gan Prysor » Mer 16 Ion 2008 1:09 pm
Ond gochel rhag i ni gael ein gwahardd rhag beirniadu ein meistri pan fo rhaid, a lle!
Mae sensoriaeth drwy ddemocrasi, a gorthrwm y dorf, yn hybu ac esgusodi anghyfiawnderau di-ri.
Yng Nghymru, does ond rhaid galw am gartrefi i bobl leol a mae'r gwleidyddion a'r wasg boblogaidd yn ein dwrdio am fod yn hiliol, ac yn ein rhoi yn ein lle. Does dim dadl ddeallusol yn erbyn y galwad am gartrefi i locals - mae'n digwydd ym maes cynllunio mewn rhanbarthau drwy Loegr eisoes. Mae'r unig reswm dros ein slapio ni i lawr yn un gwleidyddol. Yn absenoldeb y lleisiau beirniadol mae'r anghyfiawnder yn parhau.
Mae'r un peth yn digwydd os ydym yn meiddio cefnogi'r tim sy'n chwarae yn erbyn Lloegr. Gweler y gwleidyddion yn dod allan fesul un i'n condemnio, y llythyrau yn y wasg gan wladychwyr Seisnig - yn llawn agweddau, gosodiadau a sylwadau imperialaidd gan wladychwyr Sesinig - yn ein condemnio fel y pobl mwyaf anoddefgar a mewnblyg yn y byd (pot, kettle), a cholofnau golygyddol y wasg Brydeinig yng Nghymru yn hefru am ein diffyg brawdoliaeth!
A mae effaith y sensoriaeth yma ar gymdeithas yn ffiaidd. Dro ar ôl tro dw i wedi gweld Saeson yn ymosod yn gorfforol ar Gymry am gefnogi'r tim arall. Mae nhw'n teimlo'n gyfiawn i wneud hynny. Mae'r waldwriaeth a'r Sefydliad ar eu hochr nhw.
Mae'r un peth yn wir am fwio God Save the Queen mewn gemau pel droed. Dim smic am y Saeson yn bwio Hen Wlad Fy Nhadau mewn gem flaenorol, ond os y meiddia'r ignorant taffies fwio GSTQ, mae'r opinion makers i gyd ar yr attack yn y wasg ac yng nghoridorau grym unwaith eto.
Waeth be di'r ddadl foesol-ddeallusol (dosbarth canol, neis) yn erbyn bwio anthems, y wasg a'r gwleidyddion sy'n gyrru'r ddadl honno, yn ein cyflyrru i gwestiynnu ein hunain drwodd a thraw.
Mae nhw'n gwbod be di'n cryfderau a'n gwendidau fel cenedl, a mae nhw'n gwbod sut i droi'n cryfderau'n wendidau i weithio'n ein herbyn. Un o'n cryfderau ydi ein bod yn bobl sydd â natur goddefgar, egwyddorol, brawdgarol, cydweithredol ac athronyddol. Rydan ni'n parchu diwylliannau eraill lawer mwy na'r Saeson. Mae'r Wladwriaeth yn gwybod hyn felly, er fod Lloegr ymysg y gwledydd mwyaf hiliol ac imperialaidd a welodd hanes, mae nhw'n dod allan efo'r mantra ei fod yn rong i feirniadu, neu amharchu mynegiant o hunaniaeth cenedl arall. Mae'n wir, felly rydym ni'r Cymru'n dueddol i ufuddhau - heb feddwl dros ein hunain a gweld ei fod yn <b>iawn</b> i fynegi'n hanfodlonrwydd â agweddau imperialaidd, a system sy'n ein hambygio, drwy ymateb yn negyddol i symbolau'r system honno. Mae'n beth hollol gwahanol i barchu/amharchu diwylliannau eraill.
Tydi'r Cymry byth yn bwio anthemau gwledydd eraill. Dim ond God Save The Queen. Mae rheswm am hynny, a dim amharchu diwylliannau eraill ydi o.
Mae'n wir hefyd am Blaid Cymru, yn dewis ufuddhau i'r wasg a gwleidyddion Llafur drwy gydol y ffrae am dai i bobl leol. Yn ymuno hefo nhw ar adegau, i ymosod ar ymgyrchwyr. A phan mae'n dod i gefnogi gwrthwynebwyr Lloegr mewn gem beldroed, daw aelodau Plaid Cymru allan i ddatgan eu cefnogaeth i ymdrechion ein cymdogion yn y DU, Lloegr.
Hyd yn oed ar ôl taflu ymaith rhesymau gwleidyddol/hanesyddol, mae cynnal y reifalri iach, ac ysbryd yr underdog, yn bwysig. Mae'n rhan o'n hunaniaeth, a rhan o'n diwylliant poblogaidd. Ond ymddengys fod ni'r Cymry'n barod i dderbyn fod hynny, hefyd, yn anghwrtais, amharchus, neu hyd yn oed yn eithafol a hiliol! A dyna ffordd dda o ladd ein hunaniaeth, ddarn wrth ddarn - ei ddymchwel, garreg wrth garreg, frican wrth fricsan, a cael ni'n hunain i wneud y gwaith budr drostynt!
Mor wahanol ydi hi yn yr Alban. Mae'n dderbyniadwy yno i 'gasau' Saeson. Mae'n dderbyniadwy yn Lloegr, i Albanwr 'gasau' Saeson. Ddydd ar ôl dydd yn ystod Cwpan y Byd, roedd y wasg, y cyfryngau a'r gwleidyddion yn cael hwyl efo hyn. Haha fawr bob tro oedd gwleidyddion, sportsmen a pobl amlwg Albanaidd yn datgan eu cefnogaeth i wrthwynebwyr Lloegr ar y teledu neu'r radio. Hyd yn oed trafodaeth ar mor iach oedd y peth, yn aml! Dyna'r norm, felly dyna fo.
Ond y smic lleiaf o rywbeth tebyg yng Nghymru, a mi oedd penawdau a datganiadau ac ymosodiadau yn tasgu o gwmpas fel sbarcs. Cyffyffyl go iawn.
A'i effaith? Ein cyflyrru i beidio beirdniadu beiau'n meistri. Ffordd dda o gadw pobl i lawr - eu gorfodi i feio'u hunain, i blismona eu meddyliau eu hunain, ac i lastwreiddio eu hymwybyddiaeth o arwahanrwydd.
Felly, er fod peryg i ninnau stereoteipio Saeson mewn llenyddiaeth, mae i fyny i ni ein hunain wneud ein meddyliau ein hunain i fyny be sy'n wir a be sy'n rhagfarn. Tydi popeth ddim yn ddu a gwyn. Does dim pwynt lluchio'r babi allan efo'r dŵr. A dyna fyddwn i'n ei wneud os fyddwn yn derbyn dadleuon yr 'opinion makers' hwc, lein a sincar, ac yn dechrau sensro'n hunain - a hynny ar delerau ac yn ôl safonnau'r rhai sydd gan gymhellion hunanol dros ei hybu.
Os y collir ein llwyfannau i feirniadu, i wneud safiad, i ddychan, i feddwl dros ein hunain, ac i fynegi'r meddwl hwnnw, yna bydd y ffordd yn glir i'r sawl sy'n ein manipiwleiddio wneud unrhyw beth y mynn.