Tudalen 1 o 3

Y Gwyddoniadur Iaith Gymraeg

PostioPostiwyd: Iau 28 Chw 2008 1:20 pm
gan Hazel
Oes unrhywun a brynodd y gwyddoniadur iaith Gymraeg? Os ydy, o dan "Englyn", beth ydy'r engraifft sydd yn cael ei dangos hi? Diolch yn fawr.

Re: Y Gwyddoniadur Iaith Gymraeg

PostioPostiwyd: Iau 06 Maw 2008 2:29 pm
gan Gwen
Yn ôl y Gwyddoniadur:

Mesur mewn barddoniaeth yw englyn. Yng ngramadegau barddol yr Oesoedd Canol enw ar ddosbarth o fesurau ydoedd, gan gynnwys yr englynion hynny ac iddynt dair llinell a geir mewn canu chwedlonol cynnar (gw. Heledd a Llywarch Hen). Erbyn hyn uniaethir y term i bob pwrpas â'r enlyn unodl union a ddaeth i fri yn ystod y 12g. ac sy'n parhau'n hynod o boblogaidd ymysg beirdd Cymru. Mae'r englyn yn cynnwys 30 sillaf (10/6/7/7), ac mae patrwm y ddwy linell olaf yn debyg i'r hyn a geir mewn cwpled o gywydd fel y dengys yr enghraifft a ganlyn:

I beth y rhuthrwn drwy'r byd? - Gwirion yw
Gyrru'n wyllt drwy fywyd;
Daw blino brysio ryw bryd
A daw sefyll disyfyd. (O. M. Lloyd)

Caiff yr englyn ei ddefnyddio naill ai'n unigol, neu fel rhan o gyfres, neu'n gymysg â mesurau eraill oddi mewn i awdl.. O ran ei grynoder fe'i cymharwyd sawl tro â'r haiku Japaneaidd. Fe'i gwelir yn aml ar gerrig beddi, ond caiff ei ddefnyddio hefyd mewn cywair doniol neu ddychanol. T. Arfon Williams (1935-98), un o Dreherbert (y Rhondda) yn wreiddiol, oedd englynwr mwyaf gwefreiddiol y cyfnod diweddar.

Re: Y Gwyddoniadur Iaith Gymraeg

PostioPostiwyd: Iau 06 Maw 2008 2:37 pm
gan Creyr y Nos
A yw awdur pob darn yn y gwyddoniadur yn cael ei nodi? Englyn diddorol i gynnwys fel engrhtaifft, o ystyried cynifer sydd ar gael.

Re: Y Gwyddoniadur Iaith Gymraeg

PostioPostiwyd: Iau 06 Maw 2008 2:51 pm
gan sian
Creyr y Nos a ddywedodd:A yw awdur pob darn yn y gwyddoniadur yn cael ei nodi? Englyn diddorol i gynnwys fel engrhtaifft, o ystyried cynifer sydd ar gael.


Nadi. Ie, te?
Ydi Gwyddoniadur i fod i fynegi barn?
Mae'n eitha posib mai T Arfon Williams "oedd englynwr mwyaf gwefreiddiol y cyfnod diweddar" ond mae'n taro'n od mewn llyfr ffeithiol - yn enwedig gan nad yw'r awdur yn cael ei nodi.

Re: Y Gwyddoniadur Iaith Gymraeg

PostioPostiwyd: Iau 06 Maw 2008 3:06 pm
gan Creyr y Nos
sian a ddywedodd:Mae'n eitha posib mai T Arfon Williams "oedd englynwr mwyaf gwefreiddiol y cyfnod diweddar" ond mae'n taro'n od mewn llyfr ffeithiol - yn enwedig gan nad yw'r awdur yn cael ei nodi.


Ie, diddorol. Hynny yw, dwi'n cytuno gyda be ma fe'n dweud, er gallai fod wedi crybwyll Gerallt ac Alan Llwyd. Os mai T Arfon Williams oedd yr englynwr mwya gwefreiddiol yna pam ddim cynnwys un o'i englynion e?!
Wedi dweud, siwr bo rhywbeth a ellid fod wedi ei gynnwys ymhob darn yn y gwyddoniadur! Byth yn mynd i blesi opawb na!

Re: Y Gwyddoniadur Iaith Gymraeg

PostioPostiwyd: Iau 06 Maw 2008 3:36 pm
gan Hazel
Gwen a ddywedodd:
I beth y rhuthrwn drwy'r byd? - Gwirion yw
Gyrru'n wyllt drwy fywyd;
Daw blino brysio ryw bryd
A daw sefyll disyfyd. (O. M. Lloyd)
quote]


Diolch yn fawr, Gwen. Hefyd, diolch i chi gyd am y drafodaeth ddiddordeb am englynion. Rydw i'n dysgu llawer iawn.

Re: Y Gwyddoniadur Iaith Gymraeg

PostioPostiwyd: Gwe 25 Ebr 2008 12:34 pm
gan Y Duw Lenyddol
Beth yw'r farn gyffredinol ar Y Gwyddoniadur? h.y. y dewis. Oes 'na rai annheilwng wedi eu cynnwys? oes 'na bobl gymwys a hepgorwyd?

Re: Y Gwyddoniadur Iaith Gymraeg

PostioPostiwyd: Gwe 25 Ebr 2008 4:11 pm
gan Dylan
oes sôn eto am ba mor aml fydd diweddariadau o'r Gwyddoniadur yn cael eu cyhoeddi, os o gwbl?

Re: Y Gwyddoniadur Iaith Gymraeg

PostioPostiwyd: Gwe 25 Ebr 2008 5:00 pm
gan Y Duw Lenyddol
Pwynt da Dylan! Dylai cyfrol fel hon fod yn llawer mwy democrataidd. Dylai'r cyhoedd fod yn allweddol yn y dethol yn hytrach na gadael y dewis i driawd hollwybodus siarad ar ein rhan.

Re: Y Gwyddoniadur Iaith Gymraeg

PostioPostiwyd: Sul 27 Ebr 2008 5:20 pm
gan Pentre Eiddwen
Y cwestiwn mawr wrth gwrs yw 'pwy sy'n dethol y detholwyr' ?