Y TALWRN - hoff gerddi

Y Babell Lên ar lein

Cymedrolwr: Llewelyn Richards

Rheolau’r seiat
Y Babell Lên ar lein. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Y TALWRN - hoff gerddi

Postiogan Jorge Palacios » Iau 15 Mai 2008 8:07 am

O edrych ar dy sylwadau di, Bentre Eiddwen, wyt ti'n rhyw awgrymu y dylen ni ddychwelyd i ryw drefn Ganol Oesol pan oedd yn rhaid bwrw prentisiaeth hir iawn cyn cael y drwydded i brydyddu?
Rhithffurf defnyddiwr
Jorge Palacios
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 15
Ymunwyd: Gwe 25 Ebr 2008 3:35 pm

Re: Y TALWRN - hoff gerddi

Postiogan Pentre Eiddwen » Iau 15 Mai 2008 11:26 am

Os nad ydyn ni yn mynd i warchod safonau llenyddiaeth, byddwn ni'n gorfod diodde' 'perlau' fel hwn:



'Rhen Brown sydd yn cyfri'r diwrnoda'
tra hefyd yn celcio'r miliyna',
ond wrth galciwlêtio
cyn daw adeg fotio,
troi unarddeg yn ddeg yw'r swm fwya'.

Elinor Gwynn
8 Pwynt
Rhithffurf defnyddiwr
Pentre Eiddwen
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 12
Ymunwyd: Gwe 11 Ebr 2008 10:13 am
Lleoliad: Ar Fynydd Bach

Re: Y TALWRN - hoff gerddi

Postiogan Bimbo » Iau 15 Mai 2008 11:31 am

Gadewch inni godi i dir uwch:

TELYNEG: LLAW

Rwyt ti'n torri
fy amser
yn ddarnau,
gwibio drwy
fy nrysau styfnig
i gyffwrdd
y byd.

Cipio dy law
o'm gafael
a chwarae mig
tu ôl i fysedd lliwgar.

Dianc rhag clwtyn fy niffyg amynedd,
taenu
niwl dy ddryswch,
dros ffenestri,
ac ôl direidi
ar fwlyn drws...

Ond yn ochenaid dy amser gwely
caf gip sydyn
ar y dydd
y bydd tawelwch
yn syllu arna i trwy wydr glân,
straeon
wedi'u sgwrio
o'r cledrau
ac atgofion
yn ceisio
chwarae mig.

Mari George
Aberhafren.
Rhithffurf defnyddiwr
Bimbo
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 16
Ymunwyd: Iau 10 Ebr 2008 10:14 am

Re: Y TALWRN - hoff gerddi

Postiogan sian » Iau 15 Mai 2008 11:42 am

Bimbo a ddywedodd:Gadewch inni godi i dir uwch:

TELYNEG: LLAW

Rwyt ti'n torri
fy amser
yn ddarnau,
gwibio drwy
fy nrysau styfnig
i gyffwrdd
y byd.

Cipio dy law
o'm gafael
a chwarae mig
tu ôl i fysedd lliwgar.

Dianc rhag clwtyn fy niffyg amynedd,
taenu
niwl dy ddryswch,
dros ffenestri,
ac ôl direidi
ar fwlyn drws...

Ond yn ochenaid dy amser gwely
caf gip sydyn
ar y dydd
y bydd tawelwch
yn syllu arna i trwy wydr glân,
straeon
wedi'u sgwrio
o'r cledrau
ac atgofion
yn ceisio
chwarae mig.

Mari George
Aberhafren.


Swnio'n dda ond dw i ddim yn ei ddeall e. Ydi e'n sôn am blentyn bach yn chwarae â paint? Lle mae Llaw yn dod iddi? Paint ar ei ddwylo?
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Y TALWRN - hoff gerddi

Postiogan Gwen » Iau 15 Mai 2008 11:43 am

sian a ddywedodd:Swnio'n dda ond dw i ddim yn ei ddeall e. Ydi e'n sôn am blentyn bach yn chwarae â paint? Lle mae Llaw yn dod iddi? Paint ar ei ddwylo?


Dyna 'ddylish i beth bynnag.
Mwy no thân mewn eithinen.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1825
Ymunwyd: Llun 14 Ebr 2003 2:40 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Y TALWRN - hoff gerddi

Postiogan sian » Iau 15 Mai 2008 11:57 am

Reit - erbyn hyn yr unig ddarnau nad ydw i'n ddeall yw:

Rwyt ti'n torri
fy amser
yn ddarnau,
gwibio drwy
fy nrysau styfnig
i gyffwrdd
y byd.


a

ac atgofion
yn ceisio
chwarae mig.


Ydi "Rwyt ti'n torri
fy amser
yn ddarnau," yn golygu bod ei bywyd hi'n troi rownd y plentyn - pryd mae e ar ddihun/cysgu ac nad yw'n cael munud iddi hi ei hunan?

Ydi, "gwibio drwy
fy nrysau styfnig
i gyffwrdd
y byd" yn golygu bod hi'n ceisio'i gadw fe (neu hi) yn ddiogel ond bod e eisiau ffeindio pethe mas drosto'i hunan?

Pam mai "ceisio" chware mig mae'r atgofion?

Mae hyn yn sbort!

Gwaith!
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Y TALWRN - hoff gerddi

Postiogan Gwen » Iau 15 Mai 2008 12:05 pm

sian a ddywedodd:Gwaith!


O-oo! Mai'n amsar cinio siwr iawn!

sian a ddywedodd:Reit - erbyn hyn yr unig ddarnau nad ydw i'n ddeall yw:

Rwyt ti'n torri
fy amser
yn ddarnau,
gwibio drwy
fy nrysau styfnig
i gyffwrdd
y byd.


a

ac atgofion
yn ceisio
chwarae mig.


Ydi "Rwyt ti'n torri
fy amser
yn ddarnau," yn golygu bod ei bywyd hi'n troi rownd y plentyn - pryd mae e ar ddihun/cysgu ac nad yw'n cael munud iddi hi ei hunan?

Ydi, "gwibio drwy
fy nrysau styfnig
i gyffwrdd
y byd" yn golygu bod hi'n ceisio'i gadw fe (neu hi) yn ddiogel ond bod e eisiau ffeindio pethe mas drosto'i hunan?

Pam mai "ceisio" chware mig mae'r atgofion?

Mae hyn yn sbort!


Cytuno efo'r dadansoddiad, ac y bysa'r diwadd yn well o hepgor y "ceisio". Ond be wn i? Tydw i'm na bardd na beiriniad. Mae'r cerddi dwi'n eu licio ar y talwrn fel arfar yn cal wyth!
Mwy no thân mewn eithinen.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1825
Ymunwyd: Llun 14 Ebr 2003 2:40 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Y TALWRN - hoff gerddi

Postiogan Capten Y Titanic » Iau 15 Mai 2008 5:55 pm

Gallwn ni hollti blew ynglyn ag ambell air fan hyn a fan 'co - ond y peth sy'n bwysig yw'r NAWS mae'r delyneg yma yn creu. Dyw hi ddim fel hafaliad fathemategol yn arwain i ryw ddiweddglo rhesymegol sy'n datrys y 'broblem' - nid dyna yw bwriad telyneg - yn hytrach mae'n consurio teimlad ac elfen o ddirgelwch (yn y cyswllt yma mae hynny'n ddealladwy oherwydd mai mam a'i baban sydd yno, dydyn ni ddim yn rhan o'r berthynas). Bu hi'n anlwcus i beidio cael 10.
Rhithffurf defnyddiwr
Capten Y Titanic
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 17
Ymunwyd: Iau 01 Mai 2008 3:43 pm

Re: Y TALWRN - hoff gerddi

Postiogan dawncyfarwydd » Iau 15 Mai 2008 10:17 pm

Hon gan Edgar Parry Williams yn ffresh o dalwrn Gŵyl Fai Dyffryn Nantlle:

Mae Nain wedi dallt ers blynyddoedd
nad yw Taid wedi dallt ers blynyddoedd.
Ond mae Taid wedi dallt
nad yw Nain wedi dallt
fod Taid wedi dallt ers blynyddoedd.


10.5
Rhithffurf defnyddiwr
dawncyfarwydd
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 837
Ymunwyd: Iau 28 Ebr 2005 4:27 pm
Lleoliad: yn dal yma...

Re: Y TALWRN - hoff gerddi

Postiogan sian » Iau 15 Mai 2008 10:34 pm

dawncyfarwydd a ddywedodd:Hon gan Edgar Parry Williams yn ffresh o dalwrn Gŵyl Fai Dyffryn Nantlle:

Mae Nain wedi dallt ers blynyddoedd
nad yw Taid wedi dallt ers blynyddoedd.
Ond mae Taid wedi dallt
nad yw Nain wedi dallt
fod Taid wedi dallt ers blynyddoedd.


10.5


Da! Siŵr bod 'na lot o grafu pen tybed oedd e'n gwneud synnwyr ond mae e - dydi?
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

NôlNesaf

Dychwelyd i Llenyddiaeth

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 11 gwestai