Gwyn Stiniog

Y Babell Lên ar lein

Cymedrolwr: Llewelyn Richards

Rheolau’r seiat
Y Babell Lên ar lein. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Gwyn Stiniog

Postiogan Hazel » Sul 18 Mai 2008 2:48 pm

Mae gen i gwestiwn, ogwydd. Ydy "Gwyn Stiniog" yr un dyn â "Gwyn Thomas"? O ble deith yr enw "Stiniog"? Diolch.
Hazel

Gwell rhoi na derbyn -- yn enwedig cyngor. (Twain)
Hazel
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 530
Ymunwyd: Iau 12 Hyd 2006 9:27 pm
Lleoliad: Missouri, U.D.A

Re: Gwyn Stiniog

Postiogan sian » Sul 18 Mai 2008 3:27 pm

Un o Stiniog yw Gwyn Thomas. Dw i ddim yn gwbod ydi e'n cael ei alw'n Gwyn Stiniog.

"Blaenau Ffestiniog" yw Stiniog, dw i'n meddwl ('ta ydi e'n cynnwys Llan hefyd?)
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Gwyn Stiniog

Postiogan cyfrinair » Sul 18 Mai 2008 3:34 pm

Roedd fy Nhaid yn dod o Flaenau Ffestiniog. Yn ei oes ef, 'Stiniog oedd Blaenau, a Llan oedd LlanFfestiniog.
Er mwyn Cymru
Rhithffurf defnyddiwr
cyfrinair
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 141
Ymunwyd: Llun 01 Rhag 2003 7:56 pm
Lleoliad: fan hyn

Re: Gwyn Stiniog

Postiogan Hazel » Sul 18 Mai 2008 3:46 pm

Diolch yn fawr i chi'ch dau. Ysgrifennodd Gwyn Thomas Rhagair yn "A fu heddwch?" gan Robyn Léwis. Mae'r teitl yn dweud "Gwyn Stiniog". Mae'r llofnod yn dweud "Gwyn Stiniog". Wedyn, o dan, mae'n dweud "(Yr athro Gwyn Thomas, MA,...a.y.y.b.)"

Yn awr, dw i'n deall. Roedd Gwyn Thomas yn dod o Flaenau Ffestiniog sydd yn Stiniog. O'r gorau?
Hazel

Gwell rhoi na derbyn -- yn enwedig cyngor. (Twain)
Hazel
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 530
Ymunwyd: Iau 12 Hyd 2006 9:27 pm
Lleoliad: Missouri, U.D.A

Re: Gwyn Stiniog

Postiogan sian » Sul 18 Mai 2008 4:00 pm

Ie - iawn.
Gan mai llyfr am Orsedd y Beirdd yw A fu heddwch? tybed ai Gwyn Stiniog yw enw gorseddol yr Athro Gwyn Thomas?
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Gwyn Stiniog

Postiogan Hazel » Sul 18 Mai 2008 4:14 pm

sian a ddywedodd:Ie - iawn.
Gan mai llyfr am Orsedd y Beirdd yw A fu heddwch? tybed ai Gwyn Stiniog yw enw gorseddol yr Athro Gwyn Thomas?


Dwn i ddim ond rydw i'n gwybod sut allaf i'n darganfod. Fyddaf i'n gwneud hynny.
Hazel

Gwell rhoi na derbyn -- yn enwedig cyngor. (Twain)
Hazel
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 530
Ymunwyd: Iau 12 Hyd 2006 9:27 pm
Lleoliad: Missouri, U.D.A

Re: Gwyn Stiniog

Postiogan r w jones » Sul 18 Mai 2008 4:54 pm

DWN I DDIM AMDANO FEL DYN, OND FEL BARDD MAE E'N CRAP.

Wnaeth e ddim cofleidio'r gynghanedd. Mae ei farddoniaeth yn Americanaidd-seisnigaidd gachu.

Galwch rosyn yn enw arall, rhosyn yw.

Galwch gachu yn enw arall... cachu yw.
r w jones
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 8
Ymunwyd: Maw 14 Chw 2006 10:06 am

Re: Gwyn Stiniog

Postiogan osian » Sul 18 Mai 2008 6:28 pm

r w jones a ddywedodd:DWN I DDIM AMDANO FEL DYN, OND FEL BARDD MAE E'N CRAP.

Wnaeth e ddim cofleidio'r gynghanedd. Mae ei farddoniaeth yn Americanaidd-seisnigaidd gachu.

Galwch rosyn yn enw arall, rhosyn yw.

Galwch gachu yn enw arall... cachu yw.


Mae o felly, yn fradwr.
Dwi'n eitha licio hynny dwi wedi darllan o'i waith o. Sydd, a bod yn onast ddim llawar mwy na'r ddwy gerdd lefel A, a fush i'n gwrando arnofo yn darllan ei waith llynadd rwbryd.
"I'm hugely confused Ted!"
Rhithffurf defnyddiwr
osian
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 627
Ymunwyd: Mer 20 Meh 2007 2:40 pm
Lleoliad: o flaen sgrin

Re: Gwyn Stiniog

Postiogan Seonaidh/Sioni » Sul 18 Mai 2008 9:07 pm

r w jones a ddywedodd:Wnaeth e ddim cofleidio'r gynghanedd. Mae ei farddoniaeth yn Americanaidd-seisnigaidd gachu.

Fel arfer, mae'n gas gen i bethau Americanaidd - ond rhaid peidio a chondemnio pob dylanwad oddi yno. Hefyd, mae'n ddigon posibl i sgwennu cerddi gwych yn y Saesneg - ac mae'n ddiddorol i geisio llunio enghreifftiau cynghanedd yn y Saesneg. Anodd, anos nag yn y Gymraeg. Felly, mae'n ddigon posibl i fardd Cymraeg geisio profi ei werth fel bardd gan fabwysiadu rhyw ddull Saesneg o sgwenni cerddi - a cheisio gwneud yr un yn y Gymraeg.

Mae'r agwedd sy'n cael ei dangos uchod yn gul dros ben, yn llawn casineb ac yn annheilwng o neb sy'n caru Cymru.
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha

Re: Gwyn Stiniog

Postiogan r w jones » Sul 18 Mai 2008 9:23 pm

Dywedi, gyfaill, 'Mae'r agwedd sy'n cael ei dangos uchod yn gul dros ben.'

Dwi'n cymryd dy fod dy 'uchod' yn cyfeirio at y paragraff a sgwenaist uwch ei ben?

he he

Oblegid, nid yw'r hyn a ddywedi nemor cachu. Tydy sgwenu mewn arddull saesneg yn ddim ond troi cefn ar y Gymraeg; ac i mi yn anghyflawn, yn annigonol, heb fod o'r pridd organig, nac o'r gwreiddiau... felly copi cachu ydyw o ddiwylliant tramor, adlewyrchiad o gysgod angau, rhithwir o'r glan mewn pwll mewn mwd mewn hen ffordd sy'n arwain i nunlle....

A gyda llaw, rwts ydy dweud fod cynganeddu yn saesneg yn anoddach nag yn gymraeg. Mae sgwenu mewn unrhyw iaith mor hawdd ac mor anodd a'i gilydd.

I can tell... [Gol - Wedi dileu ymosodiad personol - ceribethlem]
r w jones
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 8
Ymunwyd: Maw 14 Chw 2006 10:06 am

Nesaf

Dychwelyd i Llenyddiaeth

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 13 gwestai

cron