gan anffodus » Iau 17 Ion 2008 12:03 am
Da iawn. O'dd o'n darllan dipyn rhwyddach na Brithyll - aeddfetach mewn rhyw ffor'. O'n i, a'r awdur ei hun ma'n siwr yn nabod y cymeriada'n well aballu a'i fod o'n haws i'w ddarllan oherwydd hynny.
Ma pobl yn meddwl am Llwyd Owen fel y boi sy'n gallu ffurfio plot da ond ma Prysor llawn cystal â fo dwi'n meddwl: yn ca'l yr holl storylines i redag drwy'i gilydd heb ddrysu pobl a'u ca'l nhw i orffan yn dwt mewn un lle.
Edrach mlaen at y nesa!
Cod ar dy draed y llipryn! Lle ti'n feddwl wt ti?! Butlins?!!