Y TALWRN - hoff gerddi

Y Babell Lên ar lein

Cymedrolwr: Llewelyn Richards

Rheolau’r seiat
Y Babell Lên ar lein. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Y TALWRN - hoff gerddi

Postiogan Bimbo » Iau 10 Ebr 2008 10:21 am

Byddai'n ddifyr gwybod pa gerddi talyrnol yw fferfrynnau Maes-e. Diddorol hefyd gweld a yw marciau'r 'Meuryn' yn adlewyrchu barn y gwrandawyr! Ga' i ddechrau gyda fy hoff gerdd i yn ddiweddar sef telyneg Osian Rhys Jones (tim Talybont), sef "Cwymp" :

Telyneg Cwymp

A wnei di, pan fo'r noson yn glir,
Lygadu'r llwybrau llaethog yn hir?

Ymhell o'r clociau rhythmig undonog
Sy'n cadw'r ddinas mewn cylchoedd anfoddog;

A theimlo bod eiliad cyn bod eiliadau
Fel oesoedd ac oesoedd yn bwrw'i iasau

Dros dy wyneb. Nes teimlo dy fodolaeth,
Mewn anadliad, dros rychwant creadigaeth,

Ac yn cynnau'n dy lygaid rhyw enedigaeth
All eisoes fod yn farw, ond pa wahaniaeth?

Ac wedi'r gwylio, a'r cydnabod,
Paid ag anghofio dy fod di'n gorfod

Cadw dy lygaid, wrth droedio dy lwybyr,
Ar dy gamau bychain, rhy fach i'w mesur;

Neu byddi di'n cwympo mor drwsgwl i'r llawr,
A'r sêr i dy ganlyn, yn y crio mawr.

Osian Rhys Jones


( mae'r diwedd yn ysgytwol ! )
Rhithffurf defnyddiwr
Bimbo
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 16
Ymunwyd: Iau 10 Ebr 2008 10:14 am

Re: Y TALWRN - hoff gerddi

Postiogan Muralitharan » Iau 10 Ebr 2008 11:08 am

Dim ond i nodi mai aelod i Dim y Gler ydi Osian Rhys Jones. Ond mae hi'n gerdd hyfryd!
Muralitharan
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 174
Ymunwyd: Gwe 21 Rhag 2007 1:55 pm

Re: Y TALWRN - hoff gerddi

Postiogan Cowboi Morfa Nefyn » Iau 10 Ebr 2008 11:22 am

Y gerdd sydd wedi fy swyno i dros yr wythnosau diwethaf yw un Iwan Llwyd. Mae'r darlun hiraethus wedi fy hudo'n llwyr:

Cyffro
Ar gymer tair afon ar derfyn pnawn,
lle daw'r eogiaid eto ar eu taith,
caf oedi gyda 'ngwydr hanner llawn
a gwylio'r machlud drwy olygon llaith;
wrth i'r cysgodion ledu dros y dre',
ar ambell dŷ, mewn ambell dafarn fud,
mae cyffro hen ddiwylliant gloyw'r lle
yn dal i ddal pelydrau'r haul o hyd:
â'r nos yn cau, gan daenu'i hamdo hi,
fe welais fflach dan wyneb llwyd y dŵr
a lliw fel blodau'r gwanwyn yn y lli,
pererin o'r Iwerydd pell, dwi'n siŵr,
yn dal i gredu rhywsut, â phob llam,
bod fory rhwng Sant Croix a Notre Dame*

* Dwy eglwys hynafol Kemperlé yn Llydaw, un bob ochr i'r afon.
Iwan Llwyd
Rhithffurf defnyddiwr
Cowboi Morfa Nefyn
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 8
Ymunwyd: Mer 09 Ebr 2008 11:33 am

Re: Y TALWRN - hoff gerddi

Postiogan Lewis » Iau 10 Ebr 2008 12:04 pm

Faint sy'n cofio cwpled syfrdanol Ken Griffiths (Tan-Y-Groes)? :

Dim ond un all estyn llaw
A hoelion trwy ei ddwylaw.

yn syml: perffeithrwydd!
Rhithffurf defnyddiwr
Lewis
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 15
Ymunwyd: Maw 05 Chw 2008 1:34 pm

Re: Y TALWRN - hoff gerddi

Postiogan Bimbo » Iau 10 Ebr 2008 12:09 pm

os dw i'n cofio'n iawn dyna'r cwpled gafodd ddeg marc a hanner. Ydy, mae'n hollol wych!
Rhithffurf defnyddiwr
Bimbo
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 16
Ymunwyd: Iau 10 Ebr 2008 10:14 am

Re: Y TALWRN - hoff gerddi

Postiogan Hazel » Iau 10 Ebr 2008 7:55 pm

Fy hoff cerdd:

Aberdaron


Aberdaron

Pan fwyf yn hen a pharchus,
Ag arian yn fy nghod,
A phob beirniadaeth drosodd
A phawb yn canu 'nghlod
Mi brynaf fwthyn unig
Heb ddim o flaen ei ddôr
Ond creigiau Aberdaron
A thonnau gwyllt y môr.

Pan fwyf yn hen a pharchus,
A'm gwaed yn llifo'n oer.
A'm calon heb gyflymu
Wrth wylied codi'r lloer;
Bydd gobaith im bryd hynny
Mewn bwthyn sydd â'i ddôr
At greigiau Aberdaron.
A thonnau gwyllt y môr.

Pan fwyf yn hen a pharchus
Tu hwnt i fawl a sen,
A'm cân yn ôl y patrwm
A'i hangerdd oll ar ben;
Bydd gobaith im bryd hynny
Mewn bwthyn sydd â'i ddôr
Ar greigiau Aberdaron.
A thonnau gwyllt y môr.

Oblegid mi gaf yno
Yng nghri'r ystormus wynt
Adlais o'r hen wrthryfel
A wybu f'enaid gynt.
A chanaf ô'r hen angerdd
Wrth syllu tua'r ddôr
Ar greigiau Aberdaron
A thonnau gwyllt y môr.

---Albert Evans Jones (Cynan)
Hazel

Gwell rhoi na derbyn -- yn enwedig cyngor. (Twain)
Hazel
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 530
Ymunwyd: Iau 12 Hyd 2006 9:27 pm
Lleoliad: Missouri, U.D.A

Re: Y TALWRN - hoff gerddi

Postiogan Lewis » Gwe 11 Ebr 2008 3:31 pm

Am ryw reswm mae'r delyneg fach hon o eiddo Dai Jones (Crannog) wedi cydio ynof fi:

Yng nghanol y prysurdeb
A'r adeiladau lu,
A lliwiau y Gorllewin
Yn cuddio'r hyn a fu,
Does fawr o neb yn sôn am ing
A fu un waith ar sgwar Beijing.
Rhithffurf defnyddiwr
Lewis
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 15
Ymunwyd: Maw 05 Chw 2008 1:34 pm

Re: Y TALWRN - hoff gerddi

Postiogan Pentre Eiddwen » Gwe 11 Ebr 2008 4:35 pm

Rwy'n cofio clywed yffach o gwpled da unwaith ar ryw dalwrn, ond dim clem pwy yw'r bardd:

Gall llong a gyll ei hangor
Roi min ar grafangau'r mor.

Gymaint o wirionedd mewn dwy linell fer. :syniad:
Rhithffurf defnyddiwr
Pentre Eiddwen
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 12
Ymunwyd: Gwe 11 Ebr 2008 10:13 am
Lleoliad: Ar Fynydd Bach

Re: Y TALWRN - hoff gerddi

Postiogan Bimbo » Gwe 11 Ebr 2008 4:38 pm

M ap D = bardd gorau gogledd Cymru! :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Bimbo
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 16
Ymunwyd: Iau 10 Ebr 2008 10:14 am

Re: Y TALWRN - hoff gerddi

Postiogan krustysnaks » Gwe 11 Ebr 2008 4:47 pm

Lewis a ddywedodd:Am ryw reswm mae'r delyneg fach hon o eiddo Dai Jones (Crannog) wedi cydio ynof fi:

Yng nghanol y prysurdeb
A'r adeiladau lu,
A lliwiau y Gorllewin
Yn cuddio'r hyn a fu,
Does fawr o neb yn sôn am ing
A fu un waith ar sgwar Beijing.

Dwi ddim yn meddwl bod hwn yn dda iawn. "Yng nghanol y prysurdeb" - daeth y llinell yma o'i delyneg ddiwethaf am y Nadolig? Efallai mai "yng nghanol y tinsel a'r siopa" oedd yr ail linell...

Mae pobl yn sôn drwy'r amser am beth ddigwyddodd yn 1989 yng nghyd-destun y Gemau Olympaidd. Nid 'sgwar Beijing' mohono chwaith - Sgwâr Tiananmen.
Rhithffurf defnyddiwr
krustysnaks
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2967
Ymunwyd: Mer 14 Ebr 2004 8:05 pm
Lleoliad: yng nghôl J M Keynes

Nesaf

Dychwelyd i Llenyddiaeth

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai

cron