Cymedrolwr: Llewelyn Richards
Bimbo a ddywedodd:Gadewch inni godi i dir uwch:
TELYNEG: LLAW
Rwyt ti'n torri
fy amser
yn ddarnau,
gwibio drwy
fy nrysau styfnig
i gyffwrdd
y byd.
Cipio dy law
o'm gafael
a chwarae mig
tu ôl i fysedd lliwgar.
Dianc rhag clwtyn fy niffyg amynedd,
taenu
niwl dy ddryswch,
dros ffenestri,
ac ôl direidi
ar fwlyn drws...
Ond yn ochenaid dy amser gwely
caf gip sydyn
ar y dydd
y bydd tawelwch
yn syllu arna i trwy wydr glân,
straeon
wedi'u sgwrio
o'r cledrau
ac atgofion
yn ceisio
chwarae mig.
Mari George
Aberhafren.
sian a ddywedodd:Swnio'n dda ond dw i ddim yn ei ddeall e. Ydi e'n sôn am blentyn bach yn chwarae â paint? Lle mae Llaw yn dod iddi? Paint ar ei ddwylo?
Rwyt ti'n torri
fy amser
yn ddarnau,
gwibio drwy
fy nrysau styfnig
i gyffwrdd
y byd.
ac atgofion
yn ceisio
chwarae mig.
sian a ddywedodd:Gwaith!
sian a ddywedodd:Reit - erbyn hyn yr unig ddarnau nad ydw i'n ddeall yw:Rwyt ti'n torri
fy amser
yn ddarnau,
gwibio drwy
fy nrysau styfnig
i gyffwrdd
y byd.
aac atgofion
yn ceisio
chwarae mig.
Ydi "Rwyt ti'n torri
fy amser
yn ddarnau," yn golygu bod ei bywyd hi'n troi rownd y plentyn - pryd mae e ar ddihun/cysgu ac nad yw'n cael munud iddi hi ei hunan?
Ydi, "gwibio drwy
fy nrysau styfnig
i gyffwrdd
y byd" yn golygu bod hi'n ceisio'i gadw fe (neu hi) yn ddiogel ond bod e eisiau ffeindio pethe mas drosto'i hunan?
Pam mai "ceisio" chware mig mae'r atgofion?
Mae hyn yn sbort!
dawncyfarwydd a ddywedodd:Hon gan Edgar Parry Williams yn ffresh o dalwrn Gŵyl Fai Dyffryn Nantlle:
Mae Nain wedi dallt ers blynyddoedd
nad yw Taid wedi dallt ers blynyddoedd.
Ond mae Taid wedi dallt
nad yw Nain wedi dallt
fod Taid wedi dallt ers blynyddoedd.
10.5
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 18 gwestai