Brwydyr y Bradwr

Y Babell Lên ar lein

Cymedrolwr: Llewelyn Richards

Rheolau’r seiat
Y Babell Lên ar lein. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Brwydyr y Bradwr

Postiogan Cardi Bach » Maw 30 Medi 2003 3:05 pm

Wy ddim yn lico bod yn or feirniadol o waith pobol fel arfer yn gyhoeddus, ond ma'n rhaid i fi weud ma Brwydyr y Bradwr yw un o'r llyfre gwaetha odw i erioed wedi ddarllen!

Nid fod e ddim i'n chwaith i, achos fi fel arfer yn hoff o bethau tebyg - y syniad o weld y byd trwy lygaid rhywun heblaw am ddynoliaeth; alegori ar fywyd gorllewinol/dynoliaeth trwy fywyd anifail/sci-fi am y gofod ayb ayb

Ond ...

Rhaid cyfadde mod i heb orffen y llyfyr. Fi wedi ei ddechre fe ddwywaith, ac er mor fyr yw e, fi jyst ffeili cal yn hunan i fynd trw'r blydi peth. Yr unig beth alla i feddwl yw fod iddo ddiweddglo gwych nag ydw i wedi darllen ac mai dyna sydd yn achub y nofel!

Mae gormod o bethau amherthnasol yn cael eu nodi. Os mai alegori o ryw fath yw hi fod, pam y perthynas od angrhedadwy yma gyda'r ferch fach? Ai ymdriniaeth a chydraddoldeb yw hi i fod?

Beth yw hi?

Ma 'na anghysondebe di-ri ynddi hefyd, megis ar y cychwyn ma'r fam fochyn yn cyfeirio at y ffaith fod moch yn deall iaith ddynol yn iawn, ond ddim yn boddyrd i gyfathrebu a dynoliaeth, wedyn ma'r sioc uffernol yma pan fo Morgan yn siarad a'r ferch! eh?!

Ma 'na gyfeiriade at ddiffyg dealltwriaeth y moch o grefydd, ond wedyn deall llawn o ystyr y Nadolig.

Fi'n credu fod y nofel yn trial bod yn rhywbeth dyw hi'n bendant ddim.

Fi'n awyddus i gael fy mhrofi'n rong.
Ai dim ond ei gorffen hi (fydd yn strygl) sydd angen a bydda i wedi cal troadigaeth?

Plis, all rhywun daflu goleuni ar y peth.
Sai moyn bod yn anheg a'r awdur achos mod i'n rhy dwp i ddeall :(
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Postiogan Cardi Bach » Maw 30 Medi 2003 3:07 pm

(Sori - angen cloi hon!)
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Postiogan Al Jeek » Maw 30 Medi 2003 3:14 pm

Fedri di ddim jyst dileu hi?
Al Jeek
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 651
Ymunwyd: Sul 27 Gor 2003 6:45 pm
Lleoliad: Caerdydd


Dychwelyd i Llenyddiaeth

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 21 gwestai