Sgen ti'm syniad be ti'n siarad amdano - mae hynny'n amlwg o frawddeg gynta dy ail baragraff yn fanna. Mae'r Gymraeg yn aidîal ar gyfer y gynghanedd; mae'r gynghanedd yn rhan o natur a gwead a sŵn yr iaith. Mae sŵn, acenion a goslef y Saesneg yn wahanol mewn ffyrdd sy'n ei gwneud hi'n anos cynganeddu yn yr iaith.r w jones a ddywedodd:Oblegid, nid yw'r hyn a ddywedi nemor cachu. Tydy sgwenu mewn arddull saesneg yn ddim ond troi cefn ar y Gymraeg; ac i mi yn anghyflawn, yn annigonol, heb fod o'r pridd organig, nac o'r gwreiddiau... felly copi cachu ydyw o ddiwylliant tramor, adlewyrchiad o gysgod angau, rhithwir o'r glan mewn pwll mewn mwd mewn hen ffordd sy'n arwain i nunlle....
A gyda llaw, rwts ydy dweud fod cynganeddu yn saesneg yn anoddach nag yn gymraeg. Mae sgwenu mewn unrhyw iaith mor hawdd ac mor anodd a'i gilydd.
Mae'r pwynt yn y paragraff cynta yn geilliau ac yn ymylu ar yr hysteraidd. Dydi'r ffaith fod gennym ni system gywrain ffantastig o fynegiant barddonol yn y Gymraeg ddim yn golygu bod pob un arall yn elyn iddi. Mi gymerodd Caradog Prichard lif-yr-ymwybod o Ffrainc a'i wneud o yn UNOL yn arddull hanfodol Gymraeg.
Felly os ydi bardd vers-libre yn gallu troi'r wers rydd yn rhywbeth â naws Gymraeg iddo trwy'i ieithwedd a natur yr holl beth, mae o'n llwyddo. Dwi o'r farn fod GT yn llwyddo i wneud hynny, tra bod beirdd gwannach yn feirdd Anglo-Americanaidd Cymraeg am nad oes yn eu cerddi Cymraeg nhw mo'r fflach o Gymreigrwydd sy'n eu gwneud nhw'n fwy na chopi cachu.
So dwi yn credu bod gen ti bwynt yn ddyfn yn rwla o ran arddull a Chymreigrwydd - ond nid y gynghanedd ydi'r defining factor i mi.