Be' ti'n ddarllen ar y funud?

Y Babell Lên ar lein

Cymedrolwr: Llewelyn Richards

Rheolau’r seiat
Y Babell Lên ar lein. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Ramirez » Mer 01 Hyd 2003 3:59 pm

dwi newydd ddechra Lipstick Traces gan Greil Marcus- rhywun wedi ei ddarllen?
They say one of the few times a man pays full attention is when he’s talking about himself. Another is when blood is coming out of his penis.
Rhithffurf defnyddiwr
Ramirez
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4642
Ymunwyd: Sul 24 Tach 2002 5:52 pm
Lleoliad: Penlan dy Fam

Postiogan Jeni Wine » Iau 02 Hyd 2003 11:15 am

nicdafis a ddywedodd:Dw i'n darllen <i><a href="http://www.penguinputnam.com/static/rguides/us/sea_the_sea.html">The Sea, The Sea</a></i> gan <a href="http://books.guardian.co.uk/authors/author/0,5917,-113,00.html">Iris Murdoch</a>. Mae'n dda iawn, ond mae prif gymeriad yn fastad llwyr.

Mae <i>Glass Bead Game</i> yn wych, darllenais i hwnna'r llynedd.


Ma The Sea The Sea yn ffwcin bruliant. Ddarllenish i fo mewn tridia ar fys afiach drewllyd o Calgary i Toronto ddwy flynadd yn ol. Weithia oni'n meddwl 'be ddiawl?' pan oedd o'n mynd off ar tangents a ballu ond mae o'n wych. Mond ar ol cyrraedd y diwadd ti wir yn gwerthfawrogi nofal mor hyfryd ydi hi.
Aimable petite conne
Rhithffurf defnyddiwr
Jeni Wine
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1173
Ymunwyd: Sad 30 Awst 2003 3:51 pm
Lleoliad: llanbidinodyn lle mae'r cwn yn cachu menyn

Postiogan Cardi Bach » Iau 02 Hyd 2003 3:09 pm

newydd ddechre 'Cry Freedom' - nofel ar y ffilm wnaethpwyd ar fywyd Stee Biko.
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Postiogan brenin alltud » Gwe 03 Hyd 2003 2:33 pm

Rhys Llwyd a ddywedodd:dim


Hm, ddim yn meddwl mod i wedi gweld hwnna'n Browsers. Pwy yw'r awdur? Di e'n dda?
'Sneb yn becso am yr oen / sneb yn becso am y poen...'
Rhithffurf defnyddiwr
brenin alltud
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 725
Ymunwyd: Maw 09 Medi 2003 4:28 pm
Lleoliad: gyda'r adar mân

Postiogan Macsen » Gwe 03 Hyd 2003 6:11 pm

Rhys Llwyd a ddywedodd:dim


Dim y Beibl?
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Tracsiwt Gwyrdd » Iau 09 Hyd 2003 4:02 pm

ro'n i wedi anghofio cymaint dwi'n licio Iain Banks.


dwi wrth fy modd hefo sdwff Iain Banks, ond dwi ddim yn siwr os mai jysd ryw beth cyfnod oedd o, weithia' ma' llyfr arbennig yn dda jysd achos bod o'n gweddu i chdi ar y pryd, neu o gymharu hefo'r llyfr dwytha ac yn y blaen. Ond, ma clwad hunna'n galonogol. Dwi heb ddarllan Dead Air - Crow Road odd y cynta i fi ddarllan, ar ol gweld y gyfres deledu a neshi wirioni 'mhen efo fo, a wedyn Complicity (gweld y ffilm wedyn - ddim hannar cystal) a wedyn un arall, a dwi'm yn cofio'i enw fo.


Dw i'n darllen The Sea, The Sea gan Iris Murdoch.


Ffansi dechra hwnnw wan, achos dwi di cal i fenthyg o gin Jeni Wine ers tro byd a byth di ddechra fo.... sori!x
Rhithffurf defnyddiwr
Tracsiwt Gwyrdd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1581
Ymunwyd: Mer 20 Awst 2003 3:47 pm

Postiogan branwen llewellyn » Iau 09 Hyd 2003 10:53 pm

ar y funud dwi'n brwydro fy hyn drwy Afal Drwg Adda agn Caradog Pritchard. man andros o dda, fi sydd wedi colli amynedd yn ddiweddar!!
newydd orffen William Jones! clasuuuuuuur!
pish pash potas
Rhithffurf defnyddiwr
branwen llewellyn
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 242
Ymunwyd: Sul 13 Ebr 2003 10:22 pm
Lleoliad: llanuwchllyn

Nôl

Dychwelyd i Llenyddiaeth

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 23 gwestai