Madarch - Dewi Prysor

Y Babell Lên ar lein

Cymedrolwr: Llewelyn Richards

Rheolau’r seiat
Y Babell Lên ar lein. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Lals » Llun 07 Ion 2008 4:11 pm

Wedi ei gael yn anrheg Nadolig. Oes rhaid darllen Brithyll yn gyntaf i werthfawrogi'r stori go iawn neu ydy'r ddwy nofel yn sefyll ar eu pennau'u hunain?
"ti'n gwybod be i neud pan dwisio mwytha"
Lals
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 237
Ymunwyd: Mer 08 Maw 2006 9:27 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan ger4llt » Llun 07 Ion 2008 9:34 pm

Oes rhaid darllen Brithyll yn gyntaf i werthfawrogi'r stori go iawn neu ydy'r ddwy nofel yn sefyll ar eu pennau'u hunain?


Dim o reidrwydd o bell ffordd - chydig o gyfeiriadaeth i Brithyll sydd yn Madarch a dydi'r cymeriada ddim angan ryw cyflwyniad hirwynt :)

Jysd darllena'r ddau! Onim yn gallu rhoi run o'r ddau i lawr :P
Rhithffurf defnyddiwr
ger4llt
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 231
Ymunwyd: Sul 23 Medi 2007 2:24 pm
Lleoliad: Mewn ty bach twt yng nghefn yr ardd

Postiogan anffodus » Iau 17 Ion 2008 12:03 am

Da iawn. O'dd o'n darllan dipyn rhwyddach na Brithyll - aeddfetach mewn rhyw ffor'. O'n i, a'r awdur ei hun ma'n siwr yn nabod y cymeriada'n well aballu a'i fod o'n haws i'w ddarllan oherwydd hynny.

Ma pobl yn meddwl am Llwyd Owen fel y boi sy'n gallu ffurfio plot da ond ma Prysor llawn cystal â fo dwi'n meddwl: yn ca'l yr holl storylines i redag drwy'i gilydd heb ddrysu pobl a'u ca'l nhw i orffan yn dwt mewn un lle.

Edrach mlaen at y nesa!
Cod ar dy draed y llipryn! Lle ti'n feddwl wt ti?! Butlins?!!
anffodus
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 265
Ymunwyd: Maw 07 Maw 2006 7:31 pm
Lleoliad: trefor (yn y tywyllwch - newydd gal powercut)

Postiogan Gog y Cwm » Iau 17 Ion 2008 9:51 am

Wedi rhoi'r gora iddi chwarter ffor drwodd yn anffodus. Yr holl ff*cin hyn a'r c*nt llall yn ddiflas, heb sôn am y cyfeiriada diddiwedd ar fod ar drip asid bob yn ail dudalen. Chwaeth bersonol, 'na'r cwbwl.

Well gen i nofelau Twm Miall o'r un ardal.
Rhithffurf defnyddiwr
Gog y Cwm
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 61
Ymunwyd: Gwe 02 Rhag 2005 11:25 am
Lleoliad: Ponti

Re: Madarch - Dewi Prysor

Postiogan Ar Mada » Llun 25 Awst 2008 11:10 am

Heb gael siwns i ddarllen hwn pan ddaeth allan, newy' orffen bora 'ma! Dilyniant gwych i Brithyll Prys! Cymeriadu a portreadu gwych! Plots anghygoel!

Geith y ffycin bobl sy ffycin dallt dim am ffycin gymeriadau ffycin fel hyn fynd i ffycin ffwcio y ffalaffls ffwclyd. :seiclops:

Edrch ymlaen i Crawia!
Cimwch?
Rhithffurf defnyddiwr
Ar Mada
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 90
Ymunwyd: Maw 22 Meh 2004 10:18 pm
Lleoliad: Mewn weiran

Nôl

Dychwelyd i Llenyddiaeth

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai

cron