Rhys Llwyd a ddywedodd:Na fuodd na ffys gyda pobl yn slagio ffwrdd Angharad a'i nofel a chyhuddo pobl o'i or-ganol jest oherwydd mae Angharad oedd yr awdur ar y sail ei fod one wedi cyraedd yr ail-ddosbarth, dan enw ffug, yn steddfod.
Do, ar Ionawr 14 dywedodd
Dogfael ar ei flog:
"Mae’n rhaid i’r nofel hon fod y rhestr ar gyfer Llyfr y Flwyddyn eleni; ond yn fwy na hynny dwi’n credu y dylai ennill y wobr. Mae dweud hynny siŵr o fod yn golygu na fydd hi hyd yn oed ar y rhestr hir!" - ac roedd e'n iawn!
Yna, tynnodd Vaughan Hughes sylw yn y Cymro at y ffaith fod tri beirniad Gwobr Daniel Owen wedi'i rhoi yn yr ail ddosbarth a bu trafodaeth ar Raglen Gwilym Owen rhyngddo fe a Kate Crocket oedd wedi adolygu'r nofel ar wefan
Gwales. Mae Dogfael yn gwneud sylw diddorol arall ar ei
flog heddiw - mae'n dweud bod un llyfr "ar y rhestr hir nad oedd hyd yn oed ar y rhestr o lyfrau a oedd yn gymwys ar gyfer y gystadleuaeth yn ôl gwefan Academi, sef Rhoi Cymru’n gyntaf gan Richard Wyn Jones. Cyfrol a oedd yn haeddu ei lle yn bendant ar y rhestr ac mae’n dda ei gweld hi yno, ond sut oedd hi’n bosib iddi gael lle ar y rhestr hir heb fod yn gymwys ar gyfer y gystadleuaeth yn y lle cyntaf!" Od!