Gorwel Roberts a ddywedodd:...ond dudwch wrtha' i mewn difrif calon, rwan, a oes angen darllen dim byd gafodd ei sgwennu ar ol 1600?
Ma sdwff Emyr Lewis a gwaith buddugol Mererid Hopwood werth eu darllen fel creadigaethau - ond dichon y bydda nhw'n gerddi o'r un safon hyd yn oed pataent yn rhydd neu yn vers libre. Mae na wahaniaeth dwi'n meddwl rhwng y beirdd dechnegol dda a phobol sy'n wirioneddol yn "poets" mewn ystyr nad yw'n hawdd ei ddweud yn Gymraeg, sef pobol sy'n cyfuno'r doniau technegol gyda sbarc greadigol efo gwrthrychau, themau a gwrthgyferbyniadau diddorol.
Beth fuasai'n ddiddorol yw astudiaeth uniongyrchol o'r gynghannedd drwy'r oesoedd yn eu chyd-destun wleidyddol - e.e. defnydd y (go)gynghannedd cyn 1282, ei dyrchafiaeth yn y 14eg ganrif, ei defnydd yn yr adwaith i'r Llyfrau Gleision yn y Eisteddfod, a'i defnydd fel rhan o wleidyddiaeth iaith ers y chwedegau.
Mi oedd yna erthygl trylwyr a dwfn ar lyfr R. M. Jones mewn cylchgrawn lenyddol flwyddyn diwetha - fedra i ddim cofio'r enw'n iawn... dimBOL? dimLOTOJOCS? Rwbath fel yna.
Ie, ie. Na fe.