Llyfrau am argae Tryweryn

Y Babell Lên ar lein

Cymedrolwr: Llewelyn Richards

Rheolau’r seiat
Y Babell Lên ar lein. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Llyfrau am argae Tryweryn

Postiogan Madrwyddygryf » Maw 16 Hyd 2007 12:42 pm

Hoffwn ddarllen mwy tu cefn i hanes am argae Tryweryn/Capel Celyn. Os na rhywun yn gallu argymell unrhyw lyfrau sydd yn werth ddarllen am y pennod yma yn Hanes Cymru ?

Roeddwn yn disgwyl buasai John Davies yn sgwennu mwy amdano fo yn ‘Hanes Cymru’, ond dim ond paragraff oedd yna.
Clwb Rhedeg Caerdydd. Clwb Rhedeg ar gyfer siaradwyr Cymraeg.
Bob nos Lun 6:00pm tu allan i Athronfa Chwareon, Gerddi Sofia.|
Rhithffurf defnyddiwr
Madrwyddygryf
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2230
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 6:32 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan ger4llt » Maw 16 Hyd 2007 4:42 pm

Dwi'n siwr bod 'na lyfr "deg mlynedd o chwalu" neu wbath...

aaa dyma fo:

http://www.gwales.com/goto/biblio/cy/9781900437165/

Capel Celyn - Deng Mlynedd o Chwalu 1955-1965

geshi gip arno fo mewn siop lyfra - ag odd o'n lyfr digon diddorol, son am bob agwedd o'r dinistr yn drylwyr.
gobeithio fydd o o help.
Rhithffurf defnyddiwr
ger4llt
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 231
Ymunwyd: Sul 23 Medi 2007 2:24 pm
Lleoliad: Mewn ty bach twt yng nghefn yr ardd

Postiogan Dafydd Iwanynyglaw » Mer 17 Hyd 2007 10:45 am

Mae na rannau o "To Dream of Freedom", Roy Clowes (Lolfa) yn delio efo'r mater hefyd - wrth gwrs, gan ei fod yn lyfr weddol anfeirniadol o syniadau John Jenkins a Cayo Evans, rhaid ei gymryd gyda tua tunnell a hanner o halen, ond mae'n rhoi cipolwg i sut y gwleidyddwyd yr achos mewn gwahanol ffyrdd gan wahanol garfannau.

O gofio mi oedd na ddarnau weddol ddiddorol a chytbwys ar wefan y BBC yn Gymraeg a Saesneg (yn cynnwys adroddiad yn Saesneg gan naill ai Wyro Davies neu Guto Hari - wn i ddim os ydi'r clip dal yno) yn dyddio o'r cyfnod o gwmpas nodi'r 50 mlynedd.
Ie, ie. Na fe.
Dafydd Iwanynyglaw
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 462
Ymunwyd: Maw 30 Mai 2006 10:39 am
Lleoliad: yma

Postiogan SerenSiwenna » Mer 17 Hyd 2007 5:00 pm

neshi fyn nhraethawd i fy ngradd ar hanes boddi cwm tryweryn arol darllen sylwadau Dafydd Wigley yn ei lyfr: O ddifri Dafydd Wigley (am y rheswm yma ath o fewn i gwleidyddiaeth). Mae gen i y llyfr uchod a mae o YN dda, mae'r lluniau yn wych hefyd - gan gynnwys y rhai or Braddocks.

Mae yna hefyd llyfr am yr ymgyrch yn ei herbyn (wnai edrych heno yn cefn y references) ac mi roedd yna wefan am yr ymgyrch i godi cerflun...es i arol cyngor Lerpwl i ofyn am cyfraniad....(ond ddaeth dim ohonno).

Ag, os ti rili ishio dysgu lot fawr amdanno - ewch ir archif yn Dolgellau - llond stafell o stwff arno! Ac hefyd yn y Liverpool Records Office, ceir edrych ar y minutes of the meetings lle gath y penderfyniad ei wneud, ynghyd a'r figyrau am tunelli o ddwr ag yn y blaen.

Mae yna pecyn dysgu am Tryweryn (i athrawon) dwi'n meddwl or archif wnes i gael hynny...eniwe, wnai edrych am bethau heno a postio foru

Pob hwyl i ti, mae'n pwnc difyr tu hwnt 8)
Rhithffurf defnyddiwr
SerenSiwenna
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 602
Ymunwyd: Gwe 10 Chw 2006 2:58 pm
Lleoliad: Cilgwri

Postiogan Madrwyddygryf » Mer 17 Hyd 2007 5:24 pm

Dafydd Iwanynyglaw a ddywedodd:Mae na rannau o "To Dream of Freedom", Roy Clowes (Lolfa) yn delio efo'r mater hefyd - wrth gwrs, gan ei fod yn lyfr weddol anfeirniadol o syniadau John Jenkins a Cayo Evans, rhaid ei gymryd gyda tua tunnell a hanner o halen, ond mae'n rhoi cipolwg i sut y gwleidyddwyd yr achos mewn gwahanol ffyrdd gan wahanol garfannau.

O gofio mi oedd na ddarnau weddol ddiddorol a chytbwys ar wefan y BBC yn Gymraeg a Saesneg (yn cynnwys adroddiad yn Saesneg gan naill ai Wyro Davies neu Guto Hari - wn i ddim os ydi'r clip dal yno) yn dyddio o'r cyfnod o gwmpas nodi'r 50 mlynedd.


Do dwi wedi darllen y llyfr na blynyddoedd yn ol. Reit diddorol. Er dwi wedi cael fy syfrdannu nad oes llyfr iawn wedi cael ei hysgrifennu am y argae tryweryn. Pam hynny ?
Clwb Rhedeg Caerdydd. Clwb Rhedeg ar gyfer siaradwyr Cymraeg.
Bob nos Lun 6:00pm tu allan i Athronfa Chwareon, Gerddi Sofia.|
Rhithffurf defnyddiwr
Madrwyddygryf
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2230
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 6:32 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan sian » Mer 17 Hyd 2007 9:33 pm

Dyma lyfryddiaeth o dan y pennawd "Ymgyrchu - Y Diwydiant D?r" gan y Llyfrgell Genedlaethol:

Alan Butt Phillip, The Welsh Question, Cardiff, 1975.
Gwynfor Evans, Save Cwm Tryweryn For Wales, Swansea, 1956.
Owain Williams, Cysgod Tryweryn, Capel Garmon, 1995.
Gwynfor Evans, We learn from Tryweryn, 1958.
Watcyn L. Jones, Cofio Tryweryn, Gomer, Llandysul, 1988.
Gwyn Erfyl, 'Tryweryn: the drowning of a valley', Planet 73, 1989, p. 49-53.
Einion Thomas, Capel Celyn : deng mlynedd o chwalu: 1955-1965, [Abertawe] : Cyhoeddiadau Barddas, 1997.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Postiogan SerenSiwenna » Iau 18 Hyd 2007 12:09 pm

sian a ddywedodd:Dyma lyfryddiaeth o dan y pennawd "Ymgyrchu - Y Diwydiant D?r" gan y Llyfrgell Genedlaethol:

Alan Butt Phillip, The Welsh Question, Cardiff, 1975.
Gwynfor Evans, Save Cwm Tryweryn For Wales, Swansea, 1956.
Owain Williams, Cysgod Tryweryn, Capel Garmon, 1995.
Gwynfor Evans, We learn from Tryweryn, 1958.
Watcyn L. Jones, Cofio Tryweryn, Gomer, Llandysul, 1988.
Gwyn Erfyl, 'Tryweryn: the drowning of a valley', Planet 73, 1989, p. 49-53.
Einion Thomas, Capel Celyn : deng mlynedd o chwalu: 1955-1965, [Abertawe] : Cyhoeddiadau Barddas, 1997.


Ia, yr un Cofio Tryweryn gan Watcyn Jones o ni yn mwydro amdanno uchod.

Mae'r archif hefo lot o stwff - ond gan edrych ar y rhestr yma, mae'n ymddangos fod e'n hen bryd fod llyfr newydd sbon yn cael ei cyhoeddi - un sy'n edrych ar yr hanes a'r ardrawiad....hmm, sgwn i os oes modd cael comisiwn i ail-weithio fy nhraethawd hefo'r stwff diweddaraf :P
Rhithffurf defnyddiwr
SerenSiwenna
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 602
Ymunwyd: Gwe 10 Chw 2006 2:58 pm
Lleoliad: Cilgwri


Dychwelyd i Llenyddiaeth

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 10 gwestai

cron