Cymedrolwr: Llewelyn Richards
Rhys Llwyd a ddywedodd:Mae unrhyw un sy'n mentro darllen stwff theori Bobi Jones yn haeddu medal. Maen stwff cymhleth tu hwnt ond yn hynod gyfoethog a thraeddgar unwaith ewch chi mewn i'r zone fel petae. Diddorol dy fod yn holi beth mae Bobi yn meddwl am Dooley - di'n cofio Bobi yn dweud wrthai unwaith ei fod en meddwl fod celf a cherdd yn gelfyddydau is na iaith, wnes i ddim cweit deall pam ond rwy'n tybied ei fod e rhywbeth i neud a fod iaith yn norm cwbwl greiddiol ac anghenrheidiol i fodolaeth ond bod celf a cherdd ddim? Mae abseliwts yn bwysig i Bobi felly efallai fod y ffaith ei fod hi'n haws dod at absoliwts trwy iaith ("wele Fuwch, buwch yw hwnna etc...") nag ydym hi trwy gelf a cherdd rhywbeth i wneud a'r peth. Hefyd mae Bobi wrth gwrs yn theoriydd Calfinaidd-Gristnogol ac mae'r "gair" wrth gwrs yn greiddiol bwysig i Gristnogaeth, trwy air soniodd Dduw am Y Gair ayyb...
Rhys Llwyd a ddywedodd:ac mae'r "gair" wrth gwrs yn greiddiol bwysig i Gristnogaeth, trwy air soniodd Dduw am Y Gair ayyb...
Dafydd Iwanynyglaw a ddywedodd:Un o fy nghwynion am y llyfr (ac er hynny, ciwdos mawr i'r boi am greu thiori lenyddol yn y Gymraeg bron iawn ar ben ei hun) yw nad yw'n dangos ystyr ei bwyntiau drwy ddyfynnu esiamplau concrit o farddoniaeth. E.e. mae na ddarn yn trafod rwbath neu'i gilydd am sut mae rhyddmau 3+2 a 2+2 acen yn cyfuno, ond dydio ddim yn rhoi esiamplau a fyddai'n gwneud hyn yn glir - mae o fel trafod barddoniaeth mewn algebra.
Prysor a ddywedodd:Engraifft berffaith o sut y mabwysiadodd Cristnogaeth un o gredoau canolog yr athroniaeth Derwyddol. Yr unig wahaniaeth ydi iddynt roi'r gair 'Duw' i mewn yn lle 'Gwir'.
Prysor a ddywedodd:Ond yn ôl at Bobi... Heb weld y llyfr fy hun, ond mae'n braf gweld ymdrech i weld beth yw rôl ysbrydol/seicolegol y gynghanedd, a sut mae'n effeithio ar y ffisegol.
Dwi wastad wedi meddwl fod defnydd ysbrydol i rythmau'r gynghanedd erstalwm (gyrru gwybodaeth yjn ddwfn i'r isymwybod fel na ellir ei anghofio, a hefyd weindio'r rhyfelwyr i fyny i ffrensi bloodlust cyn brwydr, etc) a bod colli cyfeiliant rythmig y pastwn a'r delyn wedi bod yn drychineb - fel colli rhyw hen gôd oedd yn angenrheidiol i wneud i'r peth weithio i'w lawn botensial.
Dafydd Iwanynyglaw a ddywedodd:Un cwestiwn gododd yn fy meddwl i tra'n darllen y darn ar waith Einon Offeiriad o drefnu a dyfeisio mesurau oedd a fyddai'r gynghanedd wedi parhau i ddatblygu a bod o'r un pwysigrwydd petai'r dywysogaeth wedi parhau tu fas i system lywodraethol coron Lloegr?
* NB - does gen i ddim ffecing cliw os ydw wedi deallt y llyfr, felly bosib fod hyn yn fwy rong na rwbath rong sydd yn hollol rong.
Rhys Llwyd a ddywedodd:Mae unrhyw un sy'n mentro darllen stwff theori Bobi Jones yn haeddu medal. Maen stwff cymhleth tu hwnt ond yn hynod gyfoethog a thraeddgar unwaith ewch chi mewn i'r zone fel petae....
Gorwel Roberts a ddywedodd:Ti'n meddwl bod Bobi Jones yn darllen Maes-e? Byddai'n gret cael ymateb ganddo.
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 28 gwestai