Byddai'n ddifyr gwybod pa gerddi talyrnol yw fferfrynnau Maes-e. Diddorol hefyd gweld a yw marciau'r 'Meuryn' yn adlewyrchu barn y gwrandawyr! Ga' i ddechrau gyda fy hoff gerdd i yn ddiweddar sef telyneg Osian Rhys Jones (tim Talybont), sef "Cwymp" :
Telyneg Cwymp
A wnei di, pan fo'r noson yn glir,
Lygadu'r llwybrau llaethog yn hir?
Ymhell o'r clociau rhythmig undonog
Sy'n cadw'r ddinas mewn cylchoedd anfoddog;
A theimlo bod eiliad cyn bod eiliadau
Fel oesoedd ac oesoedd yn bwrw'i iasau
Dros dy wyneb. Nes teimlo dy fodolaeth,
Mewn anadliad, dros rychwant creadigaeth,
Ac yn cynnau'n dy lygaid rhyw enedigaeth
All eisoes fod yn farw, ond pa wahaniaeth?
Ac wedi'r gwylio, a'r cydnabod,
Paid ag anghofio dy fod di'n gorfod
Cadw dy lygaid, wrth droedio dy lwybyr,
Ar dy gamau bychain, rhy fach i'w mesur;
Neu byddi di'n cwympo mor drwsgwl i'r llawr,
A'r sêr i dy ganlyn, yn y crio mawr.
Osian Rhys Jones
( mae'r diwedd yn ysgytwol ! )