cwrwgl a ddywedodd:mae "Cerddoriaeth y Cymry" gan Arfon Gwilym, a gyhoeddwyd gan y Lolfa eleni, yn wirioneddol dda
Ategaf hynny'n frwd. Dyma ddyfyniad o adolygiad campus Twm Morys ohono yn Golwg, o rifyn Gorffennaf 19, 2007.
Mae o’n llyfr difyr iawn i’w ddarllen, ond yn llawn hanes ac ysgolheictod. Mi fydd yn apelio at Osian Elis, ac at hogiau Gwibdaith Hen Frân, ac at athrawon: mae o’n disgrifio pob cyfnod hanesyddol yn awdurdodol iawn; mae o’n sôn am hen gerddoriaeth y Cymry mor ddifyr â hen wr mwyn wrth y bar; mi fydd yn help garw iawn i lawer athro ac athrawes i lenwi’r bwlch sydd yn yr ysgolion, lle mae gwybodaeth am Gymru i fod. Mae Arfon Gwilym yn mynd â ni drwy fil pum cant o flynyddoedd o hanes cerddorol y Cymry, o hwiangerdd mam i’w mab Dinogad yn Llyfr Aneurin – o gyfnod pan oedd trigolion Cumbria yn Gymraeg – i ganeuon Gwyneth Glyn heddiw. Mae o’n son yn ddi-lol am gerddoriaeth ein cyndadau Celtaidd, a cherddoriaeth Cymry’r Oesoedd Canol; am yr arferion gwerin y bu cerddoriaeth ynghlwm â nhw nes eu chwalu nhw gan y Blaenoriaid yn y 19eg ganrif; am Gerdd Dant a’i gwleidyddiaeth ddyrys; am ganu gwerin, canu baledi, canu Plygain (sydd yn amlwg yn agos iawn at ei galon); am yr offerynnau traddodiadol; ac wedyn, yn ddiddorol tu hwnt, am ambell unigolyn sydd wedi gadael ei ôl ar y traddodiad.
Dyna dalp mawr iawn o hanes Cymru sy wedi cael ei esgeuluso bron yn llwyr. Ond ym mhob pen i’r traethawd gwych hwn, mae Arfon Gwilym yn dangos mai adrodd hanes at bwrpas pendant iawn y mae o: ‘Mae’n bryd i ni ddatgan yn hyderus,’ meddai, ‘nad yw popeth sy’n hen o angenrheidrwydd yn hen-ffasiwn. Ar yr un bwynt mae’n bryd i ni gydnabod un ffaith syml, bod caneuon ac alawon traddodiadol Cymru ymhlith y gorau yn y byd i gyd. Yn anffodus nid yw mwyafrif llethol y Cymry eu hunain yn sylweddoli hynny!’ Ac ‘ni all neb ddeddfu pa fath o gerddoriaeth y dylai rhywun ei hoffi. Ond nid afresymol yw disgwyl i wlad ofalu am ei threftadaeth ei hun.’
Llyfr ysgolheigaidd ond hawdd ei ddarllen, wedi ei lapio mewn pamffledyn propaganda derbyniol iawn iawn.