Y TALWRN - hoff gerddi

Y Babell Lên ar lein

Cymedrolwr: Llewelyn Richards

Rheolau’r seiat
Y Babell Lên ar lein. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Y TALWRN - hoff gerddi

Postiogan Capten Y Titanic » Mer 07 Mai 2008 4:06 pm

Shwt ma' hwn yn swno?

Beth bynnag 'di lliw y wiwer - ai coch
Lliw cors neu liw'r aber.............
Rhithffurf defnyddiwr
Capten Y Titanic
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 17
Ymunwyd: Iau 01 Mai 2008 3:43 pm

Re: Y TALWRN - hoff gerddi

Postiogan Tegwared ap Seion » Iau 08 Mai 2008 6:34 am

sian a ddywedodd:Nage, y wiwer - "w" gytsain yw hi fel yn "y wawr", "y wraig", "y weledigaeth"

ond "yr wy", "yr wythnos", "yr w^yn" - gan mai llafariad yw'r "w" yma.



:) diolch
Aelwyd yr Ynys
Clera - Cymdeithas Offerynnau Traddodiadol Cymru

Sdwff ni a dim rhyw sothach ail-law Seisnig
Rhithffurf defnyddiwr
Tegwared ap Seion
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3443
Ymunwyd: Maw 22 Chw 2005 5:26 pm
Lleoliad: Môn

Re: Y TALWRN - hoff gerddi

Postiogan Y Duw Lenyddol » Iau 08 Mai 2008 9:36 am

Capten Y Titanic a ddywedodd:Shwt ma' hwn yn swno?

Beth bynnag 'di lliw y wiwer - ai coch
Lliw cors neu liw'r aber.............


Diolch am hynna Capten.

Dw i'n credu fod llinell 3 gyda fi:

Beth bynnag 'di lliw y wiwer, - ai coch,
Lliw cors, neu liw'r aber,
Neu 'fallai mai lliw fy mer.............
Rhithffurf defnyddiwr
Y Duw Lenyddol
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 24
Ymunwyd: Mer 23 Ebr 2008 4:52 pm

Re: Y TALWRN - hoff gerddi

Postiogan Capten Y Titanic » Iau 08 Mai 2008 12:35 pm

Reit, ma' angen llinell i orffen - saith sillaf, yn gorffen gyda gair diacen yn odli a "er" Gyda llaw, faint o amser sydd gyda ti cyn y talwrn?
Rhithffurf defnyddiwr
Capten Y Titanic
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 17
Ymunwyd: Iau 01 Mai 2008 3:43 pm

Re: Y TALWRN - hoff gerddi

Postiogan Y Duw Lenyddol » Gwe 09 Mai 2008 10:00 am

diawl! dyw'r llinell ola' 'ma jyst ddim yn dod.
Rhithffurf defnyddiwr
Y Duw Lenyddol
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 24
Ymunwyd: Mer 23 Ebr 2008 4:52 pm

Re: Y TALWRN - hoff gerddi

Postiogan Capten Y Titanic » Maw 13 Mai 2008 8:38 am

Y Duw Lenyddol a ddywedodd:
Capten Y Titanic a ddywedodd:Shwt ma' hwn yn swno?

Beth bynnag 'di lliw y wiwer - ai coch
Lliw cors neu liw'r aber.............


Diolch am hynna Capten.

Dw i'n credu fod llinell 3 gyda fi:

Beth bynnag 'di lliw y wiwer, - ai coch,
Lliw cors, neu liw'r aber,
Neu 'fallai mai lliw fy mer.............


rhywbeth fel hyn?

Beth bynnag 'di lliw y wiwer - ai coch,
Lliw cors, neu liw'r aber,
Neu 'fallai mai lliw fy mer?
A'r einioes ar ei hanner.
Rhithffurf defnyddiwr
Capten Y Titanic
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 17
Ymunwyd: Iau 01 Mai 2008 3:43 pm

Re: Y TALWRN - hoff gerddi

Postiogan Bimbo » Maw 13 Mai 2008 8:39 am

Dw i'n siwr 'mod i wedi clywed y llinell olaf 'na o'r blaen. 'Dyw hi ddim yn deitl un o lyfrau Alan Llwyd?
Rhithffurf defnyddiwr
Bimbo
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 16
Ymunwyd: Iau 10 Ebr 2008 10:14 am

Re: Y TALWRN - hoff gerddi

Postiogan Mr Gasyth » Maw 13 Mai 2008 9:12 am

Beth bynnag 'di lliw y wiwer - ai coch,
Lliw cors, neu liw'r aber,
Neu 'fallai mai lliw fy mer?
A'r einioes ar ei hanner.


a phob parch i'r amryw awduron, mae'r englyn yma yn nodweddiadol i mi o be sy'n bod ar gynganeddu. ok, ma hi'n gywir ond mae hynny ar draul unrhyw ystyr. rhownch i mi rigwm ystyrlon unrhyw ddydd!
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Re: Y TALWRN - hoff gerddi

Postiogan Jorge Palacios » Maw 13 Mai 2008 9:39 am

Mr Gasyth a ddywedodd:
Beth bynnag 'di lliw y wiwer - ai coch,
Lliw cors, neu liw'r aber,
Neu 'fallai mai lliw fy mer?
A'r einioes ar ei hanner.


ok, ma hi'n gywir


cofier mai gwrywaidd yw englyn.
Rhithffurf defnyddiwr
Jorge Palacios
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 15
Ymunwyd: Gwe 25 Ebr 2008 3:35 pm

Re: Y TALWRN - hoff gerddi

Postiogan Pentre Eiddwen » Maw 13 Mai 2008 9:48 am

Cowboi Morfa Nefyn a ddywedodd:
Pentre Eiddwen a ddywedodd:Ie wir, dim ond UN Gareth Jones!
Hon oedd ei ymgais e yn erbyn yr Howgets ar y talwrn.
Dim ond 8 a hanner gafodd G.J. !!!!!!!! Roedd o leiaf ddau farc rhyngddo fe a'r limrig arall. Barnwch drosoch eich hun:

Limrig yn ymwneud â chyfrif

'Rhen Brown sydd yn cyfri'r diwrnoda'
tra hefyd yn celcio'r miliyna',
ond wrth galciwlêtio
cyn daw adeg fotio,
troi unarddeg yn ddeg yw'r swm fwya'.

Elinor Gwynn
8 Pwynt


Nid y geiriau Saesneg oedd y maen tramgwydd i mi - gallaf feddwl a ddigon o enghreifftiau lle mae ychwanegiad o ambell air o'r iaith fain yn ddoniol iawn. Diffyg awen, a diffyg clyfrwch yw'r beiau fan hyn.


Clywch clywch! Mae hon yn enghraifft glasurol o rywun yn treio bod yn fardd, ond heb feddu ar y ddawn angenrheidiol. 'Dyw'r geiriau Saesneg ddim yn poeni dim arna' i, nid dyna'r gwendid gyda'r prydydd yma. Ys dywedir yn yr iaith fain: 'ni fedrir gwneud pwrs sidan allan o glust hwch'! h.y. os nad ydy'r gallu llenyddol yno, waeth iti heb a thrafferthu.
Rhithffurf defnyddiwr
Pentre Eiddwen
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 12
Ymunwyd: Gwe 11 Ebr 2008 10:13 am
Lleoliad: Ar Fynydd Bach

NôlNesaf

Dychwelyd i Llenyddiaeth

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai

cron