Y TALWRN - hoff gerddi

Y Babell Lên ar lein

Cymedrolwr: Llewelyn Richards

Rheolau’r seiat
Y Babell Lên ar lein. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Y TALWRN - hoff gerddi

Postiogan Lewis » Llun 19 Mai 2008 10:03 am

gyda llaw, ydy Edgar wedi cyhoeddi cyfrol o'i waith?
Rhithffurf defnyddiwr
Lewis
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 15
Ymunwyd: Maw 05 Chw 2008 1:34 pm

Re: Y TALWRN - hoff gerddi

Postiogan løvgreen » Llun 19 Mai 2008 2:04 pm

Edgar P-W - Brenin y limrigwyr.

Ma honne'n wych. Angen tanlinellu ambell air i ddangos y pwyslais, wedyn ma'n hollol eglur.
Rhithffurf defnyddiwr
løvgreen
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 863
Ymunwyd: Iau 10 Ebr 2003 11:08 pm

Re: Y TALWRN - hoff gerddi

Postiogan Hazel » Llun 19 Mai 2008 2:25 pm

Cytunaf ond, fel gofynodd Lewis, ydy Edgar wedi cyhoeddi cyfrol o'i waith? Mae eisiau arnaf cyfrol o'i waith. :ing:
Hazel

Gwell rhoi na derbyn -- yn enwedig cyngor. (Twain)
Hazel
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 530
Ymunwyd: Iau 12 Hyd 2006 9:27 pm
Lleoliad: Missouri, U.D.A

Re: Y TALWRN - hoff gerddi

Postiogan Lewis » Llun 09 Meh 2008 1:37 pm

Oes gwahaniaeth rhwng cystadleuaeth "y gan" a'r "delyneg" erbyn hyn? sonedau sy'n cael eu cynnig i'r ddwy gystadleuaeth.
Rhithffurf defnyddiwr
Lewis
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 15
Ymunwyd: Maw 05 Chw 2008 1:34 pm

Re: Y TALWRN - hoff gerddi

Postiogan Siontegz » Llun 09 Meh 2008 1:52 pm

Cowboi Morfa Nefyn a ddywedodd:Cyffro
Ar gymer tair afon ar derfyn pnawn,
lle daw'r eogiaid eto ar eu taith,
caf oedi gyda 'ngwydr hanner llawn
a gwylio'r machlud drwy olygon llaith;
wrth i'r cysgodion ledu dros y dre',
ar ambell dŷ, mewn ambell dafarn fud,
mae cyffro hen ddiwylliant gloyw'r lle
yn dal i ddal pelydrau'r haul o hyd:



Dyma Llydaw i mi- y pnawniau cynnes a'r machlud fi nos. Ma'r arsylwad o'r hen dafarndai efo'r arwydd "tabac" na fel eu bod yn fud hefyd yn canu cloch, gan mae'r pentrefi gwledig i gyd yn gwbwl dawel wedi 8 o'r gloch.
Siontegz
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 4
Ymunwyd: Gwe 28 Gor 2006 2:44 pm

Re: Y TALWRN - hoff gerddi

Postiogan Hazel » Llun 09 Meh 2008 2:08 pm

Gallodd I. D. Hooson yn disg disgrifio Natur mor dda. Onid?

Proffwydi

Bu'r coed yn ddistaw drwy y dydd
Yn gwrando lleisiau'r rhai
A fynnai byncio rhwng eu dail
Dan dirion heulwen Mai.

Ond gyda'r hwyr cymylau du
Cerbydau'r ddrycin gref
Â'i thanllyd feirch a ddaeth â'u twrf
Ar hyd palmantau'r nef.

A'r coed â'u gwreiddiau yn y pridd
A'u pennau tua'r nen,
A glywid mewn cynghanedd glir
 lleisiau'r llu uwchben.

Drwy'r nos a'r storm, y rhain o hyd
A godai uchel lef,
Fel hen broffwydi'r dyddiau gynt
Dan anadl gwynt y nef.
---I D Hooson
Hazel

Gwell rhoi na derbyn -- yn enwedig cyngor. (Twain)
Hazel
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 530
Ymunwyd: Iau 12 Hyd 2006 9:27 pm
Lleoliad: Missouri, U.D.A

Nôl

Dychwelyd i Llenyddiaeth

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 13 gwestai

cron