gan Gwen » Iau 06 Maw 2008 1:26 pm
Cymru
Prosser Rhys
Mi glywais awydd gynnau
Am godi cefn o'm gwlad,
Sy'n ofni dwyn ei phynnau
Ac yn difwyno'i stad;
Ysglyfaeth parod twyll fo groch
Sy'n gwario'i da am gibau'r moch.
A ffoi i ynys radlon
Yng ngloywddwr Môr y De,
Lle llithiwyd pob afradlon
Doreth o dan y ne,
Ac uno â'r ddawns mewn celli werdd
A phlwc gitâr yn cynnau cerdd.
Yno, ni cheid cymysgu
Gwerthoedd mewn cyfrwys iaith,
Na'r lludded o ddad-ddysgu
Dros gymhlethdodau'r daith;
Hysteria'r slogan fyddai 'mhell
A'r addo gwych ar ddyddiau gwell.
Ac felly gan anwylo
Y seml dreftadaeth lawn,
Tariwn o gyrraedd dwylo
Busnes a'i sinistr ddawn;
Ac ni phwrcasai un fawrhad
Yr estron drwy sarhau ei wlad.
Ond - glynu'n glòs yw 'nhynged
Wrth Gymru, fel y mae,
A dewis, er ei blynged,
Arddel ei gwarth a'i gwae.
Bydd Cymru byth, waeth beth fo'i rhawd,
Ym mêr fy esgyrn i, a'm cnawd.
A chyda'r cwmni bychan
A'i câr drwy straen a stw^r,
Heb hitio yn nig na dychan
Cnafaidd nac ynfyd w^r,
Galwaf am fynnu o'n cenedl ni
Gymod â'i theg orffennol hi.
Ac os yw'r diwreiddiedig
A'r uchelgeisiol griw
Yn dal mai dirmygedig
Yw ple'r cymrodyr gwiw
Deued a ddêl, rhaid imi mwy
Sefyll neu syrthio gyda hwy.
Dwi'n gwbod na ofynnisd di am ei gweld hi i gyd, ond doedd gen i ddim byd gwell i fod yn neud dros fy awr ginio, yli...
Mwy no thân mewn eithinen.