Brwydyr y Bradwr

Y Babell Lên ar lein

Cymedrolwr: Llewelyn Richards

Rheolau’r seiat
Y Babell Lên ar lein. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Brwydyr y Bradwr - Da neu Wael?

Da
2
18%
Gwael
4
36%
So-so
5
45%
 
Cyfanswm pleidleisiau : 11

Postiogan Aran » Mer 01 Hyd 2003 9:19 pm

Leusa a ddywedodd:Ga i fedal plis?


hmmm... un tro, roedd 'na dau deulu efo plantos, a wnaethon nhw tyfu i fyny, ac aeth rhai ohonyn nhw i'r rhyfel a wnaeth rhai ohonyn nhw priodi ei gilydd a byw mewn ty braf yng nghefn gwlad.

a dyna i chdi 'Rhyfel a Heddwch'...

sef, nid cymhlethdod y hanas sy'n golygu pob dim...

neu... un tro, roedd anifeiliad ar fferm yn flin efo'r ffarmwr, felly wnaethon nhw codi yn ei erbyn a chael gwaered ohono fo, ond wedyn wnaeth y moch a oedd yn rheoli pethe'n troi allan i fod yn waeth fyth...

mae 'na llawer o glasuron efo straeon digon syml, 'toes...? dim yn deud bod 'brwydr y bradwr' yn glasur - jesd bod angen dadl cryfach yn ei erbyn... :)
Rhithffurf defnyddiwr
Aran
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1713
Ymunwyd: Sul 25 Mai 2003 9:56 pm
Lleoliad: Llithfaen

Postiogan Leusa » Iau 02 Hyd 2003 9:22 am

damia! Iawn, barn onnest:
Cynnwys a syniad yn wael, angen rhywbeth mwy bachog a real efallai sydd ddim yn cynnwys anifeiliaid, ma hyna yn mynd yn syniad hen ffashwn iawn.
Arddull yn ardderchog, rhaid cyfadde bod y technegau sgwennu yn sbot on, a ma na rwbath diddorol ymhob brawddeg.
Mae'r strwythyr o sut ma'r amser yn newid o hyd yn gallu bod yn hen syniad eto, wedi ei neud o'r blaen, ac yn chwalu'r tro yn y gwnffon [bwm bwm!] yn y diwedd pam ma jaci soch yn cal i'w ladd.
Cymeriadau digon difyr, unwaith eto, braidd yn stoc.
o meri an meri an meri an se dore mi jac y do jac y do galileo mi mi mi galileo mi mi mi
Rhithffurf defnyddiwr
Leusa
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3035
Ymunwyd: Gwe 28 Chw 2003 11:52 pm

Postiogan Buddug Trotter » Iau 02 Hyd 2003 3:12 pm

Leusa a ddywedodd:
Doedd y nofel ddim mor wael â hynny!

Anghytunaf yn harti! Un tro mi roedd na fochyn bach bach oedd yn wahanol i'w frodyr, roedd o yn ciwt ac yn binc, felly mi gymodd hogan fach y ffarm o fel anifel anwes. Yn rhyfedd iawn, dyma'r ddau yn dechra siarad efo'i gilydd, ond pan ath y ferch a'r mochyn i'r sioe, fe wrthododd y mochyn bach siarad. Diwedd y stori oedd i'r mochyn bach gael ei ladd a'i fwyta i ginio dydd sul. y diwedd. Ga i fedal plis?


swnio fwy fel Babe The Hollywood Pig na Animal Farm. Fydd hi'm y tro cynta i'r Sdeddfod wobrwyo tampon sdinci fel nofel y flwyddyn
Ynfytyn hael a halia
I wlychu Gweflau Gwalia
Bid Idris ydyw'r rotter
A wlypodd Buddug Trotter
Buddug Trotter
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 61
Ymunwyd: Llun 01 Medi 2003 12:32 pm
Lleoliad: Trons Tony Terfel

Postiogan tafod_bach » Iau 02 Hyd 2003 7:15 pm

Fydd hi'm y tro cynta i'r Sdeddfod wobrwyo tampon sdinci fel nofel y flwyddyn



*hihihihihihihiiii*

*hwwwff*

yn wir yn wir eisteddfod sir, ro'n i'n styc yn rwsia am fis efo dim byd i'w ddarllen, blaw tess of the d'urbevilles (sp?), cadw dy ffydd brawd a brwydyr y bradwr.

*gwneud gwn bysadd*

*rhoi gwn yn geg*

*piawn piawn*

on the up side, nes i neud lot o weu, so don i ddim yn oer.

s
x
Rhithffurf defnyddiwr
tafod_bach
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 936
Ymunwyd: Llun 08 Medi 2003 11:49 am

Postiogan Aran » Gwe 03 Hyd 2003 7:44 am

Leusa a ddywedodd:damia! Iawn, barn onnest:
Cynnwys a syniad yn wael, angen rhywbeth mwy bachog a real efallai sydd ddim yn cynnwys anifeiliaid, ma hyna yn mynd yn syniad hen ffashwn iawn.
Arddull yn ardderchog, rhaid cyfadde bod y technegau sgwennu yn sbot on, a ma na rwbath diddorol ymhob brawddeg.
Mae'r strwythyr o sut ma'r amser yn newid o hyd yn gallu bod yn hen syniad eto, wedi ei neud o'r blaen, ac yn chwalu'r tro yn y gwnffon [bwm bwm!] yn y diwedd pam ma jaci soch yn cal i'w ladd.
Cymeriadau digon difyr, unwaith eto, braidd yn stoc.


aha - ia, mae'n rhaid cytuno efo'r rhan helaeth o hyn. brawddeg olaf sy'n crybwyll 'nheimladau i at y peth - bod ganddo pob dim oedd isio ar gyfer nofel afaelgar, a rhwysut ni chafodd o'r defnydd gorau allan o'r deunydd. ie, oedd yr ambell i prolepsis yma ac acw ddim yn ychwanegu at y densiwn (tro yn y gwnffon - da, 'de... :winc: ) - ond dw i'm yn siwr am y busnes 'hen ffasiwn' 'ma - anodd iawn iawn i fod yn gwbl newydd, 'toes? a dydy hen batrymau ddim yn cadw rhywbath rhag fod yn llwyddiannus...

a deud y gwir, mae'r chwant am bethe newydd yn un cymharol diweddar - pum can mlynedd yn ôl, yn llenyddiaeth Saesneg o leia, oedd 'original' yn golygu 'gwallgof'...
Rhithffurf defnyddiwr
Aran
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1713
Ymunwyd: Sul 25 Mai 2003 9:56 pm
Lleoliad: Llithfaen

Postiogan Leusa » Gwe 03 Hyd 2003 9:02 pm

a dydy hen batrymau ddim yn cadw rhywbath rhag fod yn llwyddiannus...

Nadi, os dio cal i neud yn iawn de! Dos na'm byd gwaeth na hen batrwm yn cael ei ail-adrodd yn yr un hen ffordd ormod, sy'n troi allan yn hollol ddiflas. Mae angen arbrofi chydig!
o meri an meri an meri an se dore mi jac y do jac y do galileo mi mi mi galileo mi mi mi
Rhithffurf defnyddiwr
Leusa
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3035
Ymunwyd: Gwe 28 Chw 2003 11:52 pm

Postiogan Aran » Llun 06 Hyd 2003 8:13 am

Leusa a ddywedodd:Nadi, os dio cal i neud yn iawn de! Dos na'm byd gwaeth na hen batrwm yn cael ei ail-adrodd yn yr un hen ffordd ormod, sy'n troi allan yn hollol ddiflas. Mae angen arbrofi chydig!


cytuno'n llwyr - jesd pwyntio allan bo chdi ddim yn cael getawê efo 'mae hyna'n mynd yn syniad hen ffasiwn iawn' *heb* bo chdi hefyd yn rhoi'r cyllell i mewn am *pam* bod hyna'n methu gweithio... :winc:

wnaeth rhywun ar y maes roi gairda i 'O'r Canol i Lawr' wythnos o'r blaen - argh. oedd well gen i 'Brwydr y Bradwr', wir yr, sy'n deud cyfrolau. 'dy rhywun arall 'di darllen o'rcanolilawr...?
Rhithffurf defnyddiwr
Aran
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1713
Ymunwyd: Sul 25 Mai 2003 9:56 pm
Lleoliad: Llithfaen

Postiogan Lloerig » Mer 08 Hyd 2003 7:29 am

Ond beth am hyn?

O'n i'n gwrando ar Cefin Roberts yn siarad yn Harlech neithiwr a phan nath rhywun ofyn iddo fo dameg am be oedd y llyfr fe awgrymodd ei fod o'n reit hunangofiannol ac fe soniodd o am dri pheth - fel roedd o'n teimlo'n 'wahahnol' ac yn cal ei fwlio'n hogyn am ei fod o'n mynd i wersi dawnsio (billy elliot ...), fel roedd holl hanes John Owen wedi effeithio arno fo ac fel oedd rhaglen y Byd ar Bedwar yn slagio Glan Aethwy off wedi effeithio arno fo.

Os dan ni'n darllen y llyfr fel stori 'seren' yn cael ei wrthod gan ei deulu ac yn cael ei wrthod gan y cyhoedd ac wedyn yn cael ei aberthu gan y cyfryngau ella fod na fwy iddi na be oeddan ni'n feddwl :?:
"Bydd feiddgar hyd at wallgofrwydd"
Rhithffurf defnyddiwr
Lloerig
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 28
Ymunwyd: Maw 07 Hyd 2003 7:17 am

Postiogan Leusa » Mer 08 Hyd 2003 5:46 pm

heeeeei, oeddat ti yno neithiwr efyd?! Andros o noson dda, a gesh i fy synnu efo'i esboniad o'r syniad tu ol i'r stori hefyd rhaid deud.
o meri an meri an meri an se dore mi jac y do jac y do galileo mi mi mi galileo mi mi mi
Rhithffurf defnyddiwr
Leusa
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3035
Ymunwyd: Gwe 28 Chw 2003 11:52 pm

Postiogan Aran » Mer 08 Hyd 2003 6:20 pm

difyr, 'te... ella bod angen Meinir yma i son am farwolaeth yr awdur...

hynny yw, ydy ysbrydoliaeth fel hynna, sydd ddim ar gael i'r darllenydd ond bod yr awdur yn cynnal sgwrs efo fo/hi, yn cyfrif am unrhwybath? ydy bwriad yr awdur yn *bodoli*, hydnoed, unwaith i'r gwaith mynd allan i'r byd ar ei ben ei hun?

mae'n ddifyr clwyed am gefndir fel'na - ond dw i'n amau a fyddai'n gwneud y llyfr yn fwy llwyddiannus taswn i'n ailddarllen y peth rwan, yn gwybod am ei syniad o. mae'r cryfderau a gwendidau yn dal i fod fel mynegwyd uchod, ynde?

neu ella bod hyn yn hollol cymysglyd, a dw i 'di colli 'ngallu i fynegi fy hun... :ofn:
Rhithffurf defnyddiwr
Aran
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1713
Ymunwyd: Sul 25 Mai 2003 9:56 pm
Lleoliad: Llithfaen

NôlNesaf

Dychwelyd i Llenyddiaeth

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 27 gwestai