Dŵds - o ystyried niferoedd a natur unigryw poblogaeth unrhyw wlad Oerllewinol 'ddatblygedig', tydi'r diddordeb neu ddiffyg diddordeb mewn llenyddiaeth yng Nghymru'n ddim gwahanol i unrhyw un o'r gwledydd eraill.
Dwi'n gwbod fod nifer y 'gwobrau' llenyddol yn dibynnu ar swmp y cynnyrch a gynhyrchir yn y wlad, ond dwi'n credu fod digon o gynnyrch o wahanol feysydd yng Nghymru, yn y ddwy iaith, i gynnal mwy nag un 'gwobr' flynyddol (heb gyfri gwobrau meysydd cyfyng yr Eisteddfod).
Be fyddwn i'n licio'i weld, felly, ydi mwy o amrywiaeth o 'wobrau', i adlewyrchu a dathlu'r sefyllfa gynyddol iachus yma. Er engraifft, gwobr am gyfrol o farddoniaeth, llyfr ffeithiol, llyfr plant, nofel a nofel ysgafn/boblogaidd (sgena i ddim cymhelliad personol yn fan hyn, gyda llaw, ond mi alla i ddeud, os oes rhaid bod ar waelod y peil, byddai'n well gan unrhyw awdur fod yng ngwaelod peil perthnasol!).
Gall y gwobrau fod yn rhai cenedlaethol, yn rhai wedi'u noddi gan sefydliadau, cykcgronnau, gweisg, cwmniau preifat, cynghorau, neu'n rhai a gynnigir gan ŵyliau llenyddol, fydd yn wobr fydd yn tyfu gyda'r ŵyl honno, ac yn ennyn bri ohoni'i hun, wrth wneud.
Sy'n dod â fi at bwynt arall, perthnasol - mae angen trefnu gŵyliau llenyddol (dwyieithog fyddai'r mwyaf effeithiol), yn enwedig rhai 'ffrinji' anffurfiol, mwy gwerinol, radical neu heriol eu naws - gyda beirdd, awduron, perfformwyr a dramodwyr, artistiaid a cherddorion/cyfansoddwyr yn mynychu, cyfrannu a chymdeithasu. Gweler
Benwythnos Lacharn - sydd, os liciwch chi, yn gwrthgfyferbynu'n berffaith efo Hay on Wye - am y math o beth dwi'n olygu.
Bydd unrhyw ŵyl o'r fath (ac yn enwedig gwyl ddwyieithog) yn llwyfan, ffenest a ffocws i'n diwylliant llenyddol cynyddol fyrlymus, yn ysbrydoliaeth i awduron newydd a sefydledig, a bydd yn cynyddu'r diddordeb mewn llenyddiaeth, gan chwalu'r waliau 'na sydd ym mhennau'r cyhoedd pan mae'n dod i'w syniad nhw o lenyddiaeth fel rwbath boring, ffurfiol, capelaidd neu swbwrbaidd,
twee (hyfryd o air!).
Byddent yn ddigwyddiadau cyffrous, deinamig, yn gyfle i brofi, arbrofi, i gwrdd ac i drafod, ac i gyfnewid syniadau a gweledigaethau a.y.b. Mae gan bob gwlad ei diwylliant creadigol - rhyw fath o gymuned rhithiol o artistiaid, beirdd a llenorion. Ei chalon greadigol. Ei hysgrifennwyr, ei meddylwyr, ei chydwybod. Ei hannibyniaeth barn. A'r gorau po amlaf y cyfleon i ddod a'r nerth yma at ei gilydd i danio'r dychymyg colectif.