Sian Northey a ddywedodd:Ond, petae ti wedi clywed y dehongliad "seren" gan unrhyw un arall heblaw yr awdur (trwy gyfrwng Lloerig) mae'n debygol y byddet wedi ei hystyried gyda mwy o barch a diddordeb.
mmm, difyr 'to. dw i'm yn meddwl i mi ddangos diffyg parch at y dehongliad, gyda llaw! -
Aran a ddywedodd:mae'n ddifyr clwyed am gefndir fel'na
ac a deud y gwir, dw i'n meddwl y byddwn i fod wedi cael llai o amser i'r dehongliad yna gan rywun ar wahân i'r awdur - hynny yw, mi fuaswn i 'di bod yn debycach o weld o'n enghraifft o sut all unrhywun dehongli unrhyw darn fel y mynnant... heb unrhywbath yn y llyfr ei hun i arwain at y dehongliad, mi fuasai'r un mor ddilys i weld y mochyn yn cynrychioli ceisiwr lloches sy'n cael ei 'wrthod' gan ei lywodraeth, wedyn yn cael ei 'wrthod' gan lywodraeth san steffan er iddo dysgu'r Saesneg, ac wedyn yn cael ei ymosod arno gan dorf yn Wrecsam...
ond y ffaith i'r awdur cynnig y dehongliad yn golygu bod rhaid ei ystyried yn berthnasol...
cwestiwn difyr am y wahaniaeth rhwng dehongliad awdur a dehongliad darllenydd. 'swn i'n teimlo bod yr awdur yn colli'r hawl i roi un dehongliad yn benodol uwchben pethe bod pobl eraill yn gweld yn y gwaith yr eiliad iddi/o orffen ei sgwennu...
hynny yw, mae'n deg (ac efallai weithie'n berthnasol, hydnoed!) i'r awdur deud 'dyna oedd fy mwriad', ond nid 'dyma sut y dylet ti dehongli'r gwaith'...