Ddim cweit yn wir - un or gwrthryfelwyr fwyaf prominent, Obi Wan Kanobi, yn cael ei chwarae gan Sir Alec Guinness.....sais adnebyddus a ganddo un or acenion saesneg anghyffredin o lyfli....Darth Vader hefo llais americanaidd er, gwrthryfelwr wedi troi'n baddie oedd e....dwi'n credu mai americanaidd oedd yr emperor hefyd?
Wel dwi'm yn deud nad oes eithriadau, jyst eu bod nhw fel hynny yn gyffredinol. Ma pob gwrthryfelwr cyffredin yn siarad 'da acen Americanaidd (acen y Gogledd ac ambell waith acen Canadaidd i fod yn drachwyr) a ma'r rhan fwyaf o swyddogion "Imperial" (efallai pob un) yn siarad 'da acen posh. Hefyd, pan mae Leia yn ceisio i ymddangos yn "imperial" yn nechrau'r ffilm cyntaf mae hi'n siarad fel Saeson, pan dan ni'n gwybod ei bod hi'n gwrthryfelwr mae hi'n gael acen Americanaidd.
Wel am Darth Vader, "arwr" oedd o wedyn cael ei newid gan yr emporer (hyd yn oed yn yr Original Trilogy dan ni'n gwybod hwn) felly os oes gynno fo acen Americanaidd dydy hynny ddim yn rhy bwysig oherwydd ei ddechrau.
LARWM: geeeeeek geeeek geeeeek geeeeeek! Waw dwi'n trist ambell waith. Ond o leiaf mae gan hwn gyswllt i'r bwnc, yn dechnegol.