o'r blaen ond mae'n amlwg bod yr hen Esyllt T yn dipyn o ddynes, gwerinaethwraig a ffeminist ag enilloedd brif anrhydedd Catalunya am ei chyfraniad i lenyddiaeth a syniadaeth y wlad.
Isod mae na gyfieithiad o blyrb am y llyfr (y gorau gallu wneud efo geiriadur!)
Pob hwyl
Huw
- - - -
Esyllt T Lawrence
Disgleiriodd ei gallu yn ifanc iawn gan ennill ysgoloriaeth i Brifysgol Caergrawnt, peth digon anghyffredin i ferch o Dreforys yn y 1930au. Tra’n y brifysgol wnaeth gyfarfod llawer o ysgrifenwyr ac artistiaid yn cynnwys Virginia Woolf, a fu ei syniadau ffeministaidd yn ddylanwad mawr ar Esyllt.
Priododd diplomydd Saesneg ond wnaethon ysgaru tra yn yr Uniol Dalaithau. Yn Dinas Mexico fe ddaeth hi ar draws grwp o weriniaethwyr Catalaneg a oedd wedi ffoi yn dilyn buddugoliaeth y ffasgwyr yn rhyfel gartref Sbaen. Ym 1947 priododd yr ysgrifennwr a bardd Catalan Lluís Ferran de Pol.
Ddychwelodd y cwpl i Ewrop yn y 1950au, ac er waethaf y perygl personol, penderfynon nhw fyw yn Catalunya a oedd ar y pryd o dan ormes Franco. Yn ystod y pedwar deg mlynedd nesaf, o'i chartref yn y dref lan môr Arenys de Mar, enillodd cryn barch am ei gwaith llenyddol yn Gymraeg, Saesneg, Catalan a Sbaeneg a bu’n bont rhwng Gymru a Catalunya. Yn gefnogwr brwd i Blaid Cymru a’r frwydr yn erbyn Franco. Ymlith ei gwaith cyfieithodd straeon gwerin Catalan i’r Gymraeg i Wasg y Carreg Gwalch a Siwan gan Saunders Lewis i'r iaith Catalan. Gweithiodd ar nifer o lyfrau poblogaidd i dwristaidd Saesneg o dan y ffug enw ‘Betty Morris’.
Yn ei blwyddyn olaf enillodd prif anrhydedd Catalunya medal Creu de San Jordi (Croes San Sior) fel cydnabyddiaeth o’i chyfraniad i lenyddiaeth a syniadaeth. Cyflwynodd y medal iddi gan arlywydd Catalunya. Mae Esyllt a Lluís wedi’u claddu yn Y Bont Faen.
Esyllt T Lawrence: Una gal.lesa entre drcs (Cymraes rhwng ddreigiau)
J.V. Garcia Raffi & C. Manuel Cuenca.
ISBN: 8437065690
Cyhoeddwyd gan Universitat de Valencia
(Gyda chefnogaeth Cyngor Dref Arenys de Mar)
http://ca.wikipedia.org/wiki/Esyllt_T._Lawrence
http://www.arenysdemar.org/document.php?id=15157