Barddoniaeth Wael

Y Babell Lên ar lein

Cymedrolwr: Llewelyn Richards

Rheolau’r seiat
Y Babell Lên ar lein. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Barddoniaeth Wael

Postiogan Dwlwen » Gwe 05 Hyd 2007 1:56 pm

Jyst ishe rhannu'r neges fod gwefan Bad Poetry (sy'n rhan o antholeg farddoniaeth Prifysgol Gorllewin Michigan) yn wych. Cofnod o farddoniaeth ddychrynllyd gan rhai beirdd wirioneddol ofnadwy, a rhai ddylai wybod yn well...

Felly, wedi ysbrydoli gan y casgliad, 'nai ofyn beth yw'r barddoniaeth waethaf i chi - faeswyr annwyl - ei ddarllen?
Hold on just a second
Don't tell me this one you know
I know this one I know this song
I know this one I love this song

pictiwrs
Rhithffurf defnyddiwr
Dwlwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2307
Ymunwyd: Maw 10 Chw 2004 1:34 pm
Lleoliad: mewn bola morfil

Postiogan Rhodri Nwdls » Gwe 05 Hyd 2007 2:32 pm

W,w!! Cyfle i sôn am claim to fame Dolgellau - Bardd Mwyaf Boring Cymru (TM).

Dafydd Ionawr(neu Ieuan Brydydd Hir)oedd ei enw, ac roedd yn enwog am sgwennu cerddi hirfaith a gwneud i'r petha mwya diddorol droi'n ddiflas.

Y peth mwya diddorol (ac eironig) amdano bellach efallai ydi siap ei fedd, sy'n ymdebygu i byramid tal (isod).

Delwedd

Er ei 'Drindod', fardd clodfawr, - a nyddu'r
'Mil Blynyddau' Enfawr;
Nid a neb i weld yn awr
Fedd unig Dafydd Ionawr.

O.M.Lloyd
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Postiogan sian » Gwe 05 Hyd 2007 3:22 pm

Ww - gallai hwn fod yn ddiddorol!

Dw i wedi treio tacluso'r linc yn neges Rhodri ond dyw e ddim yn gweithio am ryw reswm. Ond, fel mae, mae'n gwneud iddo swnio mai'r un un oedd Dafydd Ionawr a Ieuan Brydydd Hir. Athro barddol Dafydd Ionawr oedd Ieuan Brydydd Hir.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor


Dychwelyd i Llenyddiaeth

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 10 gwestai

cron