Wy ddim yn lico bod yn or feirniadol o waith pobol fel arfer yn gyhoeddus, ond ma'n rhaid i fi weud ma Brwydyr y Bradwr yw un o'r llyfre gwaetha odw i erioed wedi ddarllen!
Nid fod e ddim i'n chwaith i, achos fi fel arfer yn hoff o bethau tebyg - y syniad o weld y byd trwy lygaid rhywun heblaw am ddynoliaeth; alegori ar fywyd gorllewinol/dynoliaeth trwy fywyd anifail/sci-fi am y gofod ayb ayb
Ond ...
Rhaid cyfadde mod i heb orffen y llyfyr. Fi wedi ei ddechre fe ddwywaith, ac er mor fyr yw e, fi jyst ffeili cal yn hunan i fynd trw'r blydi peth. Yr unig beth alla i feddwl yw fod iddo ddiweddglo gwych nag ydw i wedi darllen ac mai dyna sydd yn achub y nofel!
Mae gormod o bethau amherthnasol yn cael eu nodi. Os mai alegori o ryw fath yw hi fod, pam y perthynas od angrhedadwy yma gyda'r ferch fach? Ai ymdriniaeth a chydraddoldeb yw hi i fod?
Beth yw hi?
Ma 'na anghysondebe di-ri ynddi hefyd, megis ar y cychwyn ma'r fam fochyn yn cyfeirio at y ffaith fod moch yn deall iaith ddynol yn iawn, ond ddim yn boddyrd i gyfathrebu a dynoliaeth, wedyn ma'r sioc uffernol yma pan fo Morgan yn siarad a'r ferch! eh?!
Ma 'na gyfeiriade at ddiffyg dealltwriaeth y moch o grefydd, ond wedyn deall llawn o ystyr y Nadolig.
Fi'n credu fod y nofel yn trial bod yn rhywbeth dyw hi'n bendant ddim.
Fi'n awyddus i gael fy mhrofi'n rong.
Ai dim ond ei gorffen hi (fydd yn strygl) sydd angen a bydda i wedi cal troadigaeth?
Plis, all rhywun daflu goleuni ar y peth.
Sai moyn bod yn anheg a'r awdur achos mod i'n rhy dwp i ddeall