Cymedrolwr: Llewelyn Richards
dawncyfarwydd a ddywedodd:Be ydi'r chances byddan nhw'n fodlon gadael i'r erthyglau fod yn sail i'r Wicipedia Cymraeg? Ella bod hynny'n groes i ysbryd Wicipeidio, ond dwi ddim yn gweld y wefan yn llwyddo heb fewnbynnu llwyth o erthyglau fel hyn.
Y Duw Lenyddol a ddywedodd:Pwynt da Dylan! Dylai cyfrol fel hon fod yn llawer mwy democrataidd. Dylai'r cyhoedd fod yn allweddol yn y dethol yn hytrach na gadael y dewis i driawd hollwybodus siarad ar ein rhan.
Darth Sgonsan a ddywedodd:Y Duw Lenyddol a ddywedodd:Pwynt da Dylan! Dylai cyfrol fel hon fod yn llawer mwy democrataidd. Dylai'r cyhoedd fod yn allweddol yn y dethol yn hytrach na gadael y dewis i driawd hollwybodus siarad ar ein rhan.
ti'n gall dwa? os fysa chdi wedi gadael i'r plebs ddewis fysa'r llyfr yn ddim byd ond clychau pidlans fatha gitarydd Motorhead a Thom Jones.
dwi dal ar y bejan gynta, ond nesh i chwerthin wrth ddarllan bod yr A470 yn uno neu'n symbol o'r awydd i uno Cymru - o ni ffili coelio fy llygid - sefnti smacars am beth fel hyn?
ond ers i'r Daily Mail alw'r llyfr yn 'acerbic tome' dwi'n ama ella fod y tynnu coes yn fwriadol
Y Duw Lenyddol a ddywedodd:Ti wedi colli'r plot gwboi! Sut alli di ar y naill law watwar y posibilrwydd o gynnwys "Thom" [sic] Jones yn Y Gwyddoniadur, tra bod y panel WEDI cynnwys Max Boyce, a 'weit for it', Tim Lacrosse Merched Cymru!!!!!!!!!!!!!!! Mae dy ddadl di mor ffarsaidd a'r llyfr ei hun!
Beth yw dy broblem di gyda gwrando ar farn dy gyd-Gymry?
Wyt ti rili mor ddi-asgwrn-cefn a bod yn fodlon gadael i'r "clique" o snobs academig troedig i wneud y dewis drosot ti??????????
Tyfa i fyny!
Darth Sgonsan a ddywedodd:bob un yn arbenigwr yn ei faes...dim ond plentyn fydda'n dadlau o blaid pobol yn fotio ar gynnwys Gwyddoniadur - faint o amser fydda hynny'n gymryd? llawer gwell rhoi'r gwaith i griw clyfar o bobol sydd wedi darllen lot o lyfrau.
Rhys a ddywedodd:Darth Sgonsan a ddywedodd:
Faint gymerodd y Gwyddoniadur i'w gwbwlhau - 9-10 mlynedd? (Nid mod i eisiau i'r peth fod llawn slebs chwaith).
Heb ei ddarllen eto, ond o ddarllen yr adolygiad Times, mae'n edrych fel bod lot o farn/rhagfarn* yn cael ei gynnwys yn yr erthyglau, a'r dewis o beth sy'n cael ei gynnwys
*ond barn/rhagfarn sy'n cael ei rannu gan pawb arall, felly pawb yn hapus
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 10 gwestai