Y Gwyddoniadur Iaith Gymraeg

Y Babell Lên ar lein

Cymedrolwr: Llewelyn Richards

Rheolau’r seiat
Y Babell Lên ar lein. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Y Gwyddoniadur Iaith Gymraeg

Postiogan dawncyfarwydd » Sul 27 Ebr 2008 5:55 pm

Be ydi'r chances byddan nhw'n fodlon gadael i'r erthyglau fod yn sail i'r Wicipedia Cymraeg? Ella bod hynny'n groes i ysbryd Wicipeidio, ond dwi ddim yn gweld y wefan yn llwyddo heb fewnbynnu llwyth o erthyglau fel hyn.
Rhithffurf defnyddiwr
dawncyfarwydd
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 837
Ymunwyd: Iau 28 Ebr 2005 4:27 pm
Lleoliad: yn dal yma...

Re: Y Gwyddoniadur Iaith Gymraeg

Postiogan krustysnaks » Sul 27 Ebr 2008 7:27 pm

Rhithffurf defnyddiwr
krustysnaks
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2967
Ymunwyd: Mer 14 Ebr 2004 8:05 pm
Lleoliad: yng nghôl J M Keynes

Re: Y Gwyddoniadur Iaith Gymraeg

Postiogan Seonaidh/Sioni » Sul 27 Ebr 2008 7:34 pm

Hedd Wyn (os cofia i'n iawn), "Mab ei Dad":-

Y llynedd gyda'r llanw - y tynnodd
Dros y tonnau garw:
Dros ei wlad y rhoes ei lw;
Dros for fe droes i farw.

'Leni haedda lonyddwch - ei fwyn hun
Fan honno mewn heddwch:
Ar wely'r llawr treulia'r llwch
Nadolig ei dawelwch.

Dyma enghraifft o englyn yn ol be ddywedodd Sian. Mae'n cynnwys odl a chynghanedd mewn dull eithriadol o lym a'i phwrpas ydy cyfleu ystyr dwfn mewn ychydig i air. Digwydd i mi gofio'r englyn uchod gan mod i wedi sgwennu cerddoriaeth drosti unwaith (cor SATB).
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha

Re: Y Gwyddoniadur Iaith Gymraeg

Postiogan Rhys » Llun 28 Ebr 2008 8:47 am

dawncyfarwydd a ddywedodd:Be ydi'r chances byddan nhw'n fodlon gadael i'r erthyglau fod yn sail i'r Wicipedia Cymraeg? Ella bod hynny'n groes i ysbryd Wicipeidio, ond dwi ddim yn gweld y wefan yn llwyddo heb fewnbynnu llwyth o erthyglau fel hyn.


Cyn belled a bod ti ddim yn difynnu gair am air, does dim o'i le ar ddefnyddio'r Gywddoniadur i roi mwy o gig ar erthyglau Wicipedia. I ddweud y gwir mae'r Wicipedia Cymraeg angen ychydig mwy o gyfeiriadau (refrences?) wedi eu nodi ar waelod erthyglau - rhywbeth nad yw'r gweinyddwyr yn mynnu digon arnynt yn fy marn i.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2176
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 8:07 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Y Gwyddoniadur Iaith Gymraeg

Postiogan Darth Sgonsan » Llun 28 Ebr 2008 1:25 pm

Y Duw Lenyddol a ddywedodd:Pwynt da Dylan! Dylai cyfrol fel hon fod yn llawer mwy democrataidd. Dylai'r cyhoedd fod yn allweddol yn y dethol yn hytrach na gadael y dewis i driawd hollwybodus siarad ar ein rhan.


ti'n gall dwa? os fysa chdi wedi gadael i'r plebs ddewis fysa'r llyfr yn ddim byd ond clychau pidlans fatha gitarydd Motorhead a Thom Jones.

dwi dal ar y bejan gynta, ond nesh i chwerthin wrth ddarllan bod yr A470 yn uno neu'n symbol o'r awydd i uno Cymru - o ni ffili coelio fy llygid - sefnti smacars am beth fel hyn?
ond ers i'r Daily Mail alw'r llyfr yn 'acerbic tome' dwi'n ama ella fod y tynnu coes yn fwriadol
He who makes a beast of himself gets rid of the pain of being a man
Darth Sgonsan
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 736
Ymunwyd: Llun 23 Mai 2005 9:43 am
Lleoliad: yn pesgi ar farwolaeth mamwlad dlawd

Re: Y Gwyddoniadur Iaith Gymraeg

Postiogan Y Duw Lenyddol » Maw 29 Ebr 2008 10:04 am

Ti wedi colli'r plot gwboi! Sut alli di ar y naill law watwar y posibilrwydd o gynnwys "Thom" [sic] Jones yn Y Gwyddoniadur, tra bod y panel WEDI cynnwys Max Boyce, a 'weit for it', Tim Lacrosse Merched Cymru!!!!!!!!!!!!!!! Mae dy ddadl di mor ffarsaidd a'r llyfr ei hun!
Beth yw dy broblem di gyda gwrando ar farn dy gyd-Gymry?
Wyt ti rili mor ddi-asgwrn-cefn a bod yn fodlon gadael i'r "clique" o snobs academig troedig i wneud y dewis drosot ti??????????
Tyfa i fyny!


Darth Sgonsan a ddywedodd:
Y Duw Lenyddol a ddywedodd:Pwynt da Dylan! Dylai cyfrol fel hon fod yn llawer mwy democrataidd. Dylai'r cyhoedd fod yn allweddol yn y dethol yn hytrach na gadael y dewis i driawd hollwybodus siarad ar ein rhan.


ti'n gall dwa? os fysa chdi wedi gadael i'r plebs ddewis fysa'r llyfr yn ddim byd ond clychau pidlans fatha gitarydd Motorhead a Thom Jones.

dwi dal ar y bejan gynta, ond nesh i chwerthin wrth ddarllan bod yr A470 yn uno neu'n symbol o'r awydd i uno Cymru - o ni ffili coelio fy llygid - sefnti smacars am beth fel hyn?
ond ers i'r Daily Mail alw'r llyfr yn 'acerbic tome' dwi'n ama ella fod y tynnu coes yn fwriadol
Rhithffurf defnyddiwr
Y Duw Lenyddol
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 24
Ymunwyd: Mer 23 Ebr 2008 4:52 pm

Re: Y Gwyddoniadur Iaith Gymraeg

Postiogan Darth Sgonsan » Maw 29 Ebr 2008 12:38 pm

Y Duw Lenyddol a ddywedodd:Ti wedi colli'r plot gwboi! Sut alli di ar y naill law watwar y posibilrwydd o gynnwys "Thom" [sic] Jones yn Y Gwyddoniadur, tra bod y panel WEDI cynnwys Max Boyce, a 'weit for it', Tim Lacrosse Merched Cymru!!!!!!!!!!!!!!! Mae dy ddadl di mor ffarsaidd a'r llyfr ei hun!
Beth yw dy broblem di gyda gwrando ar farn dy gyd-Gymry?
Wyt ti rili mor ddi-asgwrn-cefn a bod yn fodlon gadael i'r "clique" o snobs academig troedig i wneud y dewis drosot ti??????????
Tyfa i fyny!


fysa'r cyd-Gymry wedi dewis Cymry selebaidd di-sylwedd fel Tom Jones. ddyla llyfr fel hwn fod yn addysg nid y rhestr arferol o Gymry enwog - gei di un o'r rheiny yn Western Mail bob yn ail wsos

mae'r rhestr o bobol sydd wedi cyfrannu i'r Gwyddoniadur yn hirfaith, bob un yn arbenigwr yn ei faes...dim ond plentyn fydda'n dadlau o blaid pobol yn fotio ar gynnwys Gwyddoniadur - faint o amser fydda hynny'n gymryd? llawer gwell rhoi'r gwaith i griw clyfar o bobol sydd wedi darllen lot o lyfrau.
He who makes a beast of himself gets rid of the pain of being a man
Darth Sgonsan
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 736
Ymunwyd: Llun 23 Mai 2005 9:43 am
Lleoliad: yn pesgi ar farwolaeth mamwlad dlawd

Re: Y Gwyddoniadur Iaith Gymraeg

Postiogan Rhys » Maw 29 Ebr 2008 1:17 pm

Darth Sgonsan a ddywedodd:bob un yn arbenigwr yn ei faes...dim ond plentyn fydda'n dadlau o blaid pobol yn fotio ar gynnwys Gwyddoniadur - faint o amser fydda hynny'n gymryd? llawer gwell rhoi'r gwaith i griw clyfar o bobol sydd wedi darllen lot o lyfrau.


Faint gymerodd y Gwyddoniadur i'w gwbwlhau - 9-10 mlynedd? :winc: (Nid mod i eisiau i'r peth fod llawn slebs chwaith).
Heb ei ddarllen eto, ond o ddarllen yr adolygiad Times, mae'n edrych fel bod lot o farn/rhagfarn* yn cael ei gynnwys yn yr erthyglau, a'r dewis o beth sy'n cael ei gynnwys

*ond barn/rhagfarn sy'n cael ei rannu gan pawb arall, felly pawb yn hapus
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2176
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 8:07 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Y Gwyddoniadur Iaith Gymraeg

Postiogan Y Duw Lenyddol » Mer 30 Ebr 2008 9:38 am

Rhys a ddywedodd:
Darth Sgonsan a ddywedodd:
Faint gymerodd y Gwyddoniadur i'w gwbwlhau - 9-10 mlynedd? :winc: (Nid mod i eisiau i'r peth fod llawn slebs chwaith).
Heb ei ddarllen eto, ond o ddarllen yr adolygiad Times, mae'n edrych fel bod lot o farn/rhagfarn* yn cael ei gynnwys yn yr erthyglau, a'r dewis o beth sy'n cael ei gynnwys

*ond barn/rhagfarn sy'n cael ei rannu gan pawb arall, felly pawb yn hapus


Ti'n iawn Rhys. Wedi'r cyfan, o'r pwrs cyhoeddus y daeth y nawdd: ni dalodd amdano, felly mae dyletswydd gan y golygyddion i wrando ar ein barn ni. "So what" os yw Bonnie Tyler, Tom Jones etc. ynddo? Mae'n nhw'n arwyr penna' i filoedd o Gymry. Y pwynt sylfaenol yw hwn: Ddylen ni ddim gadael i grach hunan-apwyntiedig i fwydo ni gyda eu dewis nhw o'r bobol sy'n bwysig. Math o ffasgiaeth yw hynny yn 'te? - sefyllfa lle mae'r 'elite' yn penderfynu beth ddylai'r werin ei gredu ynddo a'i fawrygu. Dros y ddwy neu dair canrif flaenorol roedd gyda ni yng Nghymru ddemocratiaeth weithredol yn ein cymunedau - ar y mynydd ac yn y chwarel - mae'n troi fy 'stumog i i feddwl bod yr asgwrn cefn yma wedi ei dorri, a'r genhedlaeth heddiw yn brefu'n swci wrth dderbyn y deth o botel y sefydliad!
Petae'r Academi yn meddu ar y cwrteisi i ymgynghori a'r Cymro cyffredin, byddai'n llyfr yma dipyn yn fwy perthnasol, byddai ynddo bobol o argyhoeddiad - arwyr yn eu cymunedau - gwerinwyr o weledigaeth - athronwyr dosbarth gweithiol, yn hytrach nag uchelwyr Prydeinig a sgweieriaid ponslyd! Y broblem wastadol yng Nghymru heddiw yw mai'r babi sy'n sgrechen uchaf sy'n cael y llaeth i gyd.
Rhithffurf defnyddiwr
Y Duw Lenyddol
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 24
Ymunwyd: Mer 23 Ebr 2008 4:52 pm

Re: Y Gwyddoniadur Iaith Gymraeg

Postiogan Pentre Eiddwen » Mer 30 Ebr 2008 9:41 am

Beth wyt ti'n awgrymu 'te? Ddylen i ddechrau ymgyrch i gael "Y Gwir Wyddoniadur"?
Rhithffurf defnyddiwr
Pentre Eiddwen
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 12
Ymunwyd: Gwe 11 Ebr 2008 10:13 am
Lleoliad: Ar Fynydd Bach

NôlNesaf

Dychwelyd i Llenyddiaeth

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 9 gwestai

cron