Llyfr y Flwyddyn

Y Babell Lên ar lein

Cymedrolwr: Llewelyn Richards

Rheolau’r seiat
Y Babell Lên ar lein. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Llyfr y Flwyddyn

Postiogan Madrwyddygryf » Mer 02 Gor 2008 8:15 pm

A digwydodd gyda Terry Wogan ar gyfer 'Song for Europe' blwyddyn diwethaf yndo ?

Diawch, buasai Tom Bullough wedi gallu cymeryd peth yn well ? Dim angen cael hissy-fit amdano fo. Dim ond RHGT oedd yn rhy chwil i ddarllen y cerdyn yn iawn.

Dywedodd rhwyun ar Guardian "Look on the bright side, Tom. Nobody knew who you were yesterday!".
Clwb Rhedeg Caerdydd. Clwb Rhedeg ar gyfer siaradwyr Cymraeg.
Bob nos Lun 6:00pm tu allan i Athronfa Chwareon, Gerddi Sofia.|
Rhithffurf defnyddiwr
Madrwyddygryf
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2230
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 6:32 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Llyfr y Flwyddyn

Postiogan dawncyfarwydd » Mer 02 Gor 2008 8:55 pm

Be di'r chances bo fi'n cerddad mewn i siop wsos nesa a gweld y Byd?
Rhithffurf defnyddiwr
dawncyfarwydd
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 837
Ymunwyd: Iau 28 Ebr 2005 4:27 pm
Lleoliad: yn dal yma...

Re: Llyfr y Flwyddyn

Postiogan Madrwyddygryf » Iau 03 Gor 2008 3:35 pm

Dwi newydd edrych ar y fideo o RHGT yn datgan yr ennillydd unwaith eto. Wedi sylwi ei fod wedi darllen darn o gerdyn a ddaeth allan o amlen. Nawr, pam buasent nhw dim ond wedi ysgrifennu lawr enw'r enillydd ar y papur na tybed ? Dwi’n gweld mai coc-yp gan yr Academi yn y bôn.

Dwi wedi clywed lot o sylwadau gan nofelwyr a defnyddwyr eu gwasanaeth am anallu'r sefydliad yma. Fe gymerasant nhw deng mlynedd i gynhyrchu'r encyclopedia Cymraeg, fe ddaeth cur ym mhen i Gyngor Celfyddydau Cymru achos fe ddatblygodd mewn i eliffant wen.
Clwb Rhedeg Caerdydd. Clwb Rhedeg ar gyfer siaradwyr Cymraeg.
Bob nos Lun 6:00pm tu allan i Athronfa Chwareon, Gerddi Sofia.|
Rhithffurf defnyddiwr
Madrwyddygryf
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2230
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 6:32 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Llyfr y Flwyddyn

Postiogan Prysor » Iau 03 Gor 2008 3:54 pm

wel, mae'r Academi newydd roi y bai yn gyfangwbwl ar y Gweinidog, ac o ddarllen y datganiad (isod) a ddaeth i fy mlwch ebost hanner awr yn ôl, ni ellir dadlau â hynny. Gormod o win, efallai.

Datganiad Academi a ddywedodd:Yn ngwesty’r Hilton ar nos Fawrth 1 Gorffennaf enillwyd gwobrau Llyfr y Flwyddyn gan Gareth Miles a Dannie Abse. Y rhai a oedd yn gyfartal agos i’r brig oedd Tony Bianchi, Nia Wyn, Ceri Wyn Jones a Tom Bullough. Roedd y rhai a oedd yn bresennol wedi gweld y Gweinidog dros Dreftadaeth Rhodri Glyn Thomas yn camddarllen y garden a rhoddwyd iddo. Datganwyd yn gyntaf mai Tom Bullough oedd yr enillydd yn Saesneg cyn i’r Gweinidog gywiro’i hun a datgan mai Dannie Abse oedd wedi cipio’r wobr. Camgymeriad llwyr oedd hyn, ac fe ymddiheurodd y Gweinidog yn syth.

Mae fformat y garden a ddarllenodd y Gweinidog wedi cael ei ddefnyddio’n llwyddiannus ar saith achlysur blaenorol. Un ohonynt ar gyfer y wobr a enillwyd gan Gareth Miles a gyhoeddwyd yn syth cyn camddarllen enw Tom Bullough. Mae’r cardiau’n enwi’r enillwyr mewn teip mawr amlwg. Islaw, mewn teip llawer llai a rhagflaenir gan y geiriau Y rhai a ddaeth yn agos at y brig (Runners-up yn Saesneg) mae enwau’r ddau a ddaeth yn agos i’r brig. Rhagflaenir enw’r enillydd, mewn print mawr amlwg, gyda’r geiriau Yr Enillydd (The Winner yn Saesneg).

Mae gwobr Llyfr y Flwyddyn yn gynllun a weinyddir gan yr Academi ac a ariennir gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Fe’i cefnogir gan y BBC a Chyngor Llyfrau Cymru. Mae’r wobr yn ychwanegu at lenyddiaeth yng Nghymru, ac yn tynnu sylw at ysgrifennu creadigol o Gymru mewn cyfnod o gynnydd ym myd cyhoeddi llyfrau’n gyffredinol. Mae ennill yn ddigwyddiad o bwys. Mae’r Academi’n eithriadol flin am y gofid a achoswyd i Tom Bullough a’r holl awduron eraill ar y rhestr.


O ran Tom Bullough yn cwyno ar ei flog, wel pwy all weld bai arno? Chwarae teg!
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Re: Llyfr y Flwyddyn

Postiogan Cardi Bach » Iau 03 Gor 2008 5:09 pm

Prysor a ddywedodd:
O ran Tom Bullough yn cwyno ar ei flog, wel pwy all weld bai arno? Chwarae teg!

Bosib wir, ond mae ei adnabyddiaeth, ac o ganlyniad gwerthiant ei lyfr, am gynyddu yn sylweddol oherwydd hyn - mae wedi cael sylw ar flaen y BBC, Guardian ac ymhlith cyfryngau eraill heb-son am y blogosffer - gall hyn fygwth Richard & Judy fel ffordd o 'wneud' awdur! :D
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Re: Llyfr y Flwyddyn

Postiogan Prysor » Iau 03 Gor 2008 5:43 pm

Digon gwir, wrth gwrs, Cardi :D

Ond ymateb - yn gwbwl ddealladwy - i'r profiad emosiynol mae o, i fod yn deg (a mae o'n egluro'n reit groyw sut fath o brofiad oedd hynny).

Digon posib fod ei olwg ehangach o'r mater, yn enwedig wrth sbio'n ôl, yn gweld yr ochr bositif. Ond o ran y profiad ar y pryd, wel, pwy all wadu nad oedd yn reid rolyrcostyr go iawn i'r boi?

Mae pawb yn wahanol. Byddai rhai wedi gweld yr ochr ddigri'n syth, eraill wedi pwdu, a rhai eraill yn cadw'n dawel tra'n corddi ar y tu mewn. Ond dwi ddim yn meddwl y gallwnfod gennym le i feirniadu, nac i fabwysiadu gorolwg sinigadd o rywun, am ymateb mewn unrhyw ddull arbennig.
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Re: Llyfr y Flwyddyn

Postiogan Madrwyddygryf » Llun 07 Gor 2008 1:10 pm

Diawch, be mae’r Academi yn trio gwneud tybed gyda'r datganiad na'? Mae RHGT siwr yn teimlo yn digon embarasd am y camgymeriad fe wnaeth ac nawr mae’r sefydliad yn ymgeisio trio rhwbio ei wyneb mewn i'r peth yn fwy.

Ia, mae hynny yn mynd i helpu eu perthynas gyda’r person sydd yn gyfrifol am eu hariannu nhw. :rolio:
Clwb Rhedeg Caerdydd. Clwb Rhedeg ar gyfer siaradwyr Cymraeg.
Bob nos Lun 6:00pm tu allan i Athronfa Chwareon, Gerddi Sofia.|
Rhithffurf defnyddiwr
Madrwyddygryf
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2230
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 6:32 pm
Lleoliad: Caerdydd

Nôl

Dychwelyd i Llenyddiaeth

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Google [Bot] a 24 gwestai