Cymedrolwr: Llewelyn Richards
tafod_bach a ddywedodd:rhannir y gyfrol yn dair rhan
Part 1 The Sources and Practice of Medieval Cerdd Dant
Part 2 The Latin Liturgy, its Chant and Embellishment
Part 3 Welsh Music in an English Milieu c. 1550-1650
mae rhai ffynonellau'n ganol y testun, lle mae rhai pennodau cyfan wedi'u sgrifennu am un llawysgrif/darn cerddoriaeth (e.e. Robert ap Huw, Bangor Pontifical etc) sydd o werth diwylliannol mwy pwysig/clir. Ma na 'bendics a llyfryddiaeth dda iawn hefyd. mae sawl cyfeiriad at 'briodas' yn y mynegai, ond sôn am briodasau spesifig maen nhw o beth wela i - dim ond newydd ei ddechre ydwi!
tafod_bach a ddywedodd:on: beth wyt ti'n ei olygu am 'beth mae'n ddweud am ap Huw ac ati'? dw i ddim yn ddigon o arbenigwraig i wybod am be ti'n sôn...
positif80 - dwi'n credu iddi ddewis y flwyddyn 1650 am mai ar ol hynny y dechruwyd recordio (ar bapur, wrth gwrs) cerddoriaeth cymraeg mewn ffordd wahanol, gan ddefnyddio nodiant. sôn am y dystiolaeth di-nodiant - hangover y traddodiad llafar yw'r ffynonnellau - mae hi, i geisio creu llun cyflawn o sut oedd cerdd dant yn cael ei ddefnyddio yn y cyfnod canoloesol.
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 26 gwestai