Garreg Lwyd a ddywedodd:Mae wastad mwy nag un ochr i bob dadl.
Wrth gwrs fod na, ac rydw i'n ddiolchgar iawn am dy gyfraniad. Rydw i'n sylweddoli nad ydy teimlad fy ngherdd yn deimlad pawb yn Lewis o ffordd hir. Hefyd, mae cynlluniau eraill ar y ffordd - yn cynnwys ynni tonnau - yn Ynysoedd Heledd. Ond bydd pob un yn cael ei wrthwynebu gan rai.
Be maen nhw'n cynhyrchu bellach? Tipyn o'r "clò mòr" (tweed), dim lot o bysgod y dyddiau 'ma, efallai rhyw fath o chwisgi sy'n ceisio cystadlu efo phethau fel y Famous Grouse, Glenmorangie, beth bynnag. Mae'r sefyllfa'n o wan ac mae eisiau allforio rhywbeth er mwyn bodoli. A dyma ni - trydan.
Y peth mod i'n ofni ydy fod pob cynllun am greu trydan - o'r gwynt, o'r tonnau, beth bynnag - yn cael ei wrthwynebu gan ddigonedd o "nimbys" i beri methiant, felly ni ddaw dim byd i'r ynysoedd i roi tipyn o asgwrn cefn i'w heconomi. Efallai nad oedd y cynllun sy wedi cael ei wrthod yn un hynod o dda, ond pa mor hir cyn i rywbeth ddod i hybu'r economi yno? Rydw i'n credu fod Comhairle nan Eilean Siar yn up against it yn nhermau cyllid eisoes - cofiaf i'r bwrdd iechyd lleol gael ei ariannu o bell mewn rhyw crisis diweddar.
Be sy'n eu hymaros rwan? Gwrthod cynllun ffatri gwynt, gwrthod cynllun gwynt arall, gwrthod cynllun tonnau...gobeithio na, ond dydy pethau ddim yn edrych yn dda ar hyn o bryd.