Prysor a ddywedodd:Stiniog ydi'r ardal i gyd.
Blaenau ydi'r dref.
Ffestiniog ydi enw gwreiddiol pentref Llan Ffestiniog (mae'n dal i gael ei ddefnyddio'n swyddogol, blaw fod y cyngor sir yn mynnu rhoi'r 'Llan' ar yr arwyddion). Ychwanegwyd y 'Llan' ar lafar ers dyfodiad Blaenau - sef y dref a dyfodd efo twf y chwareli, allan o bentrefi Rhiwbryfdir a Tanygrisiau, ac ardaloedd Glanypwll a Congl y Wal - er mwyn gwahaniaethu rhwng y pentref a'r dref newydd. Mae Ffestiniog (Llan) yn hen hen bentref pwysig.
Cyngor Tref Ffestiniog ydi enw'r cyngor sy'n cynnwys Blaenau, Llan, Tanygrisiau, Manod a'r rhannau eraill o'r ardal.
O ran Gwyn Thomas, mae ei waith yn challenging weithia - yn enwedig i'r cul o feddwl (fel r w jones/Wylit) - ond mae o'n athrylithgar ("breichled o dref ar asgwrn o graig..."). Gwerinwr yw Gwyn Thomas, o deulu chwarel, bardd a darlithydd disglair sydd wedi cyfrannu at hanes a llenyddiaeth ei fro a'i wlad. Dyn sydd â'i draed yn gadarn ar y ddaear. Tydi geiriau r w jones uchod ond yn dangos faint o grancyn bach anwybodus a gwenwynig ydi fo ei hun. Gwarthus.
Culni a thrahausdra o'r radd flaenaf, hefyd, yw dweud nad yw'n fardd am beidio cofleidio'r gynghanedd. Mae'r mesurau rhyddion yn fesurau yr un mor bwysig a hygyrch yn y Gymraeg ers yr un adeg (os nad cynt) ag y dechreuodd y gynghanedd. Does dim dwywaith mai'r mesurau rhyddion ddaeth gyntaf, yna'r gynghanedd, a'i rôl ysbrydol gwreiddiol.
Mae peth o'r barddoniaeth cryfaf a gorau erioed wedi ei sgwennu yn y mesurau rhyddion. Waldo, T.H., R Williams, RS Thomas.........
Diolch am y wybodaeth Prysor, a diolch am waith a chyfraniad Gwyn Thomas, y gwr bonheddig o Flaenau Ffestiniog .