Brwydr Maes Bosworth

Y Babell Lên ar lein

Cymedrolwr: Llewelyn Richards

Rheolau’r seiat
Y Babell Lên ar lein. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Brwydr Maes Bosworth

Postiogan Hazel » Iau 22 Mai 2008 8:23 pm

Oes unrhywun sy'n gwybod y geiriau i ""Brwydr Maes Bosworth" gan Eben Fardd? Diolch.
Hazel

Gwell rhoi na derbyn -- yn enwedig cyngor. (Twain)
Hazel
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 530
Ymunwyd: Iau 12 Hyd 2006 9:27 pm
Lleoliad: Missouri, U.D.A

Re: Brwydr Maes Bosworth

Postiogan obi wan » Sad 31 Mai 2008 8:36 pm

Awdl yw "Maes Bosworth", Eben Fardd, ac mae'n eithaf hir. Cewch hi yn "Gweithiau Barddonol Eben Fardd", gol Howell Roberts a William Jones.
obi wan
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 61
Ymunwyd: Sad 17 Ebr 2004 3:44 pm

Re: Brwydr Maes Bosworth

Postiogan Hazel » Sad 31 Mai 2008 8:58 pm

obi wan a ddywedodd:Awdl yw "Maes Bosworth", Eben Fardd, ac mae'n eithaf hir. Cewch hi yn "Gweithiau Barddonol Eben Fardd", gol Howell Roberts a William Jones.


O, o'r gorau. Diolch i chi. Byddaf i'n dod o hyd iddi.
Hazel

Gwell rhoi na derbyn -- yn enwedig cyngor. (Twain)
Hazel
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 530
Ymunwyd: Iau 12 Hyd 2006 9:27 pm
Lleoliad: Missouri, U.D.A

Re: Brwydr Maes Bosworth

Postiogan Hazel » Maw 03 Meh 2008 3:31 pm

Ah, dyma hi - y detholiad beth roeddwn i'n chwilio amdani.

Brwydr Maes Bosworth

Ym Mosworth, plannwyd mêsen
Wnelai brif frenhinol bren!
A mêsen oedd o'n maes ni,
O iawn ddâr ein hen dderi...
O Gymro têg, mae'n gwaed da
Yn naturiaeth VICTORIA!
---Eben Fardd (John Williams)
Hazel

Gwell rhoi na derbyn -- yn enwedig cyngor. (Twain)
Hazel
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 530
Ymunwyd: Iau 12 Hyd 2006 9:27 pm
Lleoliad: Missouri, U.D.A

Re: Brwydr Maes Bosworth

Postiogan Macsen » Maw 03 Meh 2008 3:39 pm

Hazel a ddywedodd:O Gymro têg, mae'n gwaed da
Yn naturiaeth VICTORIA!

Doedd Victoria ddim yn ddisgynnydd i Harri VII nagoedd? Dim ond ei fam a'i dad o drwy eich chwaer... :?
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Re: Brwydr Maes Bosworth

Postiogan Hazel » Maw 03 Meh 2008 6:34 pm

Ah, efallai waed tenau iawn iawn iawn drwy Sophia a oedd wyres o James VI & I. Priodiodd James V, tad James VI & I, Margaret Tudor, chwaer Henry VIII.

Rydyn ni'n cydio mewn gwelltyn -- unrhyw gwellt mân! Achubir Eben Fardd eto! :ing:
Hazel

Gwell rhoi na derbyn -- yn enwedig cyngor. (Twain)
Hazel
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 530
Ymunwyd: Iau 12 Hyd 2006 9:27 pm
Lleoliad: Missouri, U.D.A

Re: Brwydr Maes Bosworth

Postiogan Prysor » Gwe 06 Meh 2008 8:24 am

mae gan Kylie Minogue fwy o dreftadaeth Cymraeg nag oedd gan Harri Tudur
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Re: Brwydr Maes Bosworth

Postiogan osian » Gwe 06 Meh 2008 4:47 pm

Prysor a ddywedodd:mae gan Kylie Minogue fwy o dreftadaeth Cymraeg nag oedd gan Harri Tudur

Ond eto mae o'n 10 ucha'r 100 greatest Welshmen :lol: (rhestr y daily post dwi meddwl)
Yr unig syndod wir ydi bod kylie minogue ddim ar y rhestr.

dilynnaf sgwarnog, sori. ac un eitha hen o ran hynny.
"I'm hugely confused Ted!"
Rhithffurf defnyddiwr
osian
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 627
Ymunwyd: Mer 20 Meh 2007 2:40 pm
Lleoliad: o flaen sgrin

Re: Brwydr Maes Bosworth

Postiogan Prysor » Sul 08 Meh 2008 9:40 am

osian a ddywedodd:
Prysor a ddywedodd:mae gan Kylie Minogue fwy o dreftadaeth Cymraeg nag oedd gan Harri Tudur

Ond eto mae o'n 10 ucha'r 100 greatest Welshmen :lol: (rhestr y daily post dwi meddwl)
Yr unig syndod wir ydi bod kylie minogue ddim ar y rhestr.


Dyna engraifft wych o bŵer propaganda.

Defnyddiodd y Norman Harri y ffaith ei fod o dras Cymreig (un taid o gangen Normaneiddiedig o Duduriaid Môn), a phroffwydoliaeth y Mab Darogan, i ennyn a chynnal cefnogaeth y Cymry i'w ymgais lwyddiannus i gipio (dwyn) coron Lloegr i'r Lancastriaid. Wedi cipio'r goron, parhaodd efo'r propaganda er mwyn cadw cefnogaeth y Cymry tra'r oedd yn trio sefydlogi Lloegr a'r Mers. Galwodd ei fab hynaf yn Arthur, a rhoddodd y ddraig goch ar Arfau Coron Lloegr. Roedd y broffwydoliaeth wedi dod yn wir - roedd y 'Brutaniaid wedi ail-gipio coron Prydain'.

Parhaodd y Tuduriaid i ddefnyddio'r cysylltiad Cymreig am yr un rhesymau - er, fel y sefydlogodd Lloegr, y Mers a Chymru dan Harri VIII, prinhau fu'r cyfeiriadau at eu hachau 'Cymreig'. Yn wir, does ond rhaid edrych ar eiriad y Deddfau Uno i weld mai Sais oedd Harri VIII yn gyfrif ei hun.

Bu i Elisabeth I ddefnyddio'r cysylltiad Cymreig hefyd - defnyddiodd stori Madog ap Owain Gwynedd yn darganfod America i hybu claim Prysain i'r cyfandir.

Wedi dyfodiad y Stewartiaid, tynnwyd y ddraig goch Duduraidd oddiar Arfau'r Goron. Ond fel yr aeth amser yn ei flaen, gwelai'r Frenhiniaeth fod cynnal y myth mai Cymry oedd y Tuduriaid yn syniad gwych i gynnal y gefnogaeth gryf oedd yng Nghymru i Goron Lloegr o'r herwydd. Pan ddaeth y Rhyfel Cartref, safodd y Cymry - heblaw am rai unigolion prin - efo'r Brenhinwyr.

Byth ers hynny mae'r Sefydliad - a haneswyr y Sefydiad - wedi hybu'r myth 'ma am y Tuduriaid. Dyma ydym yn gael ein dysgu yn yr ysgol (mae fy mhlant yn cael hanes y Tuduriaid yn yr ysgol gynradd, ond dim hanes tywysogion Cymru). Y rhesymeg ydi cynnal y syniad ym mhennau'r Cymry fod Cymru yn rhan gyfartal o'r Gorn a'r Deyrnas, er i'r wlad gael ei diddymu a'i hiaith gael ei gwahardd o fywyd cyhoeddus.

Mae'r ffaith fod Cymry heddiw yn pleidleisio i Harri Tudur fel un o'r 'Cymry mwyaf amlwg' yn dangos yn glir beth yw grym drip-fed propaganda subtle.
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Re: Brwydr Maes Bosworth

Postiogan osian » Sul 08 Meh 2008 12:59 pm

Oedd bara brith, dafad a dresal Gymreig ar y rhestr hefyd dwi'n meddwl. Ella mai Welsh Icons oddo. digalon.
"I'm hugely confused Ted!"
Rhithffurf defnyddiwr
osian
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 627
Ymunwyd: Mer 20 Meh 2007 2:40 pm
Lleoliad: o flaen sgrin


Dychwelyd i Llenyddiaeth

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 7 gwestai

cron