Y Gwyddoniadur Iaith Gymraeg

Y Babell Lên ar lein

Cymedrolwr: Llewelyn Richards

Rheolau’r seiat
Y Babell Lên ar lein. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Y Gwyddoniadur Iaith Gymraeg

Postiogan Capten Y Titanic » Maw 06 Mai 2008 11:07 am

[/quote] llawer gwell rhoi'r gwaith i griw clyfar o bobol sydd wedi darllen lot o lyfrau.[/quote]

yn hollol! pobl 'glyfar' yn troi yn eu 'cliques' bach smyg, yn darllen llyfrau ei gilydd ac yn slapio cefnau ei gilydd yn y 'steddfod a't lodj.
Mor "refreshing" fyddai cael panel o bobl sy' DDIM yn "glyfar" a sy' DDIM yn "darllen lot o lyfrau" - pobl normal, pobl HEB agenda, pobl sy'n cynrychioli y Cymro cyffredin sy' DDIM yn glyfar a darllen lot o lyfrau, pobl y gallai'r mwyafrif ohonom drystio eu gonestrwydd, pobl y gallen ni uniaethu a nhw. Byddai siaws wedyn inni uniaethu gyda'r cynnwys.
Rhithffurf defnyddiwr
Capten Y Titanic
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 17
Ymunwyd: Iau 01 Mai 2008 3:43 pm

Re: Y Gwyddoniadur Iaith Gymraeg

Postiogan Hazel » Maw 06 Mai 2008 12:43 pm

Capten Y Titanic a ddywedodd:
llawer gwell rhoi'r gwaith i griw clyfar o bobol sydd wedi darllen lot o lyfrau.


Capten Y Titanic a ddywedodd:yn hollol! pobl 'glyfar' yn troi yn eu 'cliques' bach smyg, yn darllen llyfrau ei gilydd ac yn slapio cefnau ei gilydd yn y 'steddfod a't lodj.
Mor "refreshing" fyddai cael panel o bobl sy' DDIM yn "glyfar" a sy' DDIM yn "darllen lot o lyfrau" - pobl normal, pobl HEB agenda, pobl sy'n cynrychioli y Cymro cyffredin sy' DDIM yn glyfar a darllen lot o lyfrau, pobl y gallai'r mwyafrif ohonom drystio eu gonestrwydd, pobl y gallen ni uniaethu a nhw. Byddai siaws wedyn inni uniaethu gyda'r cynnwys.



"sy' DDIM yn "glyfar"? "sy' DDIM yn "darllen lot o lyfrau"? "Pobl "normal"? "mwyafrif ohonom drystio eu gonestrwydd"? Dw i'n cael llun rhyfedd yma. Ydy pobl sydd yn "clyfar" a darllen llawer o lyfrau anonest? Ydy pobl sydd yn "clyfar" a darllen llawer o lyfrau annormal?

Tybed byddai eich pobl "normal" sydd chi'n trystio na fod "clique"? Tybed byddai eich pobl "normal" yn cael "agenda" eu hunan 'da nhw? Pa fath o gwyddoniadur bydden nhw cynhyrchu os nad nhw wedi darllen, os nad nhw'n clyfar? Dwn i ddim..................
Hazel

Gwell rhoi na derbyn -- yn enwedig cyngor. (Twain)
Hazel
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 530
Ymunwyd: Iau 12 Hyd 2006 9:27 pm
Lleoliad: Missouri, U.D.A

Re: Y Gwyddoniadur Iaith Gymraeg

Postiogan Rhys » Maw 06 Mai 2008 1:12 pm

Peidiwch a'm cam-ddallt i, dwi ddim o'r farn y dylai'r Gwyddoniadur fod yn llawn selebs, mond nodi (wedi darllen yr engrheifftiau yn yr erthygl, a nid drwy ddarllen y gyfrol rhaid cyfaddef) bod lot o farn yn cael ei fynegi, tra dylai'r Gwyddoniadur nodi ffeithiau yn unig.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2176
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 8:07 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Y Gwyddoniadur Iaith Gymraeg

Postiogan Cymru Fydd » Gwe 10 Ebr 2009 8:45 pm

'Dw i'n meddwl fod pawb braidd yn greulon tuag at y Gwyddoniadur. Go brin mai crachach sydd wedi 'sgrifennu'r Gwyddoniadur, dim ond pobl sydd wedi gweithio'n galed i ennyn statws a pharch mewn swyddi dylanwadol. O adnabod rhai o'r golygyddion, ni chredaf mai eu bwriad oedd creu propaganda rhagfarnllyd, ond yn hytrach gwyddoniadur mwy hygyrch ac 'ysgafnach' na'r arfer efallai.
Mae degawd o lafur wedi mynd i mewn i'r Gwyddoniadur, ac onid rhagrith pur yw cachu ar ei ben? 'Dw i'n meddwl mai'r beirniaid ohono sydd ar fai: 'dech chi'n cwyno am flynyddoedd am wyddoniadur, ac wedyn, pan mae un yn cael ei greu, 'dech chi ddim yn fodlon efo fo. Wel, tyfwch fyny, blantos bychain, dduda i.

Hoffwn ganmol y Gwyddoniadur, gan ei fod yn ffrwyth blynyddoedd hir o lafur.
"Maes-e yw'r lle am seiat!"
Cymru Fydd
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 16
Ymunwyd: Maw 05 Chw 2008 9:43 pm

Nôl

Dychwelyd i Llenyddiaeth

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 15 gwestai

cron