Geiriadur y llenyddiaethau Celtaidd

Y Babell Lên ar lein

Cymedrolwr: Llewelyn Richards

Rheolau’r seiat
Y Babell Lên ar lein. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Geiriadur y llenyddiaethau Celtaidd

Postiogan Hynek » Llun 28 Ebr 2008 1:46 pm

Dw i'n aelod staff Geiradur y Llenyddiaethau Celtaidd, prosiect ysgolheigion Tsiecig sy'n anelu at gyflwyno ein cyhoedd i gyfoeth llên Cymru, Cernyw, Llydaw, Iwerddon ac yr Alban. Wrth i mi weithio ar y prosiect, darganfûm na alla i ddod o hyd i ddyddiadau geni neu farwolaeth yr awduron Cymraeg modern canlynol:

Rowlands, John (*1938)
Thomas, Gwyn (*1936)
Llywelyn-Williams, Alun (1913-1988)
Jones, John Gwilym (1904-1988)
Peate, Iorwerth Cyfeiliog (1901-1982)

Oes yna unrhywun sy'n gwybod ble gallwn i ddod o hyd i'r data yna, neu unrhywun y mae ganddo fe ffynhonnell ddibynadwy sy'n rhoi'r wybodaeth yna. Byddai'n dda iawn i'r ffynhonell roi'r mannau geni a marwolaeth hefyd.
Hynek
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 7
Ymunwyd: Gwe 28 Maw 2008 7:06 pm
Lleoliad: Gweriniaeth y Tsieciaid

Re: Geiriadur y llenyddiaethau Celtaidd

Postiogan Seonaidh/Sioni » Llun 28 Ebr 2008 7:14 pm

Hynod o dda fod hyn yn digwydd. Dydw i ddim yn gwybod am yr awduron, gwaetha'r modd.

Soniaist ti ddim am lenyddiaeth Ynys Manaw: ma tipyn o lenyddiaeth Geltaidd (yn y Fanaweg) yn cael ei chynhyrchu yno y dyddiau yma, rydw i'n credu. I ddechrau, beth am ymweld ag http://www.gov.iom?

Gwn hefyd i fynaich o Iwerddon ysgrifennu darnau Gwyddeleg yn yr Almaen ryw fil o flynyddoedd yn ol ac maen debyg i rai ohonynt fod yn dy ardal di. Ac, wrth gwrs, mae nifer o enghreifftiau o gerfio i'w gael sy'n cynnwys ieithoedd Celtaidd y Cyfandir (Celt-iberieg, Galeg ayb) ond efallai nas ystyri di fel "llenyddiaeth".
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha

Re: Geiriadur y llenyddiaethau Celtaidd

Postiogan obi wan » Llun 28 Ebr 2008 9:49 pm

John Rowlands a Gwyn Thomas yn dal efo ni.
obi wan
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 61
Ymunwyd: Sad 17 Ebr 2004 3:44 pm

Re: Geiriadur y llenyddiaethau Celtaidd

Postiogan 7ennyn » Llun 28 Ebr 2008 10:15 pm

Ella bysa Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig o ddefnydd i ti. Mae yna lot o fywgraffiadau ynddo fo. Does gen i ddim copi yn anffodus, ond ella bod gan rhywyn arall ar y Maes 'ma un, ac y bysan nhw'n gallu cael cip bach ynddo fo ar dy ran?
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
7ennyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 869
Ymunwyd: Gwe 01 Gor 2005 8:35 pm
Lleoliad: Maes Gwyddno


Dychwelyd i Llenyddiaeth

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 17 gwestai

cron