Reit, mynd ar wylia mewn chydig wythnosau a chwilio am lyfr da i ddarllen, ac yn barod am eich awgrymiadau.
Mae fy spectrwm eithaf eang, llyfrau diwethaf i mi ddarllen oedd 'Pillers of the earth' a 'World without end' gan Ken Follet a ma gennai hanner ffansi mynd am 'wbath arall gan yr awdur yma, efallai 'Through the eye of a needle'. Rywun wedi ei ddarllen?
Dwi ddim yn meindio ym mha iaith, boed yn Gymraeg ne Saesneg os yn lyfr da. Dwi reit hoff o glasuron fel 'Catch 22' , 'Great Expectations' a 'Lord of the rings' ac o bosib eisiau darllen mwy o lyfrau fel hyn, 'Catcher in the rye' ??
Ond ar y llaw arall dwi hefyd yn hoffi llyfrau hawdd i ddarllen, ychydig yn 'sgafnach' fel nofelau John Grisham a weithiau Dan Brown.
Felly, dewch ach awgrymiadau, neu efallai be yda chi'n mynd i ddarllen ar eich gwyliau, neu yn gyffredinol drwy'r haf.