Madarch - Dewi Prysor

Y Babell Lên ar lein

Cymedrolwr: Llewelyn Richards

Rheolau’r seiat
Y Babell Lên ar lein. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Madarch - Dewi Prysor

Postiogan løvgreen » Gwe 07 Rhag 2007 11:58 am

Neb wedi agor edefyn am hwn eto? Os wnaethoch chi fwynhau Brithyll, wnewch chi fwynhau hwn yn fwy fyth! Hollol hilariws, chwerthinllyd o anhygoel ond eto sgeri o gredadwy. Cymeriadau hollol hurt ond rhai rydach chi'n malio amdanyn nhw'r un pryd.
Ac os nad ydi ngair i'n ddigon, dyma sy gan Meg Elis i'w ddweud -
Mae gen i gof, flynyddoedd yn ôl, i nofel gan Twm Miall godi tipyn o stinc ym meddwl rhyw adolygydd oedd yn arswydo bod pobl ifanc yn byw bywydau fel hyn, gan ddweud fod llefydd ar gael allai ddangos amgenach ffyrdd iddynt.

'Doedd y ffaith fod yr atyniadau hyn yn swnio yn "sych fel 'sboniad", chwedl y diweddar Wil Sam, ond yn cadarnhau'r pellter rhwng yr adolygydd (Cymraeg) a'r bobl (Gymraeg) oedd yn byw yn ardal Twm Miall.

A thros ugain mlynedd wedyn, dyma ail nofel Dewi Prysor, o'r un ardal â Twm Miall, a chyda phwt o froliant gan yr awdur hwnnw.

Faswn i ddim o raid yn cymeradwyo hynny - bai rhy debyg, hwyrach? - ond tydi Dewi Prysor ddim yn debyg o gael ardystiad gan feirniad Eisteddfodol i'w ddefnyddio mewn broliant.

(Dwn i'm, chwaith - trïa, ella y byddi di'n lwcus yn dy feirniad....)

Yr un gymdeithas a ddarlunnir gan Twm Miall a Dewi Prysor, ond bod ugain mlynedd wedi mynd heibio.
Mae'r gymdeithas yr un mor guriedig - ond ein bod ni'n gorfod ei galw hi'n 'gymuned' bellach - ac y mae amrywiaeth y cyffuriau yn ehangach.

Mae yna wahaniaethau eraill, hefyd.
Mi fentrwn i ddweud fod mwy o natur parhad yng ngwaith Dewi Prysor, a bod ei straeon â mwy o afael.

Yn sicr, mae ei ail nofel swmpus yn awgrymu hynny.

"Swmpus," meddais - cyn dweud yn syth na fuasai'r ansoddair yn gymwys petai'r nofel yn cael ei chwynnu o bob rheg - hanner y maint fasa hi wedyn a diau y byddai hynny yn plesio'r math o ddarllenydd oedd yn ffieiddio at Cyw Haul - a byddai'n enghraifft arall o golli'r pwynt yn llwyr.

Ydi, mae iaith y cywion brith sy'n cael eu darlunio yn Madarch yn ddigon i droi'r awyr yn bob lliw ond y mae hefyd yn rhan o'u cymeriad ac o'r stori - ac y mae yma fwy na iaith fras er ei mwyn ei hun.

Tydw i ddim yn tybio bod Dewi Prysor eto wedi symud ymlaen o atgynhyrchu iaith yn ffotograffaidd, a gwneud hynny heb golli naws - hwyrach nad yw'n bwriadu gwneud hynny.

Mae yma ragoriaethau sy'n profi bod gan yr awdur glust amheuthun at rythmau a doniolwch sgwrs naturiol pobl. 'Does ond isio sylwi ar y tamaid sgwrs rhwng Bic a Sbanish i sylweddoli hynny:

"'Tŷ nain Tintin 'di fancw.....',
'Naci' meddai Bic. 'Garnedd Dirion 'di hwnna!'
'Dyna dwi'n ddeud, 'de!'
''Di nain Tintin ddim yn byw'n fanna!'
'Fana oedd hi'n byw, 'de Bic! Cyn iddi farw!'"

Mae hyn, ac enghreifftiau eraill, yn hollol groes i'r "hiwmor" Noson Lawenaidd sy'n ein harteithio ar S4C - ond mae yn y llyfr fath arall o hiwmor, sydd yn profi fod gan yr awdur fwy na dawn i gofio a chofnodi sgwrs.

Darllenwch y disgrifiad o Cled a'r Dybyl-Bybyls, a'u hymdrechion i drio cael y fan i gychwyn, am brawf pendant o'i ddawn i greu hiwmor grotesg a gwallgof.

Dyna wir ogoniant Madarch - y modd y mae'r darllenydd yn cael ei gipio ar daith wallgof o un trychineb i'r llall, a rhan o'r gogoniant yw'r llu cymeriadau.

Yr efeilliaid, Gwynedd a Gwyndaf - y Dybyl Bybyls - ydi'r amlycaf: yn wir, mi fûm yn ymdrechu am hir iawn i gael y gair iawn i ddisgrifio eu stori hwy, sef craidd y llyfr.
Cyrch? Hynt? Mabinogi?
Pererindod, hyd yn oed?

Mae'r elfennau hyn oll yma, a byddai'r Dybyl-Bybyls a'r cymeriadau eraill yn berffaith gartrefol yn un o chwedlau'r Canol Oesoedd.

Dwi fy hun yn hoff iawn o Dyl Thýd, a'r motif cyson ohono yn gorwedd yn horwth llonydd, meddw tra bo'r holl wallgofrwydd yn digwydd o'i gwmpas.

A rhaid canmol cymeriadau'r plismyn, hefyd: siŵr bod yna demtasiwn i'w gwneud yn gartwnau cardbord, ond mae Elton Jones a Wynne Pennylove yn gymeriadau crwn - hollol boncyrs, fel pawb yn y llyfr, ond crwn.

Mae yma stori, ac i'r sawl sydd eisiau dim mwy na hynny, mae Madarch yn berffaith.

Ail nofel yw hi, dilyniant, ac mae'n pasio'r prawf o fedru cael ei darllen a'i mwynhau heb i rywun fod yn gyfarwydd â'i rhagflaenydd.

Mae hefyd yn delynegol, ac yn wleidyddol.
Cyfuniad od, yn enwedig o gofio'r cyfeiriad at iaith fras a'r diwylliant cyffuriau sydd yn sboncio drwy'r llyfr, ond gwir, serch hynny.

Hanes pobl yr ymylon sydd yma, efallai, ond maen nhw'n bobl sydd yn bendant ynghlwm â'u tir ac yn ymwybodol o hanes ac o afael y tir hwnnw - a'r bygythiadau sy'n ei wynebu. - yn fwy felly nac unrhyw sylwebydd sy'n siarad drwy'i het wrth rwdlan am iaith fras.
Rhithffurf defnyddiwr
løvgreen
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 863
Ymunwyd: Iau 10 Ebr 2003 11:08 pm

Postiogan Gorwel Roberts » Mer 12 Rhag 2007 10:12 pm

vates ut ybawt?
Gorwel Roberts
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1550
Ymunwyd: Iau 19 Rhag 2002 3:23 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Macsen » Mer 12 Rhag 2007 10:31 pm

Mae na ddarn ohona fo'n Golwg wsos yma. Cliciwch fanyn a sgrolio i dudalen 22 i'w ddarllen.

Wnes i fwynhau Brithyll felly fyddai'n darllen hwn!
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Hedd Gwynfor » Llun 31 Rhag 2007 10:59 am

Cefaisi hwn fel anrheg Nadolig. Golygu ei ddarllen dros yr wythnos nesaf. Roedd Brithyll yn wych, felly fi'n disgwyl 'mlaen at hwn! 8)
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Postiogan ger4llt » Llun 31 Rhag 2007 4:40 pm

Yndi, ma'n sicr yr un mor wych â Brithyll - eto, sawl golygfaeydd hollol wallgo ynddo unwaith eto...on i'n eitha lwcus, darllen Madarch bron yn syth ar ol Brithyll - gallu cymharu nhw'n uniongyrchol, a dybl-dos go iawn :P

Yn fy marn i, Dewi Prysor 'di'r awdur gorau ar hyn o bryd yn Ngymru...ma'n braf bod rhywun yn gallu cyflwyno rwbath hollol ffresh fel hyn, ac yn ddigon dewr i wneud hynny. Ma'n rhaid i chi ddarllen Brithyll a Madarch, heb os nac oni bai! :D
Rhithffurf defnyddiwr
ger4llt
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 231
Ymunwyd: Sul 23 Medi 2007 2:24 pm
Lleoliad: Mewn ty bach twt yng nghefn yr ardd

Postiogan jammyjames60 » Llun 31 Rhag 2007 6:51 pm

'Dwi am brynu hwn wythnos nesa' 'dwi'n me'l. 'Nes i fwynhau'r llyfryn cynta'n fawr iawn ac am y tro cynta' erioed 'dwi 'di darllen llyfr, ddim yn son am lyfr cymraeg ei hiaith. Hollol ddigri a 'dwi'n gobeithio y bydd Madarch yr un mor doniol a llyfr cynta' Dewi Prysor!
Rhithffurf defnyddiwr
jammyjames60
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 681
Ymunwyd: Llun 07 Tach 2005 11:19 pm
Lleoliad: Felinheli, Gogledd Cymru

Postiogan Ffwlbri » Iau 03 Ion 2008 8:20 pm

Newydd orffen darllen hon- ac wedi mwynhau yn well nac unrhyw nofel mewn unrhyw iaith ers tro byd. Gafaelgar, digri a cwbl gredadwy (wel, heb law am y darnau sydd yn hollol dros ben llestri)

Brithyll yw'r nesaf ar fy rhestr ddarllen, heb os!
Rhithffurf defnyddiwr
Ffwlbri
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 11
Ymunwyd: Llun 12 Maw 2007 11:26 pm
Lleoliad: Caeredin

Postiogan KJ » Sad 05 Ion 2008 12:17 am

Nes i fwynhau darllen hwn fwy na Brithyll dwi meddwl, ma siwr gan fod rhan fwyaf o'r cymeriadau yn adnabyddus erbyn hyn.

Gobeithio am sicwyl i'r sicwyl i mi gael rwbath i ddarllen dolig nesa.
Rhithffurf defnyddiwr
KJ
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 55
Ymunwyd: Llun 27 Tach 2006 10:00 pm
Lleoliad: Awstralia

Postiogan Ffrinj » Sul 06 Ion 2008 4:28 pm

Ges i'r llyfr i Nadolig ond dwi heb ei ddarllen o eto >__<
Ffrinj
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 55
Ymunwyd: Mer 18 Gor 2007 12:45 pm
Lleoliad: Drenewydd/Bangor

Postiogan cymro1170 » Llun 07 Ion 2008 1:16 am

Ges i Brithyll 'Dolig dwethaf, a Madarch 'Dolig yma.

Oes blwyddyn gron wedi mynd heibio?
Dwi newydd ddechrau darllen Madarch, a braf ydi cael dweud fy mod wedi disgyn yn ol i fewn i fyd Cled, Sbanish, Bic, a Drwgi heb ddim traferth.

Mae Prysor hefo trysor ar ei ddwylo hefo'r soriiau yma.....

Fedrai ddim disgwyl tan 'Dolig nesaf i gael mwy o'r hanes, a dwi ddim wedi gorffen hwn eto :D

Da iawn Prys!!
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
cymro1170
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 699
Ymunwyd: Llun 10 Tach 2003 10:14 am
Lleoliad: Blaenau Ffestiniog

Nesaf

Dychwelyd i Llenyddiaeth

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 12 gwestai

cron