Llyfr yn Catalan am Esyllt T Lawrence (1917 -1995)

Y Babell Lên ar lein

Cymedrolwr: Llewelyn Richards

Rheolau’r seiat
Y Babell Lên ar lein. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Llyfr yn Catalan am Esyllt T Lawrence (1917 -1995)

Postiogan HuwJones » Mer 19 Medi 2007 10:19 am

Roeddwn ar fy ngwyliau ym Barcelona yr wythnos diwethaf. Wrth y cownter mewn siop lyfrau wnaeth aelod o staff gofyn imi o ble oeddwn dod. Pan dywedais Cymru dangosodd imi lyfr sydd newydd ei gyhoeddi yn yr iaith Catalan am fywyd Esyllt T Lawrence (1917 -1995). Doeddwn i byth wedi clywed amdani o'r blaen ond mae'n amlwg bod yr hen Esyllt T yn dipyn o ddynes, gwerinaethwraig a ffeminist ag enilloedd brif anrhydedd Catalunya am ei chyfraniad i lenyddiaeth a syniadaeth y wlad.

Isod mae na gyfieithiad o blyrb am y llyfr (y gorau gallu wneud efo geiriadur!)

Pob hwyl
Huw

- - - -



Esyllt T Lawrence

Disgleiriodd ei gallu yn ifanc iawn gan ennill ysgoloriaeth i Brifysgol Caergrawnt, peth digon anghyffredin i ferch o Dreforys yn y 1930au. Tra’n y brifysgol wnaeth gyfarfod llawer o ysgrifenwyr ac artistiaid yn cynnwys Virginia Woolf, a fu ei syniadau ffeministaidd yn ddylanwad mawr ar Esyllt.

Priododd diplomydd Saesneg ond wnaethon ysgaru tra yn yr Uniol Dalaithau. Yn Dinas Mexico fe ddaeth hi ar draws grwp o weriniaethwyr Catalaneg a oedd wedi ffoi yn dilyn buddugoliaeth y ffasgwyr yn rhyfel gartref Sbaen. Ym 1947 priododd yr ysgrifennwr a bardd Catalan Lluís Ferran de Pol.

Ddychwelodd y cwpl i Ewrop yn y 1950au, ac er waethaf y perygl personol, penderfynon nhw fyw yn Catalunya a oedd ar y pryd o dan ormes Franco. Yn ystod y pedwar deg mlynedd nesaf, o'i chartref yn y dref lan môr Arenys de Mar, enillodd cryn barch am ei gwaith llenyddol yn Gymraeg, Saesneg, Catalan a Sbaeneg a bu’n bont rhwng Gymru a Catalunya. Yn gefnogwr brwd i Blaid Cymru a’r frwydr yn erbyn Franco. Ymlith ei gwaith cyfieithodd straeon gwerin Catalan i’r Gymraeg i Wasg y Carreg Gwalch a Siwan gan Saunders Lewis i'r iaith Catalan. Gweithiodd ar nifer o lyfrau poblogaidd i dwristaidd Saesneg o dan y ffug enw ‘Betty Morris’.

Yn ei blwyddyn olaf enillodd prif anrhydedd Catalunya medal Creu de San Jordi (Croes San Sior) fel cydnabyddiaeth o’i chyfraniad i lenyddiaeth a syniadaeth. Cyflwynodd y medal iddi gan arlywydd Catalunya. Mae Esyllt a Lluís wedi’u claddu yn Y Bont Faen.


Esyllt T Lawrence: Una gal.lesa entre drcs (Cymraes rhwng ddreigiau)
J.V. Garcia Raffi & C. Manuel Cuenca.

ISBN: 8437065690
Cyhoeddwyd gan Universitat de Valencia
(Gyda chefnogaeth Cyngor Dref Arenys de Mar)


http://ca.wikipedia.org/wiki/Esyllt_T._Lawrence
http://www.arenysdemar.org/document.php?id=15157
HuwJones
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 196
Ymunwyd: Gwe 23 Maw 2007 2:39 pm
Lleoliad: Ynys Môn

Postiogan Rhys » Mer 19 Medi 2007 3:41 pm

Swnio fel tyipyn o ddynes. Wedi copi dy gyfieithiad di (gyda rhai newidiadau) er mwyn crey erthygl Wicipedia amdani.

Ddim yn siwr pa gategori i'w rhoi hi mewn. Oedd hi'n ysgrifennu stwff gwreiddiol neu ond cyfieithu? Pa fath o beth?
-Nofelau/Pamffledi/Barddoniaeth/Dramau?
-Gwleidyddol/Ffemenistaidd/Ideolegol?
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2176
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 8:07 pm
Lleoliad: Caerdydd

Esyllt T - Wikipedia

Postiogan HuwJones » Iau 20 Medi 2007 1:01 pm

Llawer o ddiolch iti Rhys am dy ateb a da iawn ti am y cyfrianiad i Wikipedia. Gret!!

Yn nol ei thudlen Catalaneg ar Wikipedai mae hi'n yn y catogriau
http://ca.wikipedia.org/wiki/Esyllt_T._Lawrence

Creus de Sant Jordi (Croes Sant Sior) - Ysgrinnwyr - Cymraeg - Ffeninist - Cymry

Ar rhan ei llyfrau. roedd y ran mwyaf ysgrifennu gwreiddiol yn waith newyddiadorol / papurau academaidd hefyd llyfrau reference -fel Encyclopeidas etc..
gyda gwaith cyfieithu o waith Drama / novelau yn Gymraeg/Saesneg/Catalan/Sbaeneg/Ffraneg (yn cynnwys Catalan i Sbaeneg a Catalan i Ffraneg!)

Efallia rhoi Gwleidyddol/Ffeministiadd/Ideolegol/Newyddiadurol/Cyfieithu ?? Dwn i ddim

Wnaeth hi cymaint o stwff dwi ddim yn swir beth yw'r label cywir?

Gobtheithio bydd rhywun arall ar Maes E yn gallu helpu

Diolch eto
Huw
HuwJones
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 196
Ymunwyd: Gwe 23 Maw 2007 2:39 pm
Lleoliad: Ynys Môn


Dychwelyd i Llenyddiaeth

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 26 gwestai

cron